Ffindir (hefyd Gweriniaeth y Ffindir) yw'r wlad Nordig fwyaf dwyreiniol yng Ngogledd Ewrop .
Mae'n ffinio â Sweden i'r gogledd-orllewin, Norwy i'r gogledd, a Rwsia i'r dwyrain, gyda Gwlff Bothnia i'r gorllewin a Gwlff y Ffindir i'r de, gyferbyn ag Estonia. Arwynebedd Ffindir yw 338,145 cilometr sgwar (130,559 milltir sgwar) ac mae ganddi boblogaeth o 5.6 miliwn. Helsinki yw'r brifddinas a'r ddinas fwyaf; o ran poblogaeth, mae tua'r un maint a'r Alban, sef XXX Ffiniaid ethnig yw mwyafrif helaeth y boblogaeth; Ffinneg a Swedeg yw'r ieithoedd swyddogol, gyda Swedeg yn iaith frodorol i 5.2% o'r boblogaeth. Mae hinsawdd y Ffindir yn amrywio o hinsawdd gyfandirol llaith yn y de i hinsawdd boreal yn y gogledd. Coedwigoedd boreal yw'r gorchudd tir yn bennaf, gyda mwy na 180,000 o lynnoedd wedi'u cofnodi.
Suomen tasavalta | |
Arwyddair | O na bawn yn y Ffindir |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth unedol, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, gwlad OECD |
Enwyd ar ôl | Ffiniaid |
Prifddinas | Helsinki |
Poblogaeth | 5,608,218 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Maamme/Vårt land |
Pennaeth llywodraeth | Petteri Orpo |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Nawddsant | Sant Harri o'r Ffindir |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Ffinneg, Swedeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ffenosgandia, Y Gwledydd Nordig, Gogledd Ewrop, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd |
Arwynebedd | 338,478.34 km² |
Gerllaw | Y Môr Baltig |
Yn ffinio gyda | Sweden, Norwy, Rwsia |
Cyfesurynnau | 65°N 27°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth y Ffindir |
Corff deddfwriaethol | Senedd y Ffindir |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd y Fffindir |
Pennaeth y wladwriaeth | Alexander Stubb |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog y Ffindir |
Pennaeth y Llywodraeth | Petteri Orpo |
Crefydd/Enwad | Eglwys Efengylaidd Lwtheraidd Ffindir, Eglwys Uniongred Ffindir |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $296,388 million, $280,826 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 9 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.75 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.94 |
Ceir olion dynol yma o tua 9,000 CC ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf. Yn ystod Oes y Cerrig, daeth diwylliannau amrywiol i'r amlwg, a gellir gwahaniaethu rhyngddyn nhw drwy edrych ar eu gwahanol fathau o serameg. Cafodd yr Oes Efydd a'r Oes Haearn eu nodi gan gysylltiadau â diwylliannau eraill yn Fennoscandia a rhanbarth y Baltig. O ddiwedd y 13g, daeth y Ffindir yn rhan o Sweden o ganlyniad i Groesgadau'r Gogledd. Ym 1809, o ganlyniad i Ryfel y Ffindir, daeth y Ffindir yn rhan o Ymerodraeth Rwsia fel Prif Ddugiaeth ymreolaethol y Ffindir. Yn ystod y cyfnod hwn, ffynnodd celf y Ffindir a dechreuodd y syniad o annibyniaeth gydio. Ym 1906, y Ffindir oedd y wladwriaeth Ewropeaidd gyntaf i roi pleidlais gyffredinol i'w dinasyddion, a'r gyntaf yn y byd i roi'r hawl i bob oedolyn heisio am swydd gyhoeddus. Yn dilyn Chwyldro Rwsia yn 1917, datganodd y Ffindir ei hannibyniaeth oddi wrth Rwsia, ar 6ed o Ragfyr. Ym 1918 rhannwyd y genedl ifanc gan Ryfel Cartref y Ffindir. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdodd y Ffindir yn erbyn yr Undeb Sofietaidd yn Rhyfel y Gaeaf a'r Rhyfel Parhad, ac yn ddiweddarach yn erbyn yr Almaen Natsïaidd yn Rhyfel Lapdir. O ganlyniad, collodd rannau o'i diriogaeth ond cadwodd ei hannibyniaeth.
Parhaodd y Ffindir yn wlad amaethyddol yn bennaf tan y 1950au. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, diwydiannodd yn gyflym a sefydlodd economi ddatblygedig, gyda gwladwriaeth les wedi'i hadeiladu ar y model Nordig. Caniataodd hyn i'r ffynnu a chafwyd incwm uchel y pen. Yn ystod y Rhyfel Oer, cofleidiodd y Ffindir yn swyddogol bolisi o niwtraliaeth. Ers hynny, daeth yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd yn 1995, yn Ardal yr Ewro yn 1999, ac yn aelod o NATO yn 2023. Mae'r Ffindir yn aelod o sefydliadau rhyngwladol amrywiol gan gynnwys y Cenhedloedd Unedig, y Cyngor Nordig, Ardal Schengen, Cyngor Ewrop, Sefydliad Masnach y Byd, a'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD). Mae'r genedl yn perfformio'n arbennig o dda mewn metrigau perfformiad cenedlaethol, gan gynnwys addysg, cystadleurwydd economaidd, rhyddid sifil, ansawdd bywyd, a datblygiad dynol.
