Canwr gwerin, baledwr, cyhoeddwr a cherddor Cymreig yw Arfon Gwilym (ganwyd Medi 1950), sy'n enedigol o Rydymain, rhwng Dolgellau a'r Bala, Gwynedd.
Mae'n enwog hefyd fel ymgyrchydd iaith ac am ei waith yn hybu canu Plygain a cherdd dant dros y blynyddoedd.
Arfon Gwilym | |
---|---|
Ganwyd | 1 Medi 1950 Rhydymain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr |
Daeth i'r amlwg yn y noson honno ym Mhafilwn Corwen "Tafodau Tân", ble canodd ddiweddariad o'r gân draddodiadol Marged Fwyn Ferch Ifan yn ystod Eisteddfod Rhuthun yn 1973.
Bu'n ohebydd gyda phapur newydd Y Cymro am dros ddeg mlynedd ac mae wedi ymwreiddio ers hynny yn ardal Meifod a Llanfyllin, Powys.
Mae'n frawd i'r actor Dyfan Roberts.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Arfon Gwilym, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.