Electron

Un o ronynnau elfennol y Bydysawd yw’r electron sydd yn ffynhonnell ac yn fodd trosglwyddo trydan.

Mae ganddo wefr drydanol o un uned sylfaenol negatif (−1.602 176 634 × 10−19 Coulomb) a màs o 9.109 × 10−31 kg (tua 1836 gwaith yn llai na màs y proton). Fe’i nodir gan y symbolau e, β neu  .   Mae ganddo swyddogaeth, hefyd, mewn magnetedd a throsglwyddo gwres.  Mae’n rhan hanfodol o bob atom a, thrwy hynny, trosglwyddo electronau yw hanfod gwyddor Cemeg (ac eithrio mathau o gemeg niwclear). Mae i’r electron rôl mewn adweithiau disgyrchol, electromagnetig a’r grym gwan. Ynghyd a’r ffoton (goleuni), mae’n debyg mai’r electron yw’r gronyn elfennol yr ydym mwyaf cyfarwydd â’i bresenoldeb yn ein profiadau beunyddiol.

Electron
Electron
Enghraifft o'r canlynolmath o ronyn cwantwm Edit this on Wikidata
Mathlepton gwefredig, elementary particle Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebtwll electron Edit this on Wikidata
Màs0 ±2.8e-40 cilogram, 0.00054857990907 ±1.6e-14 uned Dalton, 0.5109989461 ±3.1e-09, 0 ±1.1e-38 cilogram Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1897 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganmuon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym Model Safonol ffiseg gronynnau, yr electron yw cenhedlaeth gyntaf (ag iddo wefr) y Leptonau. Nid oes iddo isadeiledd. Yn debyg i bob gronyn elfennol arall, gall yr electronau ymddwyn fel gronynnau ac fel tonnau (ee gellir eu diffreithio megis golau).

Hanes

Roedd yr Hen Roegiaid yn ymwybodol o’r ffenomen trydan (statig yn ein profiad ni) wrth iddynt sylweddoli bod ambr, ar ôl ei rwbio a ffwr, yn ad-dynnu gwrthrychau bychain. Mae’r weithred o rwbio yn trosglwyddo electronau o’r ffwr i’r ambr gan roi iddo wefr negatif. Daw enw’r electron o’r gair Groeg am ambr (ἤλεκτρον (ēlektron)). Erbyn dechrau’r ddeunawfed ganrif dyfarnwyd bod dwy fath o hylif ag iddynt wefr - un negatif (yn gyfrifol am effaith yr ambr) ac un positif (gwydr wedi’i rwbio a sidan). Ond wrth ddehongli arbrofion a wnaeth ar ôl 1746 daeth Benjamin Franklin, y polymath o America, i’r casgliad mai gormodedd neu ddiffyg yr un hylif oedd yn gyfrifol. Ystyriodd mai positif yn ei hanfod oedd yr hylif hwn - ond gan nad oedd modd iddo fesur i ba gyfeiriad roedd yr hylif yn llifo fe wnaeth y penderfyniad “anghywir” a byth ers hynny gwefr negatif sydd i’r hylif (ac i drydan).

Electron 
Tiwb Pelydrau Cathod (yn ôl William Crookes). Gweler cysgod Croes Melita
Electron 
Electronau (gronynnau β) yn gadael darn o Sr90 mewn Siambr Cwmwl.

Canrif yn ddiweddarach darganfuwyd pelydrau cathod (cathode rays) gan yr Almaenwyr Julius Plücker a Eugen Goldstein ac yn 1897 profodd y Sais J.J. Thomson mai gronynnau unigol oedd yn gyfrifol am y ffenomen. Mesurodd eu gwefr a’i màs yn eithaf manwl. Rhoddwyd yr enw electron iddynt gan y gymuned wyddonol ryngwladol. Yn 1911, datblygodd yr Albanwr Charles Wilson Siambr Cwmwl a oedd yn dangos llwybrau gronynnau ag iddynt wefrau - gan gynnwys yr electron. Dyfarnwyd iddo hanner Wobr Nobel Ffiseg 1927 am y ddyfais. Defnyddio a datblygu’r Siambr Cwmwl oedd conglfaen arbrofion y Cymro Evan James Williams a gymerodd rhan flaenllaw yn natblygiad ffiseg y cwantwm yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Un o ffrwyth pwysicaf y datblygiadau yma oedd dehongli natur ac ymddygiad yr electron yn yr atom gan Ernest Rutherford, Niels Bohr, Gilbert Newton Lewis, Wolfgang Pauli, Erwin Schrödinger, Paul Dirac ag eraill.

Modd o gynhyrchu a llywio ffrwd o electronau yw'r Tiwb Pelydr Cathod (CRT) a datblygwyd gan Plücker ag eraill ar droad yr ugeinfed ganrif. Daw'r electronau o "gwn" electronau (y cathod) ac wrth symud trwy wactod y tiwb mae modd eu llywio trwy feysydd drydanol neu fagnetig i gyflyru patrymau o olau mewn haen o ffosffor ar wyneb y tiwb. Yn 1926 dangosodd y peiriannydd o Japan, Kenjiro Takayanagi, Teledu (CRT) am y tro cyntaf. Roedd 40 llinell i'w lun. Tan dyfodiad y sgrîn fflat ar ddiwedd y ganrif, gellid dadlau mae'r CRT oedd un o ddyfeisiadau mwyaf dylanwadol y ganrif.

Erbyn heddiw mae deall ymddygiad yr electron a’i defnyddio yn ganolog i’r electroneg sydd wrth gefn cymaint o fyd yr Unfed Ganrif ar Hugain.

Cyfeiriadau

Electron  Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Bydysawd (seryddiaeth)CemegCoulombDisgyrchiantElectromagnetegFfotonGronyn isatomigGwefr drydanolProtonRhyngweithiad gwanTrydan

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Leopold III, brenin Gwlad BelgAlbert o Sachsen-Coburg a GothaPwyllgor TrosglwyddoNia Ben AurHentaiFfilm yng NghanadaGwladwriaeth IslamaiddGambloHer & HimBermudaLlenyddiaeth yn 2023Comin CreuHunan leddfuNoson o FarrugGwainTisanidin1954Wicipedia CymraegY Deyrnas Unedig20gCosiCeffylSian PhillipsElizabeth Taylor18 ChwefrorHelen o Waldeck a PyrmontHentai KamenRhyw geneuolEbrillGwlad GroegHenry Watkins Williams-Wynn29 IonawrBrexitSisters of AnarchyGolffUnited NationsRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd Iwerddon3 TachweddDemolition ManS4CRhyfel Gaza (2023‒24)1533Ethan AmpaduLlundainTitan (lloeren)Béla BartókStar TrekBelarwsAlergeddWilhelm DiltheyRadioheadAlexander Vlahos6 Gorffennaf1942Albert CamusHugo ChávezMcDonald'sRhyw rhefrolSystem atgenhedluRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrWiciadurEmoções Sexuais De Um CavaloOrganau rhywHaslemereTîm Pêl-droed Cenedlaethol yr Almaen🡆 More