Welsh Teldisc

Roedd Welsh Teldisc (enw corfforaethol: Welsh Teldisc Records Ltd.) yn un o'r cwmnïau recordio yn yr 1960au a ymroddai'n bennaf i ganeuon yn yr iaith Gymraeg.

Sefydlwyd y cwmni gan John Edwards, Abertawe yn 1962. Ganed Edwards yn 1905 ond bu farw'n ifanc yn 1966; goroesodd ei label ef, fodd bynnag, a pharhaodd i gyhoeddi recordiau am ryw bum mlynedd arall, yn ôl pob tebyg dan reolaeth ei weddw Olwen a oedd hefyd yn berchen eiddo ym Mhontardawe. Ymysg y recordiau olaf gan y label oedd Bob Tai'r Felin gydag Yr Asyn A Fu Farw yn 1970.

Welsh Teldisc
Welsh Teldisc
Enghraifft o'r canlynolcwmni record, label recordio Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1962 Edit this on Wikidata
Dod i ben1970 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1962 Edit this on Wikidata
GenrePop Cymraeg, côr, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
PencadlysAbertawe Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuWelsh Teldisc Records Ltd. Edit this on Wikidata
Welsh Teldisc
Dafydd Iwan, a ryddhaodd nifer o'i ganeuon cynnar fel Carlo a chaneuon Dafydd Iwan ac Edward Morus Jones gyda Welsh Teldisc

Roedd John Edwards yn bianydd a sefydlodd Cymdeithas Hyrwyddo Cerddoriaeth Gymreig (Guild for the Promotion of Welsh Music) yn 1955.

Hanes

Welsh Teldisc 
Clawr record Bob Tai'r Felin, gan Sain a brynodd gasgliad Welsh Teldisc

Sefydlodd Edwards Recordiau Qualiton yn 1953. Yn ôl cyhoeddiad y 'Record Retailer' roedd wedi gadael y cwmni hwnnw a ffurfio Teldisc, ond ymddengys iddo barhau i ymwneud â Qualiton. I'r llygad anwybodus nid yw'r deunydd a ryddhawyd ar Welsh Teldisc yn ymddangos mor wahanol i'r hyn a ddaeth allan ar Qualiton, er efallai ar y cyfan fod naws ychydig mwy poblogaidd a llai dyrchafedig iddo.

Ni ryddhawyd unrhyw recordiau ar ôl 1970. Credir mai'r record olaf a ryddhawyd gan y label oedd un gan grŵp yr Awelon Haf – “Daeth Yr Awr”/”Cwm Tawelwch” rhif WD 916, yn 1970. Ym 1974 gwerthwyd Welsh Teldisc i gyhoeddwyr llyfrau Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. Pan ddaeth y Gymdeithas honno i ben, gwerthwyd y catalog i Wasg Gomer yn 2009 ac yna i Recordiau Sain.

Islabeli a chofrestriadau

Yn ogystal â'r prif label roedd hefyd islabeli:

  • PYC – Pops Y Cymro, recordiau pop, EP 7″ (cyhoeddwyd tua 14 o’r rhain o 1965 i 1970). Fel label go iawn dim ond am dri datganiad y parhaodd yn 1965-66 ond goroesodd ei gyfres gatalog PYC-5440 ac fe'i defnyddiwyd ar gyfer EPs Pop ar y prif label Teldisc Cymraeg.
  • SEP – cyfres Teldisc Evangelical, recordiau 7″ (Saesneg yn bennaf – tua 20 o’r rhain rhwng 1964 a 1966)
  • SLP – cyfres “Teldisc Evangelical”, recordiau hir.
  • TEP – Teldisc EP, o’r dechrau tan 1968, rhifau’n cyrraedd TEP 875.
  • TLP – recordiau hir Teldisc.
  • WD – senglau 7 modfedd o 1962 tan 1970. Ceir ambell record yn y gyfres “WD” gyda’r enw cwmni “Welshdisc” yn lle “Welsh Teldisc”, sy’n esbonio dewis y llythrennau WD.

