Porthmadog: Tref a chymuned yng Nghymru

Tref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Porthmadog neu Port ar lafar.

Fe'i lleolir ar aber Afon Glaslyn yn Eifionydd. Saif oddeutu 7 km o Gricieth.

Porthmadog
Porthmadog: Hanes, Y dref heddiw, Enwogion
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9281°N 4.1333°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000097 Edit this on Wikidata
Cod OSSH565385 Edit this on Wikidata
Cod postLL49 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Mae dros 65% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Cyn adleoli 1972 arferai fod yn Sir Gaernarfon. Yn 2001 roedd y boblogaeth yn 4,187.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).

Hanes

Hanes diweddar

Porthmadog: Hanes, Y dref heddiw, Enwogion 
Y Cob

Datblygodd Porthmadog ar ôl i W. A. Madocks, Aelod Seneddol dros Boston, Swydd Lincoln, yn Lloegr, adeiladu'r morglawdd a elwir y Cob er mwyn adennill tir amaethyddol o'r Traeth Mawr, a orchuddid gan y môr yn yr hen ddyddiau pan fyddai'r llanw i mewn. Datblygodd Porthmadog yn borthladd pwysig i allforio llechi o'r chwareli ym Mlaenau Ffestiniog, ac fe adeiladwyd y rheilffordd fyd-enwog, Rheilffordd Ffestiniog i gario'r llechi o Ffestiniog i Borthmadog. Am ddegawdau, bu Porthmadog yn bwysig iawn yn niwydiant llechi'r byd, ond gyda'r dirywiad yn y diwydiant llechi collodd y porthladd ei bwysigrwydd.

Roedd adeiladu llongau yn ddiwydiant pwysig yn y dref hefyd. Efallai mai'r mwyaf enwog o longau Porthmadog oedd y sgwneri tri mast a adeiladwyd rhwng 1891 a 1913. Adnabyddid y rhain fel y Western Ocean Yachts, a dywedir eu bod ymysg y llongau hwylio prydferthaf a adeiladwyd erioed. Yn 1913 lansiwyd y Gestiana, y llong olaf i'w hadeiladu yma.

Olion hynafol

Ceir clwstwr cytiau caeedig Parc y Borth gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Y dref heddiw

Porthmadog: Hanes, Y dref heddiw, Enwogion 
Taliesin yn croesi Pont Britannia

Bellach, tref dwristaidd yw hi. Fe'i gelwir yn aml yn "Fynedfa i Eryri" oherwydd ei safle daearyddol. Mae Rheilffordd Ffestiniog, a ddefnyddir ddyddiau hyn i gario ymwelwyr o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog, a Rheilffordd Eryri, sy'n mynd i Gaernarfon, yn boblogaidd iawn.

Mae Clwb Pêl Droed Porthmadog yn chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray.

Enwogion

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhorthmadog ym 1987. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Porthmadog (pob oed) (4,185)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Porthmadog) (2,827)
  
69.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Porthmadog) (2856)
  
68.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Porthmadog) (831)
  
42.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Atyniadau eraill

Mae'r pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Porthmadog HanesPorthmadog Y dref heddiwPorthmadog EnwogionPorthmadog Eisteddfod GenedlaetholPorthmadog Cyfrifiad 2011Porthmadog Atyniadau eraillPorthmadog Gweler hefydPorthmadog CyfeiriadauPorthmadogAberAfon GlaslynCilometrCriciethCymruCymuned (Cymru)EifionyddGwynedd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

March-Heddlu Brenhinol CanadaValenciennesLloegrGweriniaeth IwerddonBy the SeaWhite FlannelsWilliam John GruffyddDon't Look in The AtticRhestr o wledydd gyda masnachfreintiau Burger KingJane's Information GroupDydd SadwrnAngela 2Greek StreetMinafon (cyfres deledu)Ruston, WashingtonJohn SparkesCoordinated Universal TimeRheolaeth awdurdodFfilm llawn cyffro24 AwstTalaith Río NegroBangladeshJason Walford DaviesTair Talaith CymruHormonRichie ThomasDerwyddon Dr GonzoNetherwittonLlandrindodHunan leddfuBrasilRhif Llyfr Safonol RhyngwladolYasser ArafatBig BoobsIndiana Jones and the Last CrusadeGwainWicidataOwen Morris RobertsJudith BrownLouis XI, brenin FfraincCarles PuigdemontDemograffeg y SwistirGhost ShipRhestr gwledydd yn nhrefn eu harwynebeddCyngres yr Undebau LlafurHappy Death Day 2uCahill U.S. MarshalCwm-bach, Llanelli3 SaisonsEmmanuel MacronGrant County, Gorllewin VirginiaFire Down BelowTriple CrossedBydysawd (seryddiaeth)Ynni adnewyddadwyArnold WeskerNantlleBensylCylchfa amserCymraegThe Disappointments RoomCastell CaerfyrddinGorllewin Leeds (etholaeth seneddol)Sex TapeYelloAlexandria RileyHelen DunmorePeiswelltWindsorReynoldstonCarmen AldunateAwstralia🡆 More