Ymsefydlodd pobl yn yr ardal a elwir heddiw'n Ffindir, tua 8,500 CC yn ystod Oes y Cerrig tua diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf. Mae gan lawer o'r arteffactau a adawodd y gwladfawyr cyntaf ar ôl nodweddion tebyg iawn i'r rhai a geir yn Estonia, Rwsia, a Norwy. Helwyr-gasglwyr oedd y bobl gynharaf hyn, ac roedden nhw'n defnyddio offer carreg.
Ymddangosodd y crochenwaith cyntaf yn 5,200 CC, pan gyflwynwyd y diwylliant 'Cerameg Crib'. Yna daeth 'Crochenwaith Cordeddog' i arfordir deheuol y Ffindir rhwng 3,000 a 2,500 CC cyfnod sy'n cyd-daro â dechrau amaethyddiaeth. Hyd yn oed gyda chyflwyniad amaethyddiaeth, roedd hela a physgota'n parhau i fod yn rhannau pwysig o'r economi a'r ffordd o fyw.
Yn yr Oes Efydd ymledodd amaethu parhaol trwy gydol y flwyddyn ac felly hwsmonaeth anifeiliaid hefyd, ond arafodd y newid oherwydd cyfnod o hinsawdd oer iawn. Daeth y ffenomen Seima-Turbino â'r arteffactau efydd cyntaf i'r rhanbarth ac o bosibl hefyd yr ieithoedd Finno-Ugric. Dechreuodd cysylltiadau masnachol ymestyn i Sgandinafia a dechreuodd gweithgynhyrchu o arteffactau efydd mewn cartrefi yn1300 CC.
Yn yr Oes Haearn tyfodd y boblogaeth. Ffindir Fwyaf (sef y De-Orllewin) oedd yr ardal fwyaf poblog. Tyfodd ac ymestynnodd cysylltiadau masnachol yn rhanbarth Môr y Baltig yn ystod yr 8g a'r 9g. Y prif allforion o'r Ffindir oedd ffwr, caethweision, sachau'r afanc, a hebogiaid i lysoedd Ewropeaidd. Roedd mewnforion yn cynnwys sidan a ffabrigau eraill, gemwaith, cleddyfau Ulfberht, ac, i raddau llai, gwydr. Dechreuwyd cynhyrchu haearn tua 500 CC Ar ddiwedd y 9g, roedd gan ddiwylliant arteffactau brodorol, yn enwedig arfau a gemwaith menywod, nodweddion lleol cyffredin nag erioed o'r blaen a dehonglir hyn i fod yn fynegiant o hunaniaeth y Ffindir.
Ymledodd ffurf gynnar ar ieithoedd Ffinneg i ranbarth Môr y Baltig tua 1,900 CC. Roedd yr iaith Ffinneg gyffredin yn cael ei siarad o gwmpas Gwlff y Ffindir tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Daeth y tafodieithoedd y datblygwyd yr iaith Ffinneg gyfoes ohonynt i fodolaeth yn ystod Oes yr Haearn. Er eu bod yn perthyn o bell, cadwodd y Sami ffordd o fyw'r heliwr-gasglwr yn hirach na'r Ffindir. Mae hunaniaeth ddiwylliannol y Sami a'r iaith Sami wedi goroesi yn Lapdir, y dalaith fwyaf gogleddol.
Mae gan yr enw Suomi darddiad ansicr, ond y geirdarddiad mwyaf cyffredin yw ei fod yn tarddu o saame (y Sami). Yn y ffynonellau hanesyddol cynharaf, o'r 12g a'r 13g, mae'r term Ffindir yn cyfeirio at y rhanbarth arfordirol o amgylch Turku. Daeth y rhanbarth hwn i gael ei adnabod yn ddiweddarach fel 'Ffindir Fwyaf' er mwyn gwahaniaethu ag enw'r wlad.
Roedd y 12g a'r 13g yn gyfnodau treisgar yng ngogledd Môr y Baltig. Roedd y Croesgad Livonaidd yn parhau ac roedd llwythau'r Ffindir ee y Tavasiaid a'r Kareliaid yn gwrthdaro'n aml â Novgorod ac â'i gilydd. Hefyd, yn ystod y 12g a'r 13g gwnaethpwyd sawl croesgad o deyrnasoedd Catholig ardal Môr y Baltig yn erbyn llwythau'r Ffindir. Ymladdodd Daniaid o leiaf dair croesgad yn erbyn pobl Ffindir, yn 1187 neu ychydig yn gynharach, yn 1191 ac yn 1202, ac Swedeiaid, o bosibl yr ail groesgad i'r Ffindir, ym 1249 yn erbyn Tafasiaid a'r drydedd groesgad i'r Ffindir yn 1293 yn erbyn y Kareliaid.
