Cyfreithwraig Americanaidd a gwraig Barack Obama, Arlywydd Unol Daleithiau America, yw Michelle LaVaughn Robinson Obama (née Robinson) (ganwyd 17 Ionawr 1964).
Michelle Obama | |
| |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 2009 – 20 Ionawr 2017 | |
Arlywydd | Barack Obama |
---|---|
Rhagflaenydd | Laura Bush |
Olynydd | Melania Trump |
Geni | Chicago, Illinois, Yr Unol Daleithiau | 17 Ionawr 1964
Plaid wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd |
Priod | Barack Obama (1992–presennol) |
Plant | Malia Obama Sasha Obama |
Llofnod |
Fe'i ganed ac fe'i magwyd yn ochr ddeheuol Chicago a graddiodd o Brifysgol Princeton ac Ysgol y Gyfraith, Harvard. Wedi iddi orffen ei haddysg ffurfiol, dychwelodd i Chicago a derbyniodd swydd gyda chwmni cyfreithiol Sidley Austin, lle cyfarfu â'i gwr. Yn ddiweddarach, gweithiodd fel aelod o staff i faer Chicago, Richard M. Daley ac i Ganolfan Feddygol Prifysgol Chicago. Trwy gydol 2007 a 2008, cyfrannodd i ymgyrch arlywyddol ei gwr, gan draddodi araith yng Nghynhadledd Ddemocrataidd Genedlaethol 2008. Mae hefyd yn fam i ddwy ferch, Malia a Sasha, ac yn chwaer i Craig Robinson, hyfforddwr pêl-fasged i Brifysgol Talaith Oregon.
Rhagflaenydd: Laura Bush | Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 2009 – 2017 | Olynydd: Melania Trump |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Michelle Obama, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.