Hominidae

Teulu o epaod mawr a nodweddir gan wyneb di-flew gyda gwefusau ymwthiol a dwylo gydag olion bysedd cymhleth ac ewinedd gwastad yw'r Hominidae (hefyd: epaod mawr neu hominidau), sy'n cynnwys saith rhywogaeth mewn 4 genws: Pongo, orangwtang Borneo, orangwtang Sumatra; Gorila, gorila gorllewinol, gorila'r Dwyrain; Pan, y tsimpansî cyffredin a bonobo; a Homo, sef bod dynol.

Hominidae
Amrediad amseryddol: Mïosen-Holosen, 14–0 Miliwn o fl. CP
Pg
Hominidae
Dau hominid: Bod dynol (Homo sapiens) a tsimpansî cyffredin (Pan troglodytes)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Is-urdd: Haplorhini
Uwchdeulu: Hominoidea
Teulu: Hominidae
  • Pongidae Elliot, 1913
Teip-enws
Homo
Linnaeus, 1758
Genws

Gyda darganfyddiadau archaeolegol newydd, mae'r dosbarthiad gwyddonol yn newid yn aml, ac mae union ddiffiniad y gair hominid hefyd wedi newid dros y blynyddoedd. At fodau dynol (Homo) a'u perthnasau agos yn unig y cyfeiriai ar y cyhwyn. Bellach defnyddir y term 'hominin' i'w disgrifio y grŵp hwn. Erbyn yr 21ain ganrif roedd y gair 'hominid' yn cynnwys yr 'epaod mawr' i gyd, gan gynnwys bodau dynol.

Trigodd yr hynafiaid cyffredin agosaf i'r presennol oddeutu 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP) pan wahanodd hynafiaid yr orangwtang o linell y tri genera arall. Roedd hynafiaid y teulu Hominidae eisioes wedi gwahanu o deulu'r Hylobatidae (y giboniaid), rhwng 15 a 20 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Dosbarthiad

Fel rheol, fe'i dosberthir fel a ganlyn:

  • Teulu Hominidae
    • Is-deulu Ponginae
      • Genws Pongo
        • Orangwtang Borneo, Pongo pygmaeus
          • Pongo pygmaeus pygmaeus
          • Pongo pygmaeus morio
          • Pongo pygmaeus wurmbii
        • Orangwtang Sumatra, Pongo abelii
    • Is-deulu Homininae
      • Llwyth Gorillini
        • Genws Gorilla
          • Gorila Gorllewinol, Gorilla gorilla
            • Gorila Gorllewinol yr Iseldir, Gorilla gorilla gorilla
            • Gorila Afon Cross, Gorilla gorilla diehli
          • Gorila Dwyreiniol, Gorilla beringei
            • Gorila Mynydd, Gorilla beringei beringei
            • Gorila Dwyreiniol yr Iseldir, Gorilla beringei graueri
      • Llwyth Hominini
        • Genws Pan
          • Tsimpansî Cyffredin, Pan troglodytes
            • Tsimpansî'r Canolbarth, Pan troglodytes troglodytes
            • Tsimpansî Gorllewin Affrica, Pan troglodytes verus
            • Tsimpansî Nigeria, Pan troglodytes vellerosus
            • Tsimpansî Dwyreiniol, Pan troglodytes schweinfurthii
          • Bonobo (tsimpansî lleiaf), Pan paniscus
        • Genws Homo

Tags:

Bod dynolBonoboEpaGenwsGorila GorllewinolGwefusHomoLlawRhywogaethWyneb

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

ElectricityGwyddor Seinegol RyngwladolCymdeithas yr IaithPandemig COVID-19CaergaintUm Crime No Parque PaulistaAmaeth yng NghymruWalking TallFfisegPreifateiddioAlan Bates (is-bostfeistr)Y Cenhedloedd UnedigNaked SoulsCaethwasiaethLlydawPussy RiotPalesteiniaidHenry LloydRhestr o ddirwasgiadau yng Ngwledydd PrydainWho's The BossSteve JobsGareth Ffowc RobertsRSSThe Songs We SangGramadeg Lingua Franca NovaDerbynnydd ar y topPysgota yng NghymruSiot dwadIeithoedd BerberTeotihuacánHuw Chiswell8 EbrillEagle EyeJohn Bowen JonesWdigNia Ben AurBlwyddynPalas HolyroodEva StrautmannStuart SchellerFideo ar alwWiciBugbrooke9 EbrillLlanw LlŷngrkgjWicipediaEmily TuckerCyfarwyddwr ffilmWhatsAppEBayYouTubeHentai KamenPornograffiBlaenafonFfilm bornograffigYnys MônArchaeolegMorlo YsgithrogYws GwyneddDisgyrchiantVitoria-GasteizEsgob24 MehefinConwy (etholaeth seneddol)Eliffant (band)DagestanRaymond BurrMons veneris🡆 More