O ganlyniad i'r croesgadau a gwladychu rhai ardaloedd arfordirol y Ffindir gyda phoblogaeth Swedaidd yn ystod yr Oesoedd Canol, yn raddol daeth y Ffindir yn rhan o deyrnas Sweden a dylanwad yr Eglwys Gatholig. O dan Sweden, atodwyd Ffindir fel rhan o drefn ddiwylliannol Gorllewin Ewrop.
Swedeg oedd prif iaith yr uchelwyr, y weinyddiaeth, ac addysg; y Ffinneg oedd iaith y werin, y clerigwyr a'r llysoedd lleol yn bennaf yn yr ardaloedd Ffinneg eu hiaith. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, trodd y Ffiniaid yn raddol at yr Eglwys Lutheraidd.
Yn yr 16g cyhoeddodd esgob a Diwygiwr Lutheraidd Mikael Agricola y gweithiau ysgrifenedig cyntaf yn Ffinneg; a sefydlwyd prifddinas bresennol y Ffindir, Helsinki, gan y Brenin Gustav Vasa yn 1555. Sefydlwyd y brifysgol gyntaf yn y Ffindir, sef Academi Frenhinol Turku, gan y Frenhines Christina o Sweden ar gynnig iarll Per Brahe yn 1640.
Yn y 18g, arweiniodd rhyfeloedd rhwng Sweden a Rwsia ddwywaith at feddiannu'r Ffindir gan luoedd Rwsia, amseroedd a adwaenir yn y Ffindir fel y Digofaint Mwawr (1714–1721) a'r DigofaintBach (1742–1743). Amcangyfrifir miloedd o ddynion wedi marw yn ystod y Digofaint Mwawr yn bennaf oherwydd dinistrio cartrefi, ffermydd, a llosgi Helsinki.
Mae'r VR sy'n eiddo i'r wladwriaeth yn gweithredu rhwydwaith rheilffordd ac yn gwasanaethu holl ddinasoedd mawr y Ffindir. Ar ôl Chwyldro Chwefror 1917, cwestiynwyd safle'r Ffindir fel rhan o Ymerodraeth Rwsia, yn bennaf gan y Democratiaid Cymdeithasol. Pasiodd Senedd y Ffindir, a reolwyd gan ddemocratiaid cymdeithasol, yr hyn a elwir yn Ddeddf Pwer a roddodd cryn awdurdod i'r Senedd. Gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth Dros Dro Rwsia a benderfynodd ddiddymu'r Senedd. Cynhaliwyd etholiadau newydd, lle'r enillodd pleidiau asgell dde gyda mwyafrif bychan. Roedd rhai democratiaid cymdeithasol yn gwrthod derbyn y canlyniad ac yn dal i honni bod diddymu'r senedd (ac felly'r etholiadau dilynol) yn anghyfreithiol. Roedd y ddau floc gwleidyddol bron yr un mor bwerus, y pleidiau asgell dde, a'r blaid gymdeithasol-ddemocrataidd a oedd wedi'u cythruddo'n fawr.
Newidiodd Chwyldro Hydref Rwsia y sefyllfa daear-wleidyddol unwaith eto. Yn sydyn, dechreuodd y pleidiau asgell dde'r Ffindir ailystyried eu penderfyniad i rwystro trosglwyddo’r pŵer gweithredol uchaf o lywodraeth Rwsia i’r Ffindir, wrth i’r Bolsieficiaid gipio grym yn Rwsia. Cyflwynodd y llywodraeth asgell dde, dan arweiniad y Prif Weinidog PE Svinhufvud, y Datganiad Annibyniaeth ar 4 Rhagfyr 1917, a gymeradwywyd yn swyddogol ar 6 Rhagfyr, gan Senedd y Ffindir. Cydnabu Gweriniaeth Sosialaidd Ffederal Sofietaidd Rwsia (RSFSR), dan arweiniad Vladimir Lenin, annibyniaeth Ffindir ar 4 Ionawr 1918.
Ar ôl arbrawf byr gyda brenhiniaeth, pan gafwyd ymgais aflwyddiannus i wneud y Tywysog Frederick Charles o Hesse yn Frenin y Ffindir, daeth y Ffindir yn weriniaeth arlywyddol, gyda KJ Ståhlberg yn cael ei ethol yn arlywydd cyntaf yn 1919. Fel cenedlaetholwr rhyddfrydol gyda chefndir cyfreithiol, angorodd Ståhlberg y wladwriaeth mewn democratiaeth ryddfrydol, cefnogodd reolaeth y gyfraith, a chychwynnodd ar ddiwygiadau mewnol. Roedd y Ffindir hefyd yn un o'r gwledydd Ewropeaidd cyntaf i anelu'n gryf at gydraddoldeb i fenywod, gyda Miina Sillanpää yn gwasanaethu yng nghabinet Väinö Tanner fel y gweinidog benywaidd cyntaf yn hanes y Ffindir yn 1926–192. Diffiniwyd y ffin rhwng y Ffindir a Rwsia yn 1920 gan Gytundeb Tartu, yn dilyn y ffin hanesyddol i raddau helaeth ond yn rhoi Pechenga a'i harbwr Môr Barents i'r Ffindir. Goroesodd y mudiad gwrth-gomiwnyddol Lapua.
