Rhennir Ffrainc yn 18 région (rhanbarth), sy'n cynnwys 13 région yn y Ffrainc ddinesig a 5 rhanbarth tramor.
Mae un o'r rhanbarthau dinesig, Corsica (Corse), yn cael ei ddiffinio fel 'cymuned diriogaethol'. Y rhanbarthau yw'r lefel uchaf yn israniadau tiriogaethol a gweinyddol Gweriniaeth Ffrainc; rhennir y rhanbarthau hyn yn eu tro yn départements.
Enghraifft o'r canlynol | math o adran weinyddol Ffrainc, math o endid cyfreithiol yn Ffrainc |
---|---|
Math | awdurdod lleol yn Ffrainc, is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, adran tiriogaethol Ffrainc, etholaeth, rhanbarth gweinyddol |
Rhan o | lefel 3 o gategorïau cyfreithiol yn Ffrainc |
Dechrau/Sefydlu | 4 Mehefin 1960 |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeth y 18 rhanbarth i fodolaeth ar 1 Ionawr 2016; cyn hynny roedd 27 rhanbarth. Bathwyd y term région yn swyddogol yn Neddf Datganoli 2 Mawrth 1982.
Mae rhanbarthau Ffrainc yn ardaloedd daearyddol diffiniedig yn ogystal, i gryn raddau, a gysylltir â hunaniaeth ddiwyllianol a hanesyddol sy'n aml yn rhagddyddio Ffrainc ei hun fel uned wleidyddol.
Gan fod Ffrainc yn wladwriaeth ganolog, nid oes gan y rhanbarthau rym i greu deddfau na chodi trethi. Ond maent yn derbyn cyfran o'r arian a gofir gan drethi cenedlaethol gan y llywodraeth ganolog ac felly mae ganddynt gyllid sylweddol ac mae ganddynt ryddid i'w gwario yn ôl yr angen.
O bryd i'w gilydd, mae dadl yn codi dros gael mwy o ymreolaeth ar lefel ranbarthol, ond mae hyn yn arwain at anghytundeb yn aml. Mae rhai pobl wedi galw yn ogystal am gael gwared â'r cynghorau yn y départements a rhoi ei grym a'u swyddogaeth i'r rhanbarthau, gan gadw'r départements fel israniadau gweinyddol yn unig, ond hyd yn hyn nid oes symudiad i'r cyfeiriad hwnnw.
Yn 2014, pasiodd Senedd Ffrainc (y Cynulliad Cenedlaethol a'r Senedd) cyfraith i leihau nifer y rhanbarthau ar dir mawr Ffrainc a Chorsica o 22 i 13. Daeth y rhanbarthau newydd i rym ar 1 Ionawr 2016.
Rhoddwyd enwau dros dro ar gyfer y rhan fwyaf o ranbarthau newydd drwy gyfuno enwau'r hen ranbarthau, e.e. enw dros dro'r rhanbarth newydd sy'n cynnwys Aquitaine, Poitou Charentes a Limousin yw Aquitaine-Limousin-Poitou Charentes. Bydd enwau parhaol yn cael eu cynnig gan y cynghorau rhanbarthol newydd a'u gadarnhau gan y Conseil d'etat erbyn 1 Gorffennaf 2016. Bydd yr enwau newydd yn cael eu cadarnhau gan y Conseil d'etat erbyn mis Hydref 2016. Mae dau ranbarth, Auvergne-Rhône-Alpes a Bourgogne-Franche-Comté, wedi dewis cadw eu henwau interim.
Rhanbarthau unedig newydd:
Cyn rhanbarthau | Rhanbarth newydd (enw dros dro) | Enw newydd (i'w cadarnhau) | |
Burgundy | Bourgogne-Franche-Comté | Bourgogne-Franche-Comté | |
Franche-Comté | |||
Aquitaine | Aquitaine-Limousin-Poitou-Charentes | Aquitaine Newydd | |
Limousin | |||
Poitou-Charentes | |||
Basse-Normandie | Normandie | Normandie | |
Haute-Normandie | |||
Alsace | Alsace-Champagne-Ardenne-Lorraine | Grand Est | |
Champagne-Ardenne | |||
Lorraine | |||
Languedoc-Roussillon | Languedoc-Roussillon-Midi-Pyrénées | Ocsitania | |
Midi-Pyrénées | |||
Nord-Pas-de-Calais | Nord-Pas-de-Calais-Picardie | Hauts-de-France | |
Picardie | |||
Auvergne | Auvergne-Rhône-Alpes | Auvergne-Rhône-Alpes | |
Rhône-Alpes |
Rhanbarthau sy'n aros yr un fath:
Bretagne | |
Centre-Val de Loire | |
Corsica | |
Île-de-France | |
Pays de la Loire | |
Provence-Alpes-Côte d'Azur |
1. Alsace 10. Franche-Comté | 12. Île-de-France |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhanbarthau Ffrainc, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.