Môr sy'n rhan o Gefnfor yr Arctig yw Môr Barents.
Saif i'r gogledd o Norwy a rhan ewropeaidd Rwsia, gyda Chulfor Kara a Novaya Zemlya yn ei wahanu oddi wrth Fôr Kara yn y dwyrain. Cafodd ei enw ar ôl y fforiwr Willem Barents o'r Iseldiroedd.
Math | môr ymylon, môr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Willem Barentsz |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cefnfor yr Arctig |
Gwlad | Rwsia, Norwy |
Arwynebedd | 1,424,000 km² |
Cyfesurynnau | 75°N 40°E |
Mae'r dŵr ychydig yn gynhesach nag y disgwylid i fôr sydd cyn belled i'r gogledd, ac mae'n fan pysgota pwysig, yn enwedig am y Penfras. Y ddinas fwyaf ar arfordir Môr Barents yw Murmansk, a ddefnyddir fel porthladd gan lynges Rwsia. Mae Afon Petsiora yn aberu yn y môr yma.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Môr Barents, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.