Artistiaid

Welsh Teldisc 
Clawr albwm 'Goreuon Richie Thomas (Tenor) - Best Of Richie Thomas (Tenor)' gan Sain. Bu i Sain brynu casgliad Welsh Teldisc oddi ar Gwasg Gomer a brynodd oddi ar Cymdeithas Lyfrau Ceredigion gan Welsh Teldisc yn 1974

Roedd yna ddeuawd boblogaidd yn y brodyr Jac a Wil Davies, a newidiodd o Qualiton, recordio dwsin o EPs i’r cwmni newydd a mwynhau gwerthiant mawr yn ôl safonau recordiau Cymraeg. Rhyddhawyd recordiau enwog Dafydd Iwan, 'Carlo', 'Daw fe Ddaw yr Awr', 'Rwy'n gweld y Dydd' a chaneuon Dafydd Iwan ac Edward Morris Jones gan y label a chân 'Trên Bach yr Wyddfa' gan Hogia Llandegai yn ogystal â recordiau gan Perlau Tâf. Rhyddhawyd hefyd caneuon enwog fel Beic Peniffardding fy Nhaid gan Triawd y Coleg, Jac a Wil, caneuon Richie Thomas, Huw Jones, Robert Roberts (Bob Tai'r Felin), Emyr Wyn, Bois y Blacbord, corau meibion Pontarddulais a Chaernarfon, Helen Wyn gyda Hebogiaid y Nos a nifer fawr o artistiaid eraill gan gynnwys nifer fechan yn canu'n Saesneg.

Labeli eiconig

Er gwaethaf y ffaith fod Qualiton yn berchen ar weithdy gwasgu, Phonodisc oedd yn gwasgu nifer o'r Teldiscs Cymraeg ar feinyl. Daeth rhai o'r rhai diweddarach gyda'r twll gwerthyd mawr a'r 'pry copyn' plastig a oedd yn nodweddiadol o senglau Phonodisc. Yn ôl yr erthygl 'RR' y cyfeirir ati uchod, roedd Welsh Teldisc yn dosbarthu'r recordiau ei hun.

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Welsh Teldisc  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Tags:

Welsh Teldisc HanesWelsh Teldisc ArtistiaidWelsh Teldisc Labeli eiconigWelsh Teldisc Dolenni allanolWelsh Teldisc CyfeiriadauWelsh TeldiscAbertawePontardaweRobert Roberts (Bob Tai'r Felin)

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Demolition Man723Batri lithiwm-ionAmserCariadTomos DafyddPenbedw1855Sant PadrigOmaha, NebraskaYmosodiadau 11 Medi 20012022Dyfrbont PontcysyllteR (cyfrifiadureg)Madonna (adlonwraig)Pêl-droed AmericanaiddGorsaf reilffordd ArisaigYr ArianninBalŵn ysgafnach nag aerCannesTrieste365 DyddClement AttleeDisturbiaIeithoedd IranaiddFfilmCaerwrangonTwitterAnggunKnuckledustPidyn-y-gog AmericanaiddEva StrautmannMarion BartoliIRCNoaBe.AngeledCatch Me If You CanMuhammadDiwydiant llechi CymruMichelle ObamaNeo-ryddfrydiaethPrif Linell Arfordir y GorllewinYstadegaethMerthyr TudfulNatalie WoodHaikuRhaeGwyBaldwin, PennsylvaniaPupur tsiliPanda MawrRheonllys mawr BrasilHinsawddJapanegRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonGmailUMCAEalandNanotechnolegMeginIncwm sylfaenol cyffredinolHafaliadRəşid BehbudovCwmbrânGleidr (awyren)W. Rhys NicholasBlaenafonMacOSZonia BowenUnol Daleithiau America🡆 More