O fewn byd y llyfrgell, rheolaeth awdurdod (Saesneg: authority control) ydy'r broses sy'n rhoi trefn ar gatalogi gwybodaeth drwy wahaniaethu rhwng fwy nag un person, lle, peth, syniad ayb o'r un enw a diffinio eitem arbennig mewn modd unigryw.
Daw'r enw o'r broses o 'awdurdodi' enwau pobl, llefydd, pethau, syniadau ayb i gategori arbennig. Mae'r awdurdod yn unigryw i'r person neu'r peth, yn fath o ddynodwr neu ID ac yn cael ei roi mwn modd cyson drwy'r catalog cyfan. Mae'r Awdurdod yn 'siarad' neu'n croesweithio gyda data cyffelyb, gan ddolennu a chroesgyfeirio. Mae pob pennawd yn disgrifio'n fras ei sgop a'i ddefnydd ac yn helpu'r llyfgellydd i sicrhau mynediad rhwydd a chyfeillgar gan y defnyddiwr i mewn i'r wybodaeth a geisir.
Tadogwyd erthyglau mewn dull arbennig a rydd i'r darllenydd wybodaeth arbennig o ffynonellau megis: Dynodwr Enw Rhyngwladol Safonol neu ORCID. Er enghraifft, ar waelod yr erthygl ar Saunders Lewis gwelir manylion fel hyn:
Gellir canfod pob erthygl sydd â rheolaeth awdurdod wrth ei droed drwy agor y Categori:Tudalennau gyda gwybodaeth Awdurdod
Etymology ... autorite "book or quotation that settles an argument", from Old French auctorité...[dolen marw]
See "Origin of authority" -- Middle English auctorite, from Anglo-French auctorité, from Latin auctoritat-, auctoritas opinion, decision, power, from auctor First Known Use: 13th century...
The primary purpose of authority control is to assist the catalogue user in locating items of interest.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rheolaeth awdurdod, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.