Grŵp o chwech o fwynau naturiol yw asbestos.
Mae'r chwech mwyn wedi eu gwneud o elfennau gwahanol ac yn amrywio'n sylweddol yn gemegol; fodd bynnag yr hyn sy'n eu cysylltu yw'r ffaith eu bod wedi'u ffurfio o grisialau ffibrog mân iawn. Adnabyddir y mathau mwy cyffredin gwahanol o asbestos gan eu lliwiau:
Math | silicad, carsinogen yn y gwaith, carsinogen |
---|---|
Rhan o | asbestos cement |
Yn cynnwys | ocsigen, silicon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae mathau gwahanol o asbestos, yn enwedig asbestos gwyn, brown a glas, wedi cael eu defnyddio fel deunyddiau adeiladu ac fel ynysydd am filoedd o flynyddoedd, ond dechreuwyd eu defnyddio ar raddfa ddiwylliannol yn ystod y 19g. Roedd asbestos yn ddeniadol fel deunydd am nifer o resymau: mae'n gryf, yn gymharol rhad, yn anfflamadwy, yn wrth-ddŵr ac yn ynysu gwres a trydan. Roedd asbestos yn hyblyg hefyd: roedd modd cymysgu asbestos gyda deunyddiau eraill megis plaster neu sement, neu ei blethu i greu matiau. Oherwydd y nodweddion hyn defnyddiwd asbestos mewn ystod eang iawn o gynhyrchion gan gynnwys panelau adeiladu neu doeau; plaster addurniadol (er enghraifft Artex); i ynysu adeiladau a phibellau dŵr; mewn cynhyrchion megis blancedi, matiau, neu fenig ac mewn brêcs ceir ymysg eraill. Asbestos gwyn a ddefnyddiwyd gan amlaf.
Mae crisialau bychain asbestos yn ffurfio llwch pan gaiff deunyddiau sy'n cynnwys asbestos eu symud neu eu torri. Pan gaiff y llwch hwn ei fewnanadlu, mae'r crisialau yn gallu ymsefydlu yn yr ysgyfaint, sy'n gallu arwain at ystod o broblemau iechyd gan gynnwys asbestosis, mesothelioma (cancr yn leinin yr organau mewnol) a chancr yr ysgyfaint. Mae'r perygl yn cynyddu pan fo rhagor o asbestos yn yr awyr, neu pan fo unigolion yn agored iddo am gyfnodau hir. Yn gyffredinol, mae asbestos brown a glas yn fwy peryglus nag asebstos gwyn.
Oherwydd y peryglon hyn, mae defnyddio asbestos yn y D.U. wedi'i wahardd yn gyfan gwbl ers 1999 (gwaharddwyd asbestos brown a glas yn gynharach). Fodd bynnag gan y bu i'r deunydd gael ei ddefnyddio cymaint yn y gorffennol mae'n parhau'n hynod gyffredin mewn adeiladau a adeiladwyd cyn 1999. Fel arfer bydd nifer o flynyddoedd neu hyd yn oed ddegawdau yn mynd heibio ar ôl bod yn agored i'r asbestos cyn i gancr ddatblygu, oherywdd hyn er gwaethaf y gwaharddiad mae'r defnydd helaeth o asbestos yn y gorffennol yn parhau i achosi problemau.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Asbestos, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.