Y cyflwr o fod heb brofi cyfathrach rywiol yw morwyndod.
Mae llawer o ddiwylliannau'r byd yn edrych ar forwyndod drwy lygad gwahanol: e.e. anrhydedd, purdeb a diniweitrwydd. Mewn rhai diwylliannau mae bod yn ddi-briod yn gyfystyr â bod yn forwyn. Mae'r gair Cymraeg 'morwyn' yn cyfeirio at fenyw yn unig ond gall 'golli morwyndod' hefyd gyfeirio at fechgyn.
Mae'r gair 'morwyn' hefyd yn golygu gweinyddes mewn plasdy neu dŷ bwyta. Gwas yw'r gair am y gwryw.
Mae oedran colli morwyndod yn amrywio o wlad i wlad. Mae'r tabl (ar y dde) yn dangosbfod Lloegr a Chymru yn ddwy wlad lle mae pobl ifanc yn colli eu morwyndod yn gynnar iawn. Oed cydsynio yw'r oedran mae'r wlad yn ei gosod mewn deddf, lle mae cael cyfathrach rywiol cyn hynny yn anghyfreithlon. 18 oed yw'r norm, ond mae'n amrywio dipyn go lew. Hyd at y 18g roedd oed gydsynio mor isel â 12 yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop.
Gwlad | Bechgyn (%) | Merched (%) |
---|---|---|
Awstria | 21.7 | 17.9 |
Canada | 24.1 | 23.9 |
Croasia | 21.9 | 8.2 |
Lloegr | 34.9 | 39.9 |
Estonia | 18.8 | 14.1 |
Ffindir | 23.1 | 32.7 |
Gwlad Belg | 24.6 | 23 |
Ffrainc | 25.1 | 17.7 |
Gwlad Groeg | 32.5 | 9.5 |
Hwngari | 25 | 16.3 |
Israel | 31 | 8.2 |
Latfia | 19.2 | 12.4 |
Lithwania | 24.4 | 9.2 |
Macedonia | 34.2 | 2.7 |
Yr Iseldiroedd | 23.3 | 20.5 |
Gwlad Pwyl | 20.5 | 9.3 |
Portiwgal | 29.2 | 19.1 |
Yr Alban | 32.1 | 34.1 |
Slofenia | 28.2 | 20.1 |
Sbaen | 17.2 | 13.9 |
Sweden | 24.6 | 29.9 |
Swistir | 24.1 | 20.3 |
Wcráin | 47.1 | 24 |
Cymru | 27.3 | 38.5 |
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Morwyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.