Ym 1917, pan ddaeth y Ffindir yn wlad annibynnol roedd y boblogaeth yn dair miliwnblogaeth Cymru yn 2024. Daeth diwygio tir ar sail credyd i rym ar ôl y rhyfel cartref, gan gynyddu cyfran y boblogaeth a oedd yn berchen ar gyfalaf. Roedd tua 70% o'r gweithwyr yn gweithio mewn amaethyddiaeth a 10% mewn diwydiant.
Lansiodd yr Undeb Sofietaidd Ryfel y Gaeaf ar 30 Tachwedd 1939 mewn ymdrech i atodi Ffindir yn rhan ohoni. Sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Ffindir gan Joseph Stalin ar ddechrau'r rhyfel i lywodraethu'r Ffindir ar ôl y goncwest Sofietaidd. Gorchfygwyd y Fyddin Goch mewn sawl brwydr, yn arbennig ym Mrwydr Suomussalmi. Ar ddiwedd Ionawr 1940, ar ôl dau fis heb fawr o gynnydd ar faes y gad, yn ogystal â cholledion difrifol o ddynion ac offer, rhoddodd y Sofietiaid y goraui o'w syniadau, gan gydnabod llywodraeth gyfreithiol y Ffindir. Llwyddodd y Ffindir i amddiffyn ei hannibyniaeth, ond ildiodd 9% o'i thiriogaeth i'r Undeb Sofietaidd.
Arweiniodd sefydlu masnach gyda phwerau'r Gorllewin a thalu iawndal i'r Undeb Sofietaidd at drawsnewid y Ffindir o economi amaethyddol yn bennaf i un ddiwydiannol. Sefydlwyd Valmet (iard longau yn wreiddiol, yna sawl gweithdy metel) i greu deunyddiau. Ar ôl talu'r iawndaliadau rhyfel, parhaodd y Ffindir i fasnachu â'r Undeb Sofietaidd mewn fframwaith ddwyochrog.
Cynhaliodd y Ffindir eu heconomi drwy fasnachu ac elwodd diwydiannau amrywiol o fasnachu gyda'r Sofietiaid. Cafwyd twf economaidd cyflym yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, ac erbyn 1975 roedd CMC y pen y Ffindir y 15fed uchaf yn y byd. Yn y 1970au a'r 1980au, adeiladodd y Ffindir un o wladwriaethau lles mwyaf helaeth a llwyddiannus yn y byd. Trafododd y Ffindir gytundeb gyda'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd) gan ddechrau o 1977. Ym 1981, fe wnaeth iechyd gwael yr Arlywydd Urho Kekkonen ei orfodi i ymddeol ar ôl dal ei swydd am 25 mlynedd.
Cafwyd dirwasgiad dwfn yn y 1990au cynnar yn y Ffindir a daeth i ben ym 1993, a gwelodd y Ffindir dwf economaidd cyson am fwy na deng mlynedd. Ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd, trodd y Ffindir ei olwg fwyfwy tua'r Gorllewin. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1995, ac Ardal yr Ewro ym 1999. Ysgogwyd llawer o dwf economaidd diwedd y 1990au gan lwyddiant y gwneuthurwr ffonau symudol Nokia.
Mae'r Ffindir yn gorwedd rhwng lledredau 60° a 70° N, a hydred 20° a 32° E, ac mae'n un o wledydd mwyaf gogleddol y byd. O brifddinasoedd y byd, dim ond Reykjavík sy'n gorwedd mwy i'r gogledd na Helsinki. Y pellter o'r pwynt mwyaf deheuol - Hanko yn Uusimaa - i'r mwyaf gogleddol - Nuorgam yn Lapdir - yw 1,160 cilometr (720 milltir).
Ceir tua 168,000 o lynnoedd (o arwynebedd mwy na 500 milltir sgwar) a 179,000 o ynysoedd. Ei llyn mwyaf, Saimaa, yw'r pedwerydd mwyaf yn Ewrop. Ardal y Llynnoedd yw'r ardal sydd â'r nifer fwyaf o lynnoedd yn y wlad; mae llawer o ddinasoedd mawr yr ardal, yn fwyaf nodedig Tampere, Jyväskylä a Kuopio, wedi'u lleoli ger y llynnoedd mawr. Mae'r crynodiad mwyaf o ynysoedd i'w gael yn y de-orllewin, ym Môr yr Archipelago rhwng cyfandir y Ffindir a phrif ynys Åland.
