Mae'r Arabiaid yn bobl Semitaidd a breswyliai orynys Arabia yn wreiddiol.
Gellir eu rhannu'n fras yn ddau grŵp diwylliannol, sef y llwythi Bedouin nomadaidd a'r cymunedau dinesig ac amaethyddol.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Math | Semitiaid, peoples of the Quran |
Y gwrthwyneb | Ajam |
Label brodorol | عرب |
Crefydd | Islam, cristnogaeth |
Rhan o | Semitiaid |
Enw brodorol | عرب |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd yr Arabiaid yn adanbyddus i'r Groegiaid, y Rhufeiniaid a'r Iddewon yn yr Henfyd. Cyfeirir atynt gan hanesyddion clasurol ac fe'i henwir yn yr Hen Destament yn y Beibl.
Yn y 7g, wedi'u hysbarduno a'u hysbrydoli gan neges y Proffwyd Mohamed a dan bwysau economaidd a chymdeithasol yn ogystal, ymledodd yr Arabiaid dros ran sylweddol o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica. Wrth wneud hynny cludiasant efo nhw cred Islam a'r iaith Arabeg mor bell â'r Maghreb ac Andalucía yn y gorllewin ac Indonesia yn y dwyrain.
Er bod y gair "Arabiaid" yn golygu trigolion Arabia a'u disgynyddion uniongyrchol yn wreiddiol, heddiw mae'n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at drigolion iaith Arabeg de-orllewin Asia, yr Aifft, Gogledd Affrica a rhannau o'r Affrica is-Saharaidd, yn ogystal â phobl Arabaidd sy'n byw tramor.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Arabiaid, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.