Dinas yng ngogledd-orllewin Rwsia yw Murmansk (Rwseg: Му́рманск).
Saif yn yr Arctig, ar benrhyn Kola, ac mae'n borthladd pwysig. Mae'n brifddinas Oblast Murmansk. Hi yw'r ddinas fwyaf yn yr Arctig; roedd y boblogaeth yn 2007 yn 317,500.
Math | tref/dinas, okrug ddinesig |
---|---|
Poblogaeth | 267,422 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Andrey Sysoyev |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Luleå Municipality, Jacksonville, Florida, Akureyri, Minsk, Tromsø, Vadsø Municipality, Groningen, Alanya, Cuxhaven, Douarnenez, Gomel, Harbin, Pärnu |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Murmansk |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 154.4 km² |
Uwch y môr | 50 metr |
Yn ffinio gyda | Severomorsk Urban Okrug, Kolsky District |
Cyfesurynnau | 68.9667°N 33.0833°E |
Cod post | 183000 |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrey Sysoyev |
Sefydlwyd y ddinas yn Hydref 1916 fel Romanow-na-Murmane (Романов-на-Мурмане). Yn fuan wedi Chwyldro Chwefror 1917, newidiwyd yr enw i Murmansk. Er ei bod yn yr Arctig, mae dŵr y môr yn gymharol gynnes yma, fel nad yw'r harbwr yn rhewi yn y gaeaf. Mae Murmansk a maesdref Severomorsk yn ganolfan bwysig i lynges Rwsia ac i'w llynges o longau torri rhew, yn cynnwys llongau niwclar.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Murmansk, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.