Iechyd

Yn gyffredinol, diffinnir iechyd fel cyflwr corfforol, meddyliol a chymdeithasol cyflawn ac nid absenoldeb afiechyd neu wendid yn unig.

Defnyddir y diffiniad hwn gan Gyfundrefn Iechyd y Byd ers 1948.

Iechyd
Ambiwlans awyr Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Ym 1986, yn Siarter Hybu Iechyd Ottawa, dywedodd Cyfundrefn Iechyd y Byd fod iechyd yn "adnodd ar gyfer bywyd bob dydd, nid nod bod yn fyw. Mae iechyd yn gysyniad cadarnhaol sy'n pwysleisio adnoddau cymdeithasol a phersonol, yn ogystal â gallu corfforol".

Daw iechyd cyffredinol drwy gyfuniad o gyflyrrau corfforol, meddyliol, emosiynol a chymdeithasol cadarnhaol.

Cerrig milltir yng Nghymru

  • c.945 Crybwyllai Deddfau Hywel Dda y gall meddygon godi arian ar glaf am ei wella.
  • 1349 Y Pla Du'n ymddangos gyntaf yng Nghymru gan ladd hyd at 100,000 erbyn 1420.
  • 1354 Henry, Dug Lancaster, a anwyd yng Nghastell Y Grysmwnt, Sir Fynwy, yn sgwennu Le Livre des Seintes Medicines (Llyfr Meddygaeth Cysegredig).
  • 1470 Blwyddyn geni Bened ap Rhys (neu Bened Feddyg) yn Nyffyn Clwyd, sef awdur y llyfryn cyntaf Cymraeg ar feddygaeth.
  • 1490au Lewis o Gaerleon yn feddyg i Harri VII, brenin Lloegr ac o bosibl Catrin o Aragon.
  • 1652 Diwedd y pla yng Nghymru, gyda 400 yn marw yn Hwlffordd.
  • 1705 Y frech wen yn lladd 60 o drigolion Penmachno, Gwynedd.
  • 1726 - 31 Cannoedd yn marw led led Cymru o deiffws (neu tyffws; typhus)
  • 1739 Marwolaeth John Jones, yr olaf o deulu Meddygon Myddfai.
  • 1817 Codi'r ysbyty cyntaf: yn Abertawe.
  • 1832 Y geri marwol (neu Colera) yn lladd tua 500 o bobl drwy Gymru.
  • 1849 Ail epidemig o golera yn lladd tua 3,000 drwy Gymru.
  • 1851 Y swyddog iechyd cyntaf yn cael ei benodi, a hynny yn Nhywyn, Meirionnydd (bellach Gwynedd).
  • 1854 Trydydd ymddangosiad o'r geri marwol, pan laddwyd 1,000 o bobl.
  • 1865 Y cryd melyn (yellow fever) yn lladd 15 yn Abertawe. Dyma unig ymddangosiad y feirws hwn erioed yng ngwledydd Prydain.
  • 1866 Pedwaredd epidemig colera - a'r olaf - yn lladd tua 2,000.
  • 1870 Ffurfio "Cymdeithas Meddygol Caerdydd"; y cyntaf o'i bath.
  • 1885 Cofrestrwyd Frances Hoggan yn feddyg - y ferch gyntaf yng Nghymru.
  • 1910 Sefydlwyd cymdeithas i ymgyrchu i atal y ddarfodedigaeth neu'r diciâu sef "The King Edward Vll National Memorial Association".
  • 1912 Sefydlu Comisiwn Yswiriant Gwasanaeth Iechyd Cymru.
  • 1915 Baddondai cyntaf yn agor mewn glofa, a hynny yng nglofa Deep Navigation, Treharris, Gwent.
  • 1918 - 19 Pandemig ffliw neu'r "ffliw Sbaenaidd" yn lladd 10,000 drwy Gymru.
  • 1919 Bwrdd Iechyd Cymru yn cael ei ffurfio.
  • Sefydlu Tenovus yng Nghaerdydd.
  • 1962 Y frech wen yn lladd 17 o bobl yn ne Cymru.
  • Cyhoeddi Termau Meddygol gan Fwrdd Astudiaethau Celtaidd.

Cyfeiriadau

Iechyd  Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Iechyd 
Chwiliwch am iechyd
yn Wiciadur.

Tags:

Cyfundrefn Iechyd y Byd

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

CyflogGogledd AmericaPobol y CwmLost and DeliriousVaa DealTudur OwenCeulan-a-MaesmorGelatinC.P.D. Tref Y BarriHanes AlbaniaThe Salton SeaAnna Albertina BronsEdward I, brenin LloegrGilchrist County, FloridaY Gwledydd CartrefOdynXHamster2006Platfform cyfrifiadurolLlyfr llafarReema BansalDeilen yr afuIsgyfandir IndiaPryfKevin JohnBlack Hills AmbushCourseraAdrannau gweithredol ffederal yr Unol DaleithiauThunder RidersGramadeg Lingua Franca NovaWe Feed The WorldWhatsAppHollt GwenerDyledEglwys Sant TeiloRhestr gwledydd yn nhrefn eu poblogaethWeißbier Im BlutAnna VlasovaHomerosGorwelPlanhigyn blodeuolHeinrich Rudolf HertzWikipediaAwdurdod Cyllid CymruMenter gydweithredol1200CuraçaoGabriel García MárquezKhawaja NazimuddinJames Scott, Dug Mynwy 1afIfan Huw DafyddLloegrLlenyddiaeth GymraegGordon BanksTancer olewC. V. RamanAlldafliadYr EidalMôrOrganau rhywY Deyrnas UnedigAsid lactigAsnières-sur-SeineAramaegRhestr mynyddoedd CymruHighstedWaunfawr🡆 More