Mae Twyn-y-Gaer (hefyd Twyn y Gaer Llanfihangel Fechan) yn fryngaer Geltaidd siâp hirgrwn sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli i'r gorllewin o Landyfalle, tua dwy filltir i'r Gogledd o Aberhonddu, Powys, Cymru; cyfeirnod OS: SO05443526.
Mae'n 70 metr o ddiametr o'r Gorllewin i'r Dwyrain, ac yn 75m o'r Gogledd i'r De, gyda chlawdd a ffos o'i chwmpas.
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Honddu Isaf |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.0077°N 3.3788°W |
Cod OS | SO05443526 |
Hyd | 75 metr |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR034 |
Mae yma olion sarnfa ