Cyfnod daearegol a ddechreuoedd tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac y daeth i ben tua 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw'r Cyfnod Silwraidd.
Cyfnod Silwraidd 443.7–416 miliwn o flynyddoedd yn ôl | |
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr | ca. 14 Cyfaint % (70 % o lefel a geir heddiw) |
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr | ca. 4500 rhan / miliwn (16 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol)) |
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb | ca. 17 °C (3 °C uwch na'r lefel heddiw) |
Lefel y môr (yn uwch na heddiw) | Tua 180m |
Roedd yn dilyn y Cyfnod Ordofigaidd a daeth y Cyfnod Defonaidd ar ôl y Cyfnod Silwraidd. Mae'n gyfnod a welodd ddifodiant 60% o anifeiliaid a phlanhigion môr.
Disgrifiodd y daearegydd Syr Roderick Murchison y Cyfnod Silwraidd am y tro cyntaf pan gyhoeddodd y llyfr The Silurian System ym 1839, ar ôl gweld creigiau yn Nhraethau Marloes, De Cymru. Enwyd y Cyfnod ar ôl y Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr ardal.
Yn ystod y Cyfnod Silwraidd roedd Uwchgyfandir Gondwana yn dal i fod yn y de, ond ffurfiodd y cyfandiroedd eraill yr Uwchgyfandir mawr Laurasia.
Cwrelau a brachiopodau yw'r ffosilau a geir mewn creigiau o'r Cyfnod Silwraidd.
Un o brif nodweddion y cyfnod hwn yw datblygiad esgyrn mewn pysgod. Yn ail, gwelwyd bywyd yn dod i'r lan - ar y tir - mewn ffurfiau fel mwsogl, planhigion fasgwlaidd yn tyfu ar lan llynnoedd nentydd ac arfordiroedd; dyma'r cyfnod hefyd pan welwyd arthropodau ar y tir. Fodd bynnag, mae'n rhaid aros tan y cyfnod Defonaidd cyn gweld esblygiad pellach ar y tir, a'r amrywiaeth enfawr a ddaeth wedi'r cyfnod Silwraidd.
Ceir pedair israniad o fewn y cyfnod Silwraidd, a elwir yn 'epocau':
Cyfnod blaen | Cyfnod hon | Cyfnod nesaf |
Ordofigaidd | Silwraidd | Defonaidd |
Cyfnodau Daearegol |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Silwraidd, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.