Dosbarthiad Gwyddonol

Mewn bioleg, tacsonomeg (o'r Groeg hynafol τάξις sef tacsis) yw'r astudiaeth wyddonol o enwi, diffinio a dosbarthu grwpiau o organebau biolegol yn seiliedig ar nodweddion cyffredin.

Mae organebau wedi'u grwpio'n tacsa (unigol: tacson) a rhoddir rheng dacsonomig i'r grwpiau hyn; gellir rhestru rheng benodol i ffurfio grŵp mwy cynhwysol o safle uwch, gan greu yr hyn a elwir yn 'hierarchaeth dacsonomig'. Y prif rengoedd heddiw yw parth, teyrnas, ffylwm (defnyddir rhaniad weithiau mewn botaneg yn lle ffylwm), dosbarth, urdd, teulu, genws, a rhywogaeth. Ystyrir y botanegydd o Sweden, Carl Linnaeus, fel sylfaenydd y system dacsonomeg, wrth iddo ddatblygu system restredig a elwir yn dacsonomeg Linnaeaidd ar gyfer categoreiddio organebau ac enwau deuenwol ar gyfer enwi organebau.

Lefelau dosbarthiad biolegolRhywogaethGenwsTeuluUrddDosbarthFfylwmTeyrnasParthBywyd
Lefelau dosbarthiad biolegol

Dosbarthiad Gwyddonol
Y prif rengoedd mewn dosbarthiad biolegol.

Gyda datblygiadau mewn theori, data a thechnoleg ddadansoddol o systemateg fiolegol, mae'r system Linnaeaidd wedi trawsnewid yn system o ddosbarthu biolegol modern gyda'r bwriad o adlewyrchu'r perthnasoedd esblygiadol rhwng organebau byw ac wedi difodi.

Diffiniad

Mae union ddiffiniad tacsonomeg yn amrywio o ffynhonnell i ffynhonnell, ond erys craidd y ddisgyblaeth: cenhedlu, enwi a dosbarthu grwpiau o organebau. Fel pwyntiau cyfeirio, cyflwynir diffiniadau diweddar o dacsonomeg isod:

  1. Y theori a'r ymarfer o grwpio unigolion yn rywogaethau, trefnu rhywogaethau yn grwpiau mwy, a rhoi enwau i'r grwpiau hynny, gan gynhyrchu 'dosbarthiad'.
  2. Maes gwyddoniaeth (a phrif gydran systemateg) sy'n cwmpasu disgrifio, adnabod, enwi a dosbarthu.
  3. Gwyddor dosbarthiad. Mewn bioleg trefnu organebau yn ddosbarthiad.
  4. "Gwyddor dosbarthiad fel y'i cymhwysir i organebau byw, gan gynnwys astudio dulliau ffurfio rhywogaethau, ac ati."
  5. "Dadansoddiad o nodweddion organeb i'r dibenion o'u dosbarthu".
  6. "Mae systemeg yn astudiaeth o ffylogenedd i ddarparu patrwm y gellir ei gyfieithu i ddosbarthiad ac enwau mwy cynhwysol ym maes tacsonomeg" (a restrir fel diffiniad dymunol ond anarferol).

Mae'r diffiniadau amrywiol hyn naill ai'n gosod tacsonomeg fel is-faes o systemateg (diffiniad 2), yn gwrthdroi'r berthynas honno (diffiniad 6), neu'n ymddangos eu bod yn ystyried y ddau derm yn gyfystyr. Ceir rhywfaint o anghytundeb a yw enwi biolegol yn cael ei ystyried yn rhan o dacsonomeg (diffiniadau 1 a 2), neu’n rhan o systemateg y tu allan i dacsonomeg. Er enghraifft, mae diffiniad 6 wedi'i baru â'r diffiniad canlynol o systemateg sy'n gosod y gyfundrefn enwau (nomenclature) y tu allan i dacsonomeg:

  • Systemateg : "Yr Astudiaeth o adnabod, tacsonomeg, ac enwi organebau, gan gynnwys dosbarthu pethau byw o ran eu perthnasoedd naturiol ac astudio amrywiad ac esblygiad tacsa".

System hierarchaidd

Dyma'r hierarchaeth o dacsonau, gyda'r prif rengau mewn teip trwm.

  • Parth (Parthau) Regio
  • Teyrnas (Teyrnasoedd) Regnum
  • Is-deyrnas Subregnum
  • Uwch-ffylwm Superphylum
  • Ffylwm (Ffyla) Phylum ¹
  • Is-ffylwm Subphylum
  • Uwch-ddosbarth Superclassis
  • Dosbarth (Dosbarthiadau) Classis
  • Is-ddosbarth Subclassis
  • Uwch-urdd Superordo
  • Urdd (Urddau) Ordo
  • Is-urdd Subordo
  • Uwch-deulu Superfamilia
  • Teulu (Teuluoedd) Familia
  • Is-deulu Subfamilia
  • Llwyth (Llwythau) Tribus
  • Genws (Genera) Genus
  • Uwch-rywogaeth Superspecies
  • Rhywogaeth (Rhywogaethau) Species
  • Is-rywogaeth Subspecies

¹ Rhaniad neu adran Divisio: dewis arall i Ffylwm ar gyfer planhigion, ffyngau a bacteria

