Actor Cymreig yw Gwyn Elfyn (ganwyd 29 Chwefror 1960), sydd fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Denzil Rees ar opera sebon Pobol y Cwm ers 1984.
Daeth ei rôl yn y rhaglen i ben yn 2012, wedi 28 mlynedd yn portreadu'r cymeriad.
Gwyn Elfyn | |
---|---|
Ganwyd | Gwyn Elfyn Lloyd Jones 29 Chwefror 1960 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, gweinidog yr Efengyl |
Ganwyd Gwyn Elfyn Lloyd Jones yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor yn fab i'r Parchedig Tudor Lloyd Jones a Deilwen Medi Jones. Magwyd yn Deiniolen lle roedd ei dad yn weinidog ar gapel Ebeneser. Symudodd y teulu i Garno yn 1963, lle ganwyd Bethan, chwaer i Gwyn, yn Medi 1964. Yn Nhachwedd 1964 symudodd y teulu eto i Borthmadog. Yn Hydref 1968 symudodd y teulu i Drefach ger Caerfyrddin a fe arhosodd yn yr ardal ers hynny. Yn fab i weinidog roedd yn cael ei adnabod fel Gwyn y Mans yng Nghwm Gwendraeth.
Aeth i Ysgol Gynradd Drefach ac Ysgol Ramadeg y Gwendraeth cyn astudio drama ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ar ôl graddio, cafodd ei swydd actio cyntaf gyda Cwmni Theatr Crwban. Yn 1984, daeth cynhyrchydd Pobol y Cwm ar y pryd, Myrfyn Owen, i'w weld yn perfformio gyda'r cwmni ac fe gynigwyd rhan yn yr opera sebon iddo.
Yn 2016 cafodd ei sefydlu fel gweinidog eglwys Bethesda, Y Tymbl.
Mae'n briod a Caroline a mae ganddynt ddau fab, Rhodri a Rhys.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwyn Elfyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.