Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Awstronesaidd ac is-deulu'r ieithoedd Malayo-Polynesaidd yw Jafaneg (Basa Jawa).
Fe'i siaredir yn bennaf yng nghanolbarth a dwyrain ynys Jawa yn Indonesia, ond ceir siaradwyr yn Swrinam a Caledonia Newydd. Mae rhwng 80 a 100 miliwn o siaradwyr i gyd, sy'n rhoi yr iaith yn 11fed ymhlith ieithoedd y byd.
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Ieithoedd Malayo-Polynesaidd |
Enw brodorol | Basa Jawa |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | jv |
cod ISO 639-2 | jav |
cod ISO 639-3 | jav |
Gwladwriaeth | Indonesia |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin, Pegon alphabet, Kawi script, Javanese script, Javanese Latin alphabet |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr arysgrif hynaf i'w ddarganfod mewn Jafaneg yw Arysgrif Sukabumi, a ddyddir i 25 Mawrth 804. Mae gan yr iaith ei gwyddor ei hun, ond gellir ei hysgrifennu gyda'r wyddor Ladin hefyd. Ceir gwahanol ffurfiau ar yr iaith yn dibynnu ar statws cymdeithas cymharol y siaradwr a'r bobl y mae'n siarad a hwy. Siaredir ffurf Kromo a phobl o staws uwch na'r siaradwr, a Ngoko a phobl o statws is.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Jafaneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.