Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw Pen-y-bont ar Ogwr (Saesneg: Bridgend).
Mae ganddi oddeutu 40,000 o bobol.
Math | tref, tref farchnad |
---|---|
Poblogaeth | 49,404 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5072°N 3.5784°W |
Cod OS | SS905805 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
Tan yr 20g, tref marchnad oedd hi yn bennaf. Mae hi bellach yn dref ddiwydiannol oherwydd datblygu ystadau diwydiannol ger yr M4 sydd wedi denu cwmnïau megis Sony a Ford i'r ardal. Mae Pen-y-bont yn gartref hefyd i bencadlys Heddlu De Cymru. Adeiladwyd carchar preifat (Carchar Parc Ei Mawrhydi) yn niwedd y 1990au ar safle hen ysbyty seiciatreg ar gyrion y dref uwchben pentref Coety.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur) ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).
Lleolir Carchar y Parc - carchar masnachol i ddynion a throseddwyr ifainc, yn agos i'r dref.
Mae Afon Ogwr yn llifo trwy'r dref, gyda'r Nant Morfa yn ei chyfarfod ger Meysydd y Bragdy. Mae'r Afon Ewenni yn llifo ar gyrion y dref yn Nhredŵr i gyfarfod yr Ogwr ger Castell Ogwr ar ben yr aber.
Mae Pen-y-bont yn agos i gyffyrdd 35 a 36 traffordd yr M4, hanner ffordd rhwng dinas Abertawe a dinas Caerdydd.
Mae gan Pen-y-bont orsaf rheilffordd ar lein y Great Western, gyda gwasanaethau cyflym i ddinas Llundain ac Abertawe. Mae yna orsaf arall ym Melin Wyllt ar lein Maesteg. Mae gwasanaethau lleol yn rhedeg i Gaerdydd a Gorllewin Lloegr ar y brif lein a lein Bro Morgannwg. I'r gorllewin mae gwasanaethau lleol i Abertawe a Gorllewin Cymru. Hefyd mae gwasanaethau lleol i Faesteg. Gweithredir y gwasanaethau lleol gan Trafnidiaeth Cymru, a'r gwasanaethau cyflym gan Great Western Railway.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:
Ceir Coetir Ysbryd Llynfi ar gyrion tref Maesteg sy'n ardal o goedwig ac hamdden gyda llwybrau cerdded, rhedeg a seiclo. Planwyd y coetir ar safle hen bwll glo Coegnant a Golchfa Maesteg.
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym 1948. Am wybodaeth bellach gweler:
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998 ym Mhencoed.
Trefi
Maesteg · Pen-coed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pontycymer · Porthcawl
Pentrefi
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bracla · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefncribwr · Cwmogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Gogledd Corneli · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynyddcynffig · Nant-y-moel · Notais · Pen-y-fai · Y Pîl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pen-y-bont ar Ogwr, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.