Mae'r goeden cnau coco (Cocos nucifera) yn aelod o deulu'r balmwydden (Arecaceae) a'r unig rywogaeth fyw o'r genws Cocos.
Gall y term "cneuen goco" gyfeirio at y balmwydden gnau coco, yr hedyn, neu'r ffrwyth, sydd yn fotanegol yn aeronen, nid cneuen. Mae'r term yn deillio o'r gair 'coco' ym Mhortiwgaleg a Sbaeneg yr 16g, a oedd yn golygu "pen" neu "benglog". Roedd yn cael ei ddefnyddio fel enw am fod tri phant ar gragen y gneuen goco yn debyg i nodweddion wyneb.
Mae cnau coco yn gallu cael eu defnyddio at nifer o bwrpasau, yn amrywio o fwyd i gosmetigau. Mae'r cig sydd yn yr hedyn aeddfed yn rhan gyson o ddeiet nifer o bobl yn y trofannau a'r isdrofannau. Mae cnau coco yn wahanol i ffrwythau eraill am fod eu endosberm yn cynnwys llawer o hylif clir, sy'n cael ei alw'n "llaeth", a phan yn anaeddfed, gellir ei gynaeafu a'i gadw fel "dwr" neu "sudd".
Gall cnau coco aeddfed gael eu defnyddio fel hadau bwytadwy, neu eu prosesu i gael olew neu laeth planhigyn o'r cig, golosg o'r gragen galed, a rhisgl o'r plisgyn edafeddog. Mae cig cnau coco sych yn cael ei alw'n copra, ac mae'r olew a'r llaeth yn aml yn cael eu defnyddio wrth goginio – ffrio yn arbennig – yn ogystal â mewn sebonau a cosmetigau. Gellir defnyddio'r cregyn caled, y plisgyn edafeddog a'r dail hirion fel deunydd ar gyfer amrywiaeth o gynhyrchion addurniedig a dodrefn. Mae gan y gneuen goco arwyddocad diwylliannol a chrefyddol mewn rhai cymdeithasau, yn arbennig yn India, lle mae'n cael ei ddefnyddio mewn defodau Hindŵaidd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Cneuen goco, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.