Mae llawer o ddaearyddiaeth y Ffindir yn ganlyniad i Oes yr Iâ. Roedd y rhewlifoedd yn fwy trwchus ac yn para'n hirach yn Fennoscandia o gymharu â gweddill Ewrop. Mae eu heffeithiau erydu wedi gadael tirwedd y Ffindir yn eitha gwastad, yn bennaf gydag ychydig o fryniau a llai o fynyddoedd. Ei bwynt uchaf, yw Halti, sy'n 1,324 metr yng ngogledd eithaf Lapdir ar y ffin rhwng y Ffindir a Norwy. Gellir cymharu uchder Haiti i'r Wyddfa, sydd fymryn yn llai, sef 1,085 m. Y mynydd uchaf y mae ei gopa yn gyfan gwbl yn y Ffindir yw Ridnitšohkka sy'n 1,316 metr a saif yn union gerllaw Halti.
Ar ôl cael ei gywasgu o dan bwysau aruthrol y rhewlifoedd, mae tir mawr y Ffindir yn codi oherwydd yr adlam ôl-rewlifol. Mae'r effaith ar ei chryfaf o amgylch Gwlff Bothnia, lle mae'r tir yn codi'n raddol tua 1 centimetr y flwyddyn. O ganlyniad, mae hen wely'r môr yn troi ychydig ar y tro yn dir sych ac felly mae arwynebedd y wlad yn ehangu tua 7 cilometr sgwar yn flynyddol. Mewn geiriau eraill, mae'r Ffindir yn codi o'r môr.
Yn ffyto-ddaearyddol, rhennir y Ffindir rhwng ardaloedd yr Arctig, canolbarth Ewrop, ac ardaloedd gogleddol y Rhanbarth Circumboreal o fewn y Deyrnas Boreal. Yn ôl y WWF, gellir rhannu tiriogaeth y Ffindir yn dri ecoleg: y taiga Sgandinafaidd a Rwsiaidd, coedwigoedd cymysg Sarmatig, a choedwig bedw'r mynyddoedd a'r glaswelltiroedd. Mae Taiga yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r Ffindir o ranbarthau gogleddol taleithiau deheuol i'r gogledd o Lapdir. Ar yr arfordir de-orllewinol, i'r de o linell Helsinki- Rauma, nodweddir coedwigoedd gan goedwigoedd cymysg, sy'n fwy nodweddiadol yn rhanbarth y Baltig. Yng ngogledd eithaf y Ffindir, ger y llinell y coed a Chefnfor yr Arctig, mae coedwigoedd bedw Montane yn gyffredin. Roedd gan y Ffindir sgôr gymedrig Mynegai Uniondeb Tirwedd Coedwig 2018 o 5.08/10, gan ei gosod yn 109fed yn fyd-eang allan o 172 o wledydd.
Yn yr un modd, mae gan y Ffindir ystod amrywiol a helaeth o ffawna. Mae o leiaf chwe-deg o rywogaethau mamalaidd brodorol, 248 o rywogaethau adar, dros 70 o rywogaethau o bysgod, ac 11 o rywogaethau o ymlusgiaid a brogaod yno heddiw, gyda llawer ohonynt wedi mudo o wledydd cyfagos filoedd o flynyddoedd yn ôl. Y mamaliaid mawr yn y Ffindir yw'r arth frown, y blaidd llwyd, y wolverine a'r elc. Tri o'r adar mwyaf trawiadol yw alarch y Gogledd, yr alarch Ewropeaidd fawr (sef aderyn cenedlaethol y Ffindir); y Grugiar coed, aelod mawr o deulu'r rugiar ddu; ac eryrdylluan Ewrop. Ystyrir bod yr olaf yn ddangosydd pwysig o hen goedwigoedd ac mae ei niferoedd wedi bod yn dirywio oherwydd darnio'r tirwedd.
Mae tua 24,000 o rywogaethau o bryfed yn gyffredin yn y Ffindir; ymhlith y rhai mwyaf cyffredin y mae'r gacynen gyda llwythau o chwilod fel yr Onciderini hefyd yn gyffredin. Yr adar magu mwyaf cyffredin yw telor yr helyg, y ji-binc a'r coch dan adain. O ryw saith-deg o rywogaethau o bysgod dŵr croyw, mae'r penhwyad gogleddol, y draenogod, yn doreithiog. Mae eog yr Iwerydd yn parhau i fod yn ffefryn gan y rhai sy'n frwd dros bysgota gwialen.
Mae Cyfansoddiad y Ffindir yn diffinio'r system wleidyddol; mae'n weriniaeth seneddol o fewn fframwaith democratiaeth gynrychioliadol(representative democracy) . Y Prif Weinidog yw person mwyaf pwerus y wlad. Gall dinasyddion gael eu hethol a phleidleisio mewn etholiadau seneddol, dinesig, arlywyddol ac etholiadau'r Undeb Ewropeaidd.
Pennaeth gwladwriaeth y Ffindir yw Llywydd y Weriniaeth. Bu gan y Ffindir am y rhan fwyaf o’i hannibyniaeth system lled-arlywyddol o lywodraeth, ond yn y degawdau diwethaf mae pwerau’r Arlywydd wedi dod yn fwy amgylchiadol, ac o ganlyniad mae’r wlad bellach yn cael ei hystyried yn weriniaeth seneddol. Mae cyfansoddiad newydd a ddeddfwyd yn 2000, wedi gwneud y llywyddiaeth yn swydd seremonïol gan fwyaf, sy'n penodi'r Prif Weinidog a etholir gan y Senedd, ac sy'n penodi ac sy'n diswyddo gweinidogion eraill Llywodraeth y Ffindir ar argymheliad y Prif Weinidog. Ymhlith y dyletswyddau eraill y mae agor sesiynau seneddol, a chyflwyno anrhydeddau'r wladwriaeth. Serch hynny, mae'r Llywydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gysylltiadau tramor y Ffindir, gan gynnwys gwneud rhyfel a heddwch, ond heb gynnwys materion sy'n ymwneud â'r Undeb Ewropeaidd.
Ar ben hynny, mae'r Llywydd yn ben ar Luoedd Amddiffyn y Ffindir fel y Prif Cadlywydd. Wrth arfer ei bwerau tramor ac amddiffyn, mae'n ofynnol i'r Llywydd ymgynghori â Llywodraeth y Ffindir, ond nid yw cyngor y Llywodraeth yn rhwym i dderbyn ei gyngorl. Yn ogystal, mae gan y Llywydd nifer o bwerau wrth gefn domestig, gan gynnwys yr awdurdod i roi feto ar ddeddfwriaeth, i roi pardwn, ac i benodi sawl swyddog cyhoeddus. Mae'r Cyfansoddiad hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd ddiswyddo gweinidogion unigol neu'r Llywodraeth gyfan ar bleidlais seneddol o ddiffyg hyder.
Senedd unsiambrog (unicameral) sydd gan Ffindir , gyda 200 aelod o'i mewn; dyma awdurdod deddfwriaethol goruchaf y wlad. Gall y Senedd newid y cyfansoddiad a'r deddfau cyffredin, gall ddiswyddo'r cabinet, a gall ddiddymu'r feto arlywyddol. Nid yw ei weithredoedd yn agored i adolygiad barnwrol; asesir cyfansoddiad cyfreithiau newydd gan bwyllgor cyfraith gyfansoddiadol y senedd. Mae'r senedd yn cael ei hethol am dymor o bedair blynedd gan ddefnyddio dull cyfrannol D'Hondt o fewn nifer o etholaethau aml-sedd drwy'r rhanbarthau aml-aelod ar restr agored. Mae pwyllgorau seneddol amrywiol yn gwrando ar arbenigwyr ac yn paratoi deddfwriaeth.
Dywed Adran 6 o Gyfansoddiad y Ffindir: "Ni ddylid gwahaniaethu o ran rhyw, oedran, tarddiad, iaith, crefydd, cred, barn, iechyd, anabledd neu unrhyw reswm personol arall heb reswm derbyniol".
Mae'r Ffindir wedi'i gosod yn uwch na'r cyfartaledd ymhlith gwledydd y byd mewn democratiaeth, rhyddid y wasg, a datblygiad dynol. Mynegodd Amnest Rhyngwladol eu pryder ynghylch rhai materion yn y Ffindir, megis carcharu gwrthwynebwyr cydwybodol, a gwahaniaethu cymdeithasol yn erbyn pobl Romani ac aelodau o leiafrifoedd ethnig ac ieithyddol eraill.
Yn 2022 roedd economi Ffindir y 16ed forau (o ran CMC (GDP) y pen, yn ol yr IMF. Yn ogystal, mae gan y Ffindir system les effeithiol iawn sy'n cwmpasu addysg am ddim a gofal iechyd cyffredinol, gan gyfrannu at ei henw da fel un o'r cenhedloedd cyfoethocaf.
Y sector gwasanaeth yw'r rhan fwyaf o'r economi, sef 66% o'r CMC, tra bod gweithgynhyrchu a mireinio yn cyfrif am 31%. Mae cynhyrchu cynradd yn cyfrif am 2.9% o'r economi. Gweithgynhyrchu yw'r sector economaidd sylfaenol sy'n ymwneud â masnach dramor . Y prif sectorau diwydiannol yn 2007 oedd electroneg (22%), peiriannau, cerbydau, a chynhyrchion metel peirianyddol eraill (21.1%), diwydiant coedwigaeth (13%), a chemegau (11%). Cyrhaeddodd y cynnyrch mewnwladol crynswth ei uchafbwynt yn 2021. Mae'r Ffindir yn chweched yn y Mynegai Arloesedd Byd-eang 2023.
