Blaidd

Mamal o'r teulu Canidae yw'r Blaidd (Canis lupus).

Blaidd
Blaidd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Carnivora
Teulu: Canidae
Genws: Canis
Rhywogaeth: C. lupus
Enw deuenwol
Canis lupus
Linnaeus, 1758
Blaidd
Dosbarthiad y Blaidd. Gwyrdd:dosbarthiad heddiw; Coch:dosbarthiad hanesyddol.

Y Blaidd yw'r aelod mwyaf o'r teulu, 0.6 hyd 0.9 medr (26–36 modfedd) o daldra wrth yr ysgwydd, ac yn pwyso rhwng 32 a 62 kilogram (70–135 pwys). Dangoswyd trwy astudiaethau DNA fod y ci yn perthyn yn agos i'r blaidd, ac yn cael ei roi yn yr un rhywogaeth Canis lupus; ystyrir y ci fel yr is-rywogaeth C. lupus familiaris.

Ar un adeg roedd y blaidd yn gyffredin dros y rhan fwyaf o Ewrop a Gogledd America, ond mae hela a difrodi yr amgylchedd wedi gostwng ei niferoedd yn sylweddol. Credir fod y boblogaeth fwyaf yn Kazakhstan, sydd a tua 90,000, a Canada (tua 60,000). Credir i'r blaidd olaf yng Nghymru gael ei ladd rywbryd tua dechrau'r 16g, er nad oes sicrwydd o hyn. Diflannodd bleiddiaid yr Alban ac Iwerddon yn ystod y 18g.

Ymlediad yn Ewrop

Ffrainc

O 2021 ymlaen, amcangyfrifir bod y boblogaeth genedlaethol tua 580 o unigolion ledled y wlad ac mae'r rhywogaeth yn parhau i ledaenu i'r gogledd-orllewin. Daeth tystiolaeth flaenorol i awgrymu bod bleiddiaid yn dechrau ail-gytrefu i orllewin Ffrainc ym mis Hydref 2021, pan ddarganfuwyd un yn farw yn Loire-Atlantique, ar ôl dioddef damwain ffordd.

Yn Llydaw cafodd anifail ei ffilmio gan drap camera yng nghwmwd Berrien, sydd wedi'i leoli ym Mynyddoedd Arrée, ar 3 Mai 2022. Gorwedd Berrien rhyw 45 km i'r dwyrain o Brest , yn adran ogledd-orllewinol Penn-ar-Bed .

Cafodd y blaidd ei alltudio o wlad Llydaw yn gynnar yn yr 20fed ganrif oherwydd pwysau hela, ac fe'i collwyd yn ddiweddarach o Ffrainc gyfan. Fodd bynnag, wrth i erledigaeth leddfu, ail-gytrefodd y cŵn yn naturiol wrth i unigolion symud i dde Ffrainc o'r Eidal trwy'r Alpau yn gynnar yn y 1990au

Symbolaeth a mytholeg

Rhoddir lle pwysig i'r blaidd mewn mytholeg a llên gwerin; er enghraifft yr hanes am Romulus, sefydlydd dinas Rhufain, a'i efaill Remus yn cael eu magu gan fleiddast pan yn blant. Ym mytholeg Llychlyn, ar ddiwedd y byd bydd Odin yn arwain y duwiau da yn erbyn lluoedd y fall ac yn ymladd â'r blaidd ofnadwy Fenris i amddiffyn Asgard. Yn chwedl Math fab Mathonwy mae Math yn cosbi Gwydion fab Dôn a'i frawd Gilfaethwy fab Dôn am dreisio Goewin a dechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Deheubarth trwy eu troi yn flaidd a bleiddast am flwyddyn. Dychwelant gyda mab a gaiff ei fedyddio gyda'r enw Bleiddwn.

Cysylltir y blaidd yn aml a seintiau; er enghraifft y chwedl adnabyddus am Sant Ffransis o Assisi yn dofi blaidd oedd wedi bod yn ddychryn i ddinas Gubbio. Yng Nghymru, dywedir fod gan y sant Brynach Wyddel flaidd dof oedd yn gwarchod ei fuwch.

Roedd y blaidd hefyd yn symbol o ffyrnigrwydd, ac o'r herwydd byddai'r enw "Blaidd" yn cael ei roi i ryfelwyr, er enghraifft Rhirid Flaidd yng Nghymru. Ceir "blaidd" neu "bleiddast" mewn llawer o enwau lleoedd yng Nghymru, er enghraifft Casblaidd yn Sir Benfro.

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

Chwiliwch am blaidd
yn Wiciadur.

Tags:

Blaidd Ymlediad yn EwropBlaidd Symbolaeth a mytholegBlaidd Gweler hefydBlaidd LlyfryddiaethBlaidd CyfeiriadauBlaiddCiDNAKilogramMamal

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Michelle ObamaKarin Moglie VogliosaYumi WatanabeEglwys-bachRobert GwilymRule BritanniaSenedd y Deyrnas UnedigTeulu'r MansUn Nos Ola LeuadVolkswagen TransporterAmaethyddiaethYr Undeb SofietaiddLUTCIago I, brenin yr AlbanMari, brenhines yr AlbanAlhed LarsenCerdd DantFacebookWiciArgyfwng tai CymruBysSposa Nella Morte!Huw ChiswellThe Fantasy of Deer WarriorEnglynCarles PuigdemontEginegAbertawe (sir)Is-etholiad Caerfyrddin, 1966Yr Ynysoedd DedwyddMenter gydweithredolEfrog NewyddChirodini Tumi Je AmarThe Heart of a Race ToutNapoleon I, ymerawdwr FfraincY Deuddeg ApostolBrandon, SuffolkHarmonicaDmitry MedvedevTaith y PererinAda LovelaceBydysawd (seryddiaeth)Alban HefinA Night at The RoxburyAngharad MairCipinHellraiserY Deyrnas UnedigEnglar AlheimsinsFfraincYmdeithgan yr UrddBu・SuThe Magnificent Seven RideBryn TerfelCelfTor (rhwydwaith)Aaron RamseyThe Commitments (ffilm)Johann Wolfgang von GoetheReturn of The SevenTylluan glustiogAlice BradyHello! Hum Lallan Bol Rahe HainEfrogSystem weithredu22Lerpwl🡆 More