Gweddillion creadur byw, neu blanhigyn, o'r gorffennol pell wedi troi'n garreg (carreg waddodol fel rheol) ydy ffosil.
Ffosilota ydy'r weithred o gasglu ffosiliau, a defnyddiwyd y gair hwn yn gyntaf yn 1755 mewn llythyr gan rai o Forrisiaid Môn.
Enghraifft o'r canlynol | gwrthrych ffisegol naturiol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae casglu ac astudio ffosilau ar hyd yr oesoedd (neu'r linell amser ddaearegol yn elfen gyffrous a hanfodol o Baleontoleg: sut a pha bryd y cawsant eu ffurfio a'r berthynas rhyngddynt a'r creigiau o'u cwmpas a sut y maent yn perthyn i'w gilydd, drwy dacsonmoeg. Yn fras gellir dweud fod pob ffosil o leiaf 10,000 o flynyddoedd oed. Mae eu hamrediad felly'n ymestyn o'r ienengaf i'r hynaf yn yr is-raniadau amser canlynol: o'r Gyfres (neu 'Epoc') ddaearegol Holosen hyd at yr Eon Archaean - sef 3.48 biliwn o flynyddoedd yn ôl,
Mae maint ffosiliau'n amrywio'n fawr, felly hefyd maint pethau sy'n fyw heddiw. Gallant amrywio o facteria ungell, un micrometer mewn diametr i ddinosor neu goeden anferthol sy'n pwyso sawl tunnell. Rhan yn unig o'r creadur sydd wedi marw sy'n cael ei gadw ar ffurf ffosil fel arfer: fel arfer y rhan a fineraleiddiwyd yn ystod ei fywyd e.e. dannedd caled neu esgyrn anifeiliaid asgwrn-cefn neu ysgerbwd allanol, calchog anifeiliaid di-asgwrn cefn. Ceir hefyd ffosiliau o olion wedi'u gadael gan yr anifail ei hun e.e. ôl traed neu garthion (coprolitau).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ffosil, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.