Mae gan y Ffindir gryn dipyn o bren, mwynau (gan gynnwys haearn, cromiwm, copr, nicel ac aur ) ac adnoddau dŵr croyw. Ar gyfer y boblogaeth wledig, mae coedwigaeth, melinau papur ac amaethyddiaeth yn hynod o bwysig. Mae ardal Helsinki Fwyaf yn cyfrif am tua thraean o CMC y Ffindir. Gwasanaethau preifat yw'r cyflogwr mwyaf yn y wlad.
Mae gan y Ffindir y crynodiad uchaf o gwmnïau cydweithredol o'i gymharu â'i phoblogaeth. ee mae cyflogwr preifat mwyaf y Ffindir, S-Group, a'r banc mwyaf, OP-Group, ill dau yn gwmnïau cydweithredol.
Mae system ffyrdd y Ffindir yn cael ei defnyddio gan y rhan fwyaf o draffig cargo a theithwyr mewnol. Mae'r wladwriaeth yn gwario tua €1 biliwn ar rwydwaith ffyrdd, yn flynyddol. Ymhlith priffyrdd y Ffindir, y mwyaf arwyddocaol a phrysuraf yw: Priffordd Turku, Priffordd Tampere, Priffordd Lahti, a chylchffyrdd I a III yn ardal fetropolitan Helsinki a Chylchffordd Tampere yn ardal drefol Tampere.
Prif faesawyr teithwyr rhyngwladol yw Maes Awyr Helsinki, a hedfanodd tua 21 miliwn o deithwyr drwyddo yn 2019. Maes Awyr Oulu yw'r ail fwyaf gyda 1 miliwn o deithwyr yn 2019, a cheir 25 maes awyr arall. Mae Finnair, Blue1, a Nordic Regional Airlines (Norra), Norwegian Air Shuttle (ASA) o Faes Awyr Helsinki yn gwerthu gwasanaethau awyr yn ddomestig ac yn rhyngwladol.
Mae'r Llywodraeth yn gwario tua €350 miliwn yn flynyddol ar gynnal rhwydwaith trenau 5,865 cilometr o hyd. Mae trafnidiaeth rheilffordd yn cael ei drin gan y Grŵp VR sy'n eiddo i'r wladwriaeth. Agorwyd rheilffordd gyntaf y Ffindir yn 1862, a heddiw mae'n ffurfio rhan o Brif Linell y Ffindir, sy'n fwy na 800 cilomedr o hyd. Agorodd Helsinki system fetro fwyaf gogleddol y byd ym 1982.
Yn Harbwr Vuosaari yn Helsinki mae mwyafrif y llwythi cargo rhyngwladol yn cael eu trin, a hwn yw'r porthladd cynwysyddion mwyaf yn y Ffindir; ymhlith y rhai eraill mae Kotka, Hamina, Hanko, Pori, Rauma, ac Oulu . Ceir traffig teithwyr-troed o Helsinki a Turku, sydd â chysylltiadau fferi i Tallinn, Mariehamn, Stockholm a Travemünde. Mae llwybr Helsinki-Tallinn yn un o'r llwybrau prysuraf yn y byd.
Gellid dweud bod Ffinneg Ysgrifenedig wedi bodoli ers i Mikael Agricola gyfieithu'r Testament Newydd i'r Ffinneg yn ystod y Diwygiad Protestannaidd, ond ychydig o lenyddiaeth nodedig a ysgrifennwyd hyd at y 19g a dechrau Mudiad Rhamantaidd cenedlaethol y Ffindir. Ysgogodd hyn Elias Lönnrot i gasglu barddoniaeth werin Ffinneg a Karelian a'u trefnu a'u cyhoeddi fel y Kalevala, gwaith epig genedlaethol y Ffindir. Gwelodd yr oes gynydd yn y nifero feirdd a nofelwyr yn y Ffindir, yn arbennig yr awduron cenedlaethol Aleksis Kivi (Y Saith Brawd), Minna Canth, Eino Leino, a Juhani Aho . Ysgrifennai llawer o lenorion y deffroad cenedlaethol cynnar yn Swedeg, megis y bardd cenedlaethol JL Runeberg a Zachris Topelius.
Gellir rhannu cerddoriaeth werin y Ffindir yn gerddoriaeth ddawns Nordig a'r traddodiad hŷn o ganu cerddi, cerddi epig genedlaethol, y Kalevala. Dylanwadir ar lawer o gerddoriaeth glasurol y Ffindir gan alawon a geiriau traddodiadol y Ffindir a Karelian, fel y cynhwysir yn y Kalevala. Yn rhanbarth hanesyddol Karelia y Ffindir, yn ogystal â rhannau eraill o Ddwyrain y Ffindir, cadwyd yr hen draddodiadau canu cerdd yn well nag yn rhannau gorllewinol y wlad, felly canfyddir bod diwylliant Karelian yn cael ei ystyried yn fwy pur. Mae cerddoriaeth werin y Ffindir wedi mynd trwy adfywiad ac wedi dod yn rhan o gerddoriaeth boblogaidd. Mae pobl gogledd y Ffindir, Sweden, a Norwy, sef y Sami, yn adnabyddus yn bennaf am ganeuon hynod ysbrydol o'r enw joik.
