Norwy: Gwlad ar ochr ddwyreiniol Môr y Gogledd sy'n un o wledydd Llychlyn

Mae Teyrnas Norwy neu Norwy yn wlad ar ochr ddwyreiniol Môr y Gogledd.

Ynghyd a'i chymydog Sweden i'r dwyrain, mae'n un o wledydd Llychlyn.

Norwy
Kongeriket Norge
Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau
ArwyddairEi grym yw natur Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, gwlad OECD Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlgogledd, ffordd Edit this on Wikidata
PrifddinasOslo Edit this on Wikidata
Poblogaeth5,550,203 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Hydref 1905 (diplomatic recognition, Yr Undeb rhwng Sweden a Norwy)
  • 17 Mai 1814 (cyfansoddiad)
  • 9 g
  • 7 Mehefin 1905 (Yr Undeb rhwng Sweden a Norwy) Edit this on Wikidata
AnthemJa, vi elsker dette landet Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJonas Gahr Støre Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
NawddsantOlaf II of Norway Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Bokmål, Sami, Nynorsk, Norwyeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Gwledydd Nordig, Y Penrhyn Sgandinafaidd, Ffenosgandia, Ewrop, Gogledd Ewrop, Ardal Economeg Ewropeaidd, Llychlyn Edit this on Wikidata
Arwynebedd385,207 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Norwy, Môr Barents, Môr y Gogledd, Skagerrak Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSweden, y Ffindir, Rwsia, yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau65°N 11°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Norwy Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholStortinget Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Norwy Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethHarald V, brenin Norwy Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Norwy Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJonas Gahr Støre Edit this on Wikidata
Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$490,293 million, $579,267 million Edit this on Wikidata
Ariankrone Norwy Edit this on Wikidata
Canran y diwaith3 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.78 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.966 Edit this on Wikidata

Hanes

Prif Erthygl: Hanes Norwy

O dan y Llychlynwyr (Vikings yn Saesneg) unwyd y wlad erbyn yr 11g. Ym 1387 bu farw brenin olaf y llinell Norwyaidd, a daeth y wlad o dan reolaeth Denmarc. Gelwid yr adeg yma yn 'noson 400 mlynedd' gan y Norwywyr, gan fod Norwy yn bartner gwan yn yr undeb. Ym 1814, ar ôl i Ddenmarc gefnogi Napoleon yn y rhyfeloedd Ewropeaidd, daeth Sweden i reoli Norwy. Blinodd y Norwywyr ar reolaeth Sweden, ac ym 1905 daeth Norwy yn annibynnol wrth i'r llywodraeth gynnig brenhiniaeth y wlad i Dywysog Carl o Ddenmarc, a ddaeth yn frenin y wlad newydd, gan gymeryd yr enw Haakon VII.

Yn yr Ail Ryfel Byd fe wnaeth byddinoedd yr Almaen o dan Adolf Hitler oresgyn Norwy, ac oherwydd hyn daeth y wlad yn aelod o NATO ym 1949 er mwyn diogelwch. Roedd hefyd yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig o'r dechrau. Mae Norwy yn aelod o EFTA ac Ardal Economaidd Ewrop, ond mae'r etholaeth wedi pleidleisio dwywaith (ym 1972 ac ym 1994) yn erbyn ymuno a'r Undeb Ewropeaidd.

Gwleidyddiaeth

Prif Erthygl: Gwleidyddiaeth

Mae Norwy yn frenhiniaeth ond mae'r pŵer gwleidyddol yn nwylo'r senedd, y Storting. Mae'r gyfundrefn yn debyg i'r hyn a gaed yn y Deyrnas Unedig, gan fod ambell i swyddogaeth pwysig gan y brenin, ond fe'u defnyddir trwy gyngor y Cabinet fel arfer.

Mae 165 o aelodau gan y Storting. Fe etholir yr aelodau drwy gynrychiolaeth gyfrannol o'r 11 sir yn y wlad, am gyfnodau o bedair mlynedd. Ar ôl etholiadau, mae'r Storting yn rhannu'n ddau siambr—yr Odelsting a'r Lagting—sydd weithiau'n cwrdd ar wahan, ac weithiau gyda'i gilydd, yn ôl y deddfwriaeth sy'n cael ei ddadlau.

Siroedd a Threfedigaethau

Rhennir Norwy'n 15 sir (fylke, lluosog fylker), sydd yn eu tro yn cael eu rhannu'n 357 cymuned (kommuner). Dyma restr o'r siroedd:

Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau 
Norwy sir 2024
# Sir 2024 Adran Weinyddol
3 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Oslo Oslo
11 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Rogaland Stavanger
15 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Møre og Romsdal Molde
18 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Nordland Bodø
31 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Østfold Sarpsborg
32 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Akershus Oslo
33 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Buskerud Drammen
34 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Innlandet Hamar
39 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Vestfold Tønsberg
40 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Telemark Skien
42 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Agder Kristiansand
46 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Vestland Bergen
50 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Trøndelag Steinkjer
55 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Troms Tromsø
56 Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau  Finnmark Vadsø

Yn ogystal â hyn, mae gan Norwy nifer o diriogaethau ar draws y byd. Ystyrir ynysoedd Svalbard a Jan Mayen i'r gogledd a'r gogledd-ddwyrain o'r wlad yn rannau o'r deyrnas. Ar y llaw arall, ystyrir Ynys Bouvet i'r de o Affrica fel trefedigaeth ar wahan i'r deyrnas ei hunan.

Mae Norwy yn hawlio rhan o dir Antarctica (Dronning Maud Land ac Ynys Pedr I) ond mae'r hawliau hyn bellach yn cael eu anwybyddu ar ôl cytundeb rhyngwladol.

Daearyddiaeth

Prif Erthygl: Daearyddiaeth Norwy

Norwy: Hanes, Gwleidyddiaeth, Siroedd a Threfedigaethau 
Lleoliad Norwy yn Ewrop

Mae tua dwy rhan o dair o dir Norwy yn fynyddoedd, ac mae rhyw 50,000 o ynysoedd yn eistedd ger yr arfordir troellog, sydd dros 20,000 km o hyd. Mae olion Oes yr Iâ i'w weld, gyda sawl ffiord a nifer o rewlifoedd.

Mae Norwy yn rhannol o fewn Cylch yr Arctig, sydd yn golygu nad yw'r haul yn machlud yno am ran o'r haf. Serch hyn, mae'r hinsawdd yn cael ei gadw'n gynnes oherwydd dylanwad Llif y Gwlff, sef llif cynnes o ddŵr a daw o'r trofannau.

Mannau uchaf Norwy yw mynyddoedd Glittertinden (2472m) a Galdhøpiggen (2469m), yng nghadwyn Jotunheimen.

Economi

Prif Erthygl: Economi Norwy

Mae Norwy yn wlad llewyrchus, yn bennaf efallai oherwydd fod digonedd o adnoddau naturiol ganddi. Ceir llawer o nwy naturiol ac olew crai yn o dan Môr y Gogledd, ac mae'r wlad yn dibynnu'n gryf ar y diwydiant olew—hwn sy'n creu 35% o holl allforion y wlad. Ond mae diwydiannau eraill pwysig gan Norwy—er enghraifft y diwydiant pysgota. Ceisiodd Norwy ymuno âr Undeb Ewropeaidd (UE) dwywaith, ond methodd y cynlluniau am na fod Norwy am ildio rheolaeth ar y diwydiant hwn. Serch hyn mae Norwy yn aelod o farchnad cyffredin yr UE drwy cytundeb Ardal Economaidd Ewrop.

Mae gan Norwywyr safon uchel o fyw, yn bennaf oherwydd yr arian o'r diwydiant olew. Roedd pryder felly beth fyddai'n digwydd ar ôl i'r olew ddiflannu. I ddatrys y broblem, mae llywodraeth Norwy wedi bod yn buddsoddi rhan o'i hennillion o'r diwydiant mewn cronfa dramor, sy'n cynnwys (ym mis Tachwedd 2003) 114 biliwn doler Americanaidd.

Diwylliant

Prif Erthygl: Diwylliant Norwy

Mae 86% o boblogaeth Norwy yn perthyn i eglwys swyddogol Norwy, sy'n eglwys Lwtheraidd.

Dethlir diwrnod cenedlaethol Norwy ar 17 Mai. Ar y diwrnod hwnnw mae llawer o'r Norwyiaid yn gwisgo bunad (gwisg draddodiadol) ac yn gwylio gorymdeithiau ar hyd y strydoedd.

Norwywyr enwog:

Ieithoedd

Mae dau ffurf ysgrifenedig i'r iaith Norwyeg, Bokmål (iaith llyfr) a Nynorsk (Norwyeg newydd). Enw'r wlad yw Norge yn Bokmål, a Noreg yn Nynorsk. Er fod y ddwy iaith yn swyddogol, y Bokmål traddodiadol sy'n fwy cyffredin. Yn y gogledd, siaredir sawl iaith Saami gan bobl y Saami; mae'r iaith hon yn gwbl wahanol i'r Norwyeg.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Norwy HanesNorwy GwleidyddiaethNorwy Siroedd a ThrefedigaethauNorwy DaearyddiaethNorwy EconomiNorwy DiwylliantNorwy Gweler hefydNorwy CyfeiriadauNorwyLlychlynMôr y GogleddSweden

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

GoogleSimon BowerCloUn Ufficiale Non Si Arrende Mai Nemmeno Di Fronte All'evidenza, Firmato Colonnello ButtiglioneManceinionJosefine Mutzenbacher – Wie Sie Wirklich WarLlanrhosCanolfan Masnach y BydOru Vadakkan VeeragathaSenorita From The WestEnsymRobert Alun RobertsTafodieithoedd y GymraegMenna BainesCemegDaddy Day CampGerwyn WilliamsMita Basichi Mu Bhuta SathireAchos llys y Verein KlimaSeniorinnen Schweiz yn erbyn y BundesratContactMaleisiaBretagneIon ThomasThe SimpsonsBlogReal Life CamRhaglen deleduGwenan GibbardThe Last Trapper69 (safle rhyw)Mahmood Hussein MattanMother of All SecretsAl LewisMichelle ObamaDavid WoodardTeithwyr GwyddeligHysgi LabradorMichael JordanVictoria (Awstralia)TrefTwristiaethHow The West Was WonSenedd CymruGweriniaeth Ddemocrataidd y CongoLloegrGweriniaeth Pobl TsieinaMur Israelaidd y Lan OrllewinolWicipedia IseldiregEroticaDinas Efrog NewyddGwystlHTMLI tre voltiCystadleuaeth y MeistriMy Outlaw BrotherIsraelFfilm bornograffigHafanIestyn GarlickCreampieTout L'or Du MondeMeddy FordLeonor FiniSocratesDafydd ParriSpike MilliganRhestr dyddiau'r flwyddyn🡆 More