Corff paramilitaraidd cenedlaethol Cymreig oedd Byddin Rhyddid Cymru (Saesneg: Free Wales Army neu FWA).
Enghraifft o'r canlynol | paramilitary organization |
---|---|
Idioleg | Annibyniaeth i Gymru |
Daeth i ben | 1969 |
Dechrau/Sefydlu | 1963 |
Sefydlwyd y fyddin yn Llanbedr Pont Steffan yn 1963 gan William Julian Cayo-Evans, gyda'r bwriad o gymeryd lle Mudiad Amddiffyn Cymru. Ei nod oedd gweriniaeth Gymreig annibynnol. Daeth logo'r fyddin, a adwaenid fel yr Eryr Wen, yn olygfa gyffredin trwy Gymru, wedi ei beintio ar waliau a phontydd, yn enwedig yn y cyfnod wedi boddi pentref Capel Celyn a chyn Arwisgiad Tywysog Cymru yn 1969.
Bu'r fyddin yn hyfforddi yng nghefn gwlad Cymru, a'i harweinwyr yn rhoi cyfweliadau i newyddiadurwyr. Ymddengys iddynt fod yn gyfrifol am nifer o ffrwydradau.
Ym 1969, rhoddwyd naw o arweinyddion y fyddin, Julian Cayo-Evans, Dennis Coslett, William Vernon Davies, Vivian George Davies, Keith Davies (Gethin ab Iestyn) a David Bonnar Thomas David John Underhill, Glyn Rowlands a Tony Lewis ar brawf gan yr awdurdodau Prydeinig, ac wedi'r achos llys hiraf oedd wedi ei gynnal yng Nghymru hyd hynny, fe'u dedfrydwyd i dymhorau hir o garchar.
Ar ddechrau'r achos gwrthododd y diffynyddion ufuddhau i'r orchymyn "All Silence", trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau.
Er bod y mwyafrif o'r troseddau honedig cyhuddwyd y diffynyddion o'u cyflawni wedi eu cyflawni, yn ôl y cyhuddwyr, yn Siroedd Caerfyrddin a Meirionydd, cynhaliwyd yr achos traddodi yng Nghaerdydd a'r achos o flaen Llys y Goron yn Abertawe. Gofynnodd John Gower QC ar ran Dai Bonner i'r achos cael ei glywed yn Llys y Goron Caerfyrddin gan awgrymu bod yr awdurdodau wedi dewis Caerdydd ac Abertawe ar gyfer clywed yr achos yn fwriadol, o'r herwydd y tebygolrwydd uwch o gael rheithfarn wrth Gymreig yn y dinasoedd nac yn y trefi Cymraeg, gwrthodwyd y cais. Gwrthododd Cayo a Cosslett pledio, a chofrestrwyd ple o ddieuog ar eu rhan, plediodd y diffynyddion eraill yn ddieuog. Gan fod Cayo a Glyn Rowlands yn dymuno i'r achos cael ei glywed trwy'r Gymraeg, caniatawyd i gyfieithwyr eistedd y tu ôl iddynt i sibrwd cyfieithiad Cymraeg o'r achos yn eu clustiau .
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Byddin Rhyddid Cymru, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.