Yn eironig, ysgrifennwyd yr opera Ffinneg gyntaf gan gyfansoddwr a aned yn yr Almaen, Fredrik Pacius, ym 1852. Ysgrifennodd Pacius y gerddoriaeth hefyd i'r gerdd Maamme/Vårt land (Our Country), anthem genedlaethol y Ffindir. Yn y 1890au lledaenodd cenedlaetholdeb Ffindir a daeth Jean Sibelius yn enwog am ei symffoni lleisiol Kullervo. Yn 1899 cyfansoddodd Finlandia, a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o ennill annibyniaeth i'r Ffindir. Cyfieithwyd y gân i'r Gymraeg a chafodd ei phoblogeiddio gan Dafydd Iwan.
Ochr yn ochr â Sibelius, crëwyd arddull cerddoriaeth arbennig y Ffindir gan Oskar Merikanto, Toivo Kuula, Erkki Melartin, Leevi Madetoja ac Uuno Klami . Ymhlith y cyfansoddwyr modern pwysicaf mae: Einojuhani Rautavaara, Aulis Sallinen a Magnus Lindberg. Mae llawer o gerddorion o'r Ffindir wedi cael llwyddiant rhyngwladol. Yn eu plith mae'r arweinydd Esa-Pekka Salonen, y gantores opera Karita Mattila a'r feiolinydd Pekka Kuusisto.
Mae Iskelmä (a fathwyd yn uniongyrchol o'r gair Almaeneg Schlager, sy'n golygu "taro") yn air traddodiadol o'r Ffindir am gân boblogaidd ysgafn. Mae cerddoriaeth boblogaidd y Ffindir hefyd yn cynnwys gwahanol fathau o gerddoriaeth ddawns a'r tango, arddull hefyd yn boblogaidd. Mae gan y gerddoriaeth ysgafn mewn ardaloedd lle siaredir Swedeg fwy o ddylanwadau o Sweden. Mae o leiaf dau polkas Ffinneg sy'n hysbys ledled y byd sef y kkijärven polkka a'r "Ievan polkka".
Mae'r Ffindir wedi ennill Cystadleuaeth Cân Eurovision unwaith, yn 2006 pan enillodd Lordi y gystadleuaeth gyda'r gân ''Hard Rock Hallelujah''. Daeth yr artist pop o’r Ffindir Käärijä hefyd yn ail yn y gystadleuaeth yn 2023 gyda’i gân boblogaidd fyd-eang '' Cha Cha Cha ''.
Yn y diwydiant ffilm, mae cyfarwyddwyr modern nodedig yn cynnwys y brodyr Mika ac Aki Kaurismäki, Dome Karukoski, Antti Jokinen, Jalmari Helander, a Renny Harlin. Mae rhai cyfresi drama o'r Ffindir yn adnabyddus yn rhyngwladol, fel Bordertown.
Un o'r ffilmiau Ffindir mwyaf llwyddiannus yn rhyngwladol yw Valkoinen Peura (Y Carw Gwyn) a gyfarwyddwyd gan Erik Blomberg yn 1952, ac a enillodd Wobr Golden Globe am y Ffilm Dramor Orau yn 1956; TMies Vailla Menneisyyttä (Y Dyn Heb Orffennol), a gyfarwyddwyd gan Aki Kaurismäki yn 2002, a enwebwyd am Wobr yr Academi am y Ffilm Iaith Dramor Orau yn 2002 ac enillodd y Grand Prix yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes 2002; a'r Ffensiwr, a gyfarwyddwyd gan Klaus Härö yn 2015, ac a enwebwyd ar gyfer y 73ain Gwobrau Golden Globe yn y categori Ffilm Iaith Dramor Orau fel cyd-gynhyrchiad Ffindir/Almaeneg/Estoneg.
Yn y Ffindir, mae'r ffilmiau mwyaf arwyddocaol yn cynnwys Y Milwr Anhysbys, a gyfarwyddwyd gan Edvin Laine yn 1955. Mae Täällä Pohjantähden Alla (Yma, O dan Seren y Gogledd) o 1968, hefyd yn un o'r gweithiau mwyaf arwyddocaol yn hanes y Ffindir. Pleidleisiwyd ffilm gomedi droseddol o 1960 Komisario Palmun Erehdys, a gyfarwyddwyd gan Matti Kassila, yn 2012 fel ffilm gorau'r Ffindir erioed gan feirniaid ffilm a newyddiadurwyr o'r Ffindir, ond ffilm gomedi 1984 Uuno Turhapuro Armeijan Leivissä, yw'r ffilm ddomestig fwyaf poblogaidd yn y Ffindir a wnaed ers 1968 gan ddinasyddion y Ffindir.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Ffindir, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.