Enghreifftiau

Rhenc Pryf ffrwythau Bod dynol Pysen Amanita'r pryfed E. coli
Parth Eukaryota Eukaryota Eukaryota Eukaryota Bacteria
Teyrnas Animalia Animalia Plantae Fungi
Ffylwm Arthropoda Chordata Magnoliophyta Basidiomycota Proteobacteria
Is-ffylwm Hexapoda Vertebrata Magnoliophytina Hymenomycotina
Dosbarth Insecta Mammalia Magnoliopsida Homobasidiomycetae Gammaproteobacteria
Is-ddosbarth Pterygota Placentalia Magnoliidae Hymenomycetes
Urdd Diptera Primates Fabales Agaricales Enterobacteriales
Is-urdd Brachycera Haplorrhini Fabineae Agaricineae
Teulu Drosophilidae Hominidae Fabaceae Amanitaceae Enterobacteriaceae
Is-deulu Drosophilinae Homininae Faboideae Amanitoideae
Genws Drosophila Homo Pisum Amanita Escherichia
Rhywogaeth D. melanogaster H. sapiens P. sativum A. muscaria E. coli

Teyrnas a Pharth

Yn yr Yr Oesoedd Canol disgrifiwyd rhywogaethau gwahanol o fewn genws gyda rhestr hir o dermau Lladin. Nid tan y 18fed ganrif y cyflwynodd Carolus Linnaeus (1707-1778) y system sy’n dal mewn defnydd heddiw, lle defnyddir dim ond dau air, un am y genws ac un am y rhywogaeth. Yr enw am y system hon yw'r system ddeuenwol. Yn Systema Naturae Carolus Linnaeus (1735), rhennir pethau byw yn ddwy deyrnas: Animalia a Vegetabilia. Ers hynny, datblygodd gwayddoniaeth a thechnoleg ac mae llawer wedi ei ganfod ynglŷn ag organebau un-gellog, ymysg pethau eraill, felly roedd angen system mwy cynnil. Yn y 1960au cyflwynwyd y gair 'Rank' a newidiwyd yn ei dro i 'Domain' (Cymraeg: Parth).

Un system o'r fath yw'r system 6-teyrnas a ddefnyddir yn UDA, lle rhennir organebau yn Bacteria, Archaea, Protista, Fungi (Ffwng), Plantae (Planhigion) ac Animalia (neu 'Anifeiliaid'). Yng ngwledydd Prydain, India, Awstralia ac America Ladin, fodd bynnag, defnyddir 5-teyrnas, sef: Anifeiliaid, Planhigion, Ffwng, Protista a Monera. Mae rhai dulliau o ddosbarthu bywyd yn hepgor y term "Teyrnas", gan nodi nad yw'r teyrnasoedd traddodiadol yn perthyn i un hynafiad cyffredin.

Mae'r tabl canlynol yn crynhoi datblygiad y systemau o ddosbarthu pethau byw dros y blynyddoedd.


Linnaeus
1735
Haeckel
1866
Chatton
1925
Copeland
1938
Whittaker
1969
Woese et al.
1977
Woese et al.
1990
Cavalier-Smith
1993
Cavalier-Smith
1998
2 teyrnas 3 teyrnas 2 ymerodraeth 4 teyrnas 5 teyrnas 6 kingdoms 3 parth 8 teyrnas 6 teyrnas
(dim) Protista Prokaryota Monera Monera Eubacteria Bacteria Eubacteria Bacteria
Archaebacteria Archaea Archaebacteria
Eukaryota Protista Protista Protista Eucarya Archezoa Protosoa
Protosoa
Chromista Chromista
Planhigion Plantae Plantae Plantae Plantae Plantae Plantae
Ffwng Ffwng Ffwng Ffwng
Animalia Animalia Animalia Animalia Animalia Animalia Animalia


Cyfeiriadau

Tags:

Dosbarthiad Gwyddonol DiffiniadDosbarthiad Gwyddonol System hierarchaiddDosbarthiad Gwyddonol EnghreifftiauDosbarthiad Gwyddonol Teyrnas a PharthDosbarthiad Gwyddonol CyfeiriadauDosbarthiad GwyddonolBywydegCarolus LinnaeusDosbarth (bioleg)Enw deuenwolFfylwmGenwsGwyddoniaethOrganeb bywParth (bioleg)RhywogaethTacsonTeulu (bioleg)Teyrnas (bioleg)Urdd (bioleg)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

WiciadurL'âge AtomiquePlanhigynY Brenin ArthurEisteddfod Genedlaethol CymruRecordiau CambrianJohn Frankland RigbyPen-y-bont ar OgwrTwrciNewyddiaduraethAfon TeifiDreamWorks PicturesTomatoDurlif2020auCyfathrach Rywiol FronnolTudur OwenNovialIsabel IceAngela 2Anna VlasovaY Celtiaid1724Siambr Gladdu TrellyffaintSystème universitaire de documentationAn Ros MórBad Man of DeadwoodEmyr DanielMalavita – The FamilyCiOes y TywysogionDynesWcráinEconomi CymruFfilm gyffroPrif Weinidog CymruRhyfel Gaza (2023‒24)Tŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig)RhyfelMark TaubertDriggIndonesiaNargisMegan Lloyd GeorgeYsgol Gyfun Gymunedol PenweddigVin DieselIndiaIs-etholiad Caerfyrddin, 1966TsukemonoBwcaréstCalifforniaLeighton JamesWalking TallCyfarwyddwr ffilmAlbert Evans-JonesArchdderwyddArfon WynCarles PuigdemontSafleoedd rhywBenjamin FranklinYr Undeb EwropeaiddFfilm llawn cyffroAutumn in MarchLlygreddMain PageAssociated Press🡆 More