Llanbedr Pont Steffan: Tref yng Nghymru

Tref a chymuned yn nyffryn Teifi, yng Ngheredigion yw Llanbedr Pont Steffan (hefyd Llambed a Llanbed, Saesneg: Lampeter).

Mae yno farchnad, dwy archfarchnad a nifer o siopau lleol. Yno hefyd mae Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, Ysgol Ffynnonbedr ac Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan. Saif Hen Domen Llanbedr Pont Steffan, sef hen domen o'r Oesoedd Canol ar ochr ddwyreiniol i'r dref. Yng Nghyfrifiad 2001, poblogaeth Llambed oedd 2,894. Mae hyn yn golygu mai Llambed ydy tref-brifysgol lleiaf gwledydd Prydain.

Llanbedr Pont Steffan
Llanbedr Pont Steffan: Y Brifysgol, Adeiladau eraill, Papur Bro
Mathtref farchnad, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.1202°N 4.0821°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000370 Edit this on Wikidata
Cod OSSN578478 Edit this on Wikidata
Cod postSA48 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
    Am leoedd eraill o'r enw "Llanbedr", gweler Llanbedr (gwahaniaethu).

Y Brifysgol

Sefydlwyd Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan yn 1822 gan Esgob Burgess o Dyddewi er mwyn hyfforddi darpar offeiriaid yn yr eglwys Anglicanaidd. Yn 1852 cafodd yr hawl (drwy Siarter) i gynnig Gradd BD a Siarter arall i roi'r hawl i'r Brifysgol gynnig Gradd BA yn y celfyddyda 1865. Roedd yn rhan o Brifysgol Cymru hyd at 2008. Sylfaenwyd pensaerniaeth y prif adeilad ar ddull petrual Rhydgrawnt (Saesneg: Oxbridge) ac a gynlluniwyd gan C. R. Cockerell. Enw newydd ar y coleg yw Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Tim rygbi'r Brifysgol oedd y cyntaf drwy Gymru, wedi i un o'r darlithwyr (Rowland Williams) ddod a'r gêm o Gaergrawnt.

Adeiladau eraill

Llanbedr Pont Steffan: Y Brifysgol, Adeiladau eraill, Papur Bro 
Y dref tua 1885.

Roedd lleoliad cartref hen bobl Hafan Deg yn arfer bod yn wyrcws, a gafodd ei ddymchwel yn y 1960au pan godwyd y cartref newydd.

Papur Bro

Papur Bro Clonc yw papur bro Llanbedr Pont Steffan a'r plwyfi o gwmpas y dref. Cyhoeddir rhifyn yn fisol, ac mae gwefan Clonc360 yn brosiect bywiog gan nifer o wirfoddolwyr lleol, dan faner y papur bro a Golwg360.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbedr Pont Steffan (pob oed) (2,970)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedr Pont Steffan) (1,346)
  
46.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedr Pont Steffan) (1581)
  
53.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanbedr Pont Steffan) (450)
  
40.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llambed ym 1984. I gael gwybodaeth bellach gweler:

Oriel

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Tags:

Llanbedr Pont Steffan Y BrifysgolLlanbedr Pont Steffan Adeiladau eraillLlanbedr Pont Steffan Papur BroLlanbedr Pont Steffan Cyfrifiad 2011Llanbedr Pont Steffan EnwogionLlanbedr Pont Steffan Eisteddfod GenedlaetholLlanbedr Pont Steffan OrielLlanbedr Pont Steffan CyfeiriadauLlanbedr Pont Steffan Dolenni allanolLlanbedr Pont SteffanAfon TeifiArchfarchnadCeredigionCymuned (Cymru)Hen Domen Llanbedr Pont SteffanMarchnadMwnt a beiliOesoedd CanolPrifysgol Cymru, Llanbedr Pont SteffanSaesnegTrefYsgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

EwroBukkake1533CwinestrolYr Undeb EwropeaiddRhyfel yr Undeb Sofietaidd yn AffganistanSefydliad WicimediaJohn J. PershingMwynBridge of Spies (ffilm)OwsleburyCernyweg1960LlundainRhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaethSex Tape1965Newham (Bwrdeistref Llundain)AligatorHaslemereEglwys Gatholig Roegaidd WcráinKieffer MooreBarddoniaethThe ApologyAlergeddGogledd AmericaThe Hitler GangLabiaGwladPlus Beau Que Moi, Tu MeursSefastopolCiwbaMelatoninTsieinaBreinlenThe Salton SeaRhestr o bobl a anwyd yng Ngogledd IwerddonYnysoedd Gogledd MarianaGweriniaeth2022De AffricaAwstraliaTudur Dylan JonesFfilmBaner CymruBaker City, OregonTîm Pêl-droed Cenedlaethol SbaenMathemategGobaith a Storïau EraillBatmanAlbert II, brenin Gwlad BelgCanghellor y TrysorlysPeredur ap GwyneddWokingTîm Pêl-droed Cenedlaethol Gwlad Pwyl1954WicidestunFutanariWar of the Worlds (ffilm 2005)Camilla, Brenhines Gydweddog y Deyrnas UnedigY Deyrnas UnedigAshland, OregonGwinNeft Kəşfiyyatçıları🡆 More