Prifddinas a dinas fwyaf Estonia yw Tallinn.
Mae 410,200 o bobl yn byw yno (Gorffennaf 2010). Fe'i lleolir ar arfordir gogleddol Estonia, ar lan Gwlff y Ffindir, sy'n fraich o'r Môr Baltig, tua 80 km (50 milltir) i'r de o Helsinki (Y Ffindir).
Math | prifddinas, dinas Hanseatig, tref, dinas fawr, dinas â phorthladd, anheddiad dynol, cyrchfan i dwristiaid |
---|---|
Poblogaeth | 461,346 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Mihhail Kõlvart |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Gefeilldref/i | Vilnius |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Estonia |
Arwynebedd | 159.37 km² |
Uwch y môr | 143 metr |
Gerllaw | Gwlff y Ffindir |
Cyfesurynnau | 59.4372°N 24.745°E |
Cod post | 10111 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Tallinn |
Pennaeth y Llywodraeth | Mihhail Kõlvart |
Dim ond 54.9% o'r boblogaeth sy'n Estoniaid ethnig. Mae 36.5% o'r boblogaeth yn Rwsiaid ethnig, a thua hanner rheiny heb ddod yn ddinasyddion Estoniaidd mor belled.
Mae Tallinn yn borthladd pwysig. Ceir gwasanaethau fferi sy'n cysylltu'r ddinas a Helsinki ac Ynysoedd Åland yn y Ffindir, Stockholm yn Sweden a Rostock yn yr Almaen. Lleolir prif faes awyr Estonia ger Tallinn a daw nifer o ymwelydd yno o wledydd eraill Ewrop a'r tu hwnt.
Tallinn yw canolbwynt gwleidyddol, ariannol, diwylliannol ac addysgol Estonia. Mae rhai yn cyfeirio ati fel Dyffryn Silicon Ewrop; ceir yno'r nifer uchaf o egin-gwmnïau i bob person yn Ewrop ac mae nifer o gwmnïau rhyngwladol wedi'u sefydlu yno, gan gynnwys Skype. Mae'r sector TGCh yn arbennig o gryf yno, ac mae wedi'i rhestr ymhlith 10 uchaf ar restr dinasoedd digidol Ewrop. Dyma hefyd gartref Canolfan Ragoriaeth Amddiffyniad Seibr NATO.
Ers 1997 mae Hen Ddinas Tallinn, sy'n cynnwys Toompea ('Bryn y Gadeirlan'), wedi ei rhestru gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd.
'Reval' oedd yr enw a roddwyd i ddinas Tallinn o'r 13g hyd 1918 ac am gyfnod byr pan oedd wedi'i meddiannu gan y Natsiaid rhwng 1941 a 1944. Er bod olion o anheddiadau yn yr ardal ers tua 5,000 o flynyddoedd, mae'r cofnod cynharaf o fodolaeth y ddinas yn dyddio yn ôl i 1219, ac yn 1248 y cafodd ei chydnabod yn swyddogol trwy dderbyn breintiau dinesig. Y Daniaid oedd y cyntaf i hawlio perchnogaeth o'r ddinas (Taani linn, sef tref Ddaneg, yw tarddiad yr enw Estoneg), a bu yn nwylo marchogion Ellmynaidd, Swediaid a Rwsiaid yn eu tro wedyn. Roedd lleoliad y ddinas yn cynnig ei hun fel canolfan fasnach, a chynyddodd yn ei phwysigrwydd am y rheswm hwnnw, yn arbennig rhwng y 14eg a'r 16g.
Mae Hen Dref Tallinn yn un o'r dinasoedd canoloesol mwyaf trawiadol yn Ewrop ac mae wedi'i rhestru fel Safle Treftadaeth UNESCO.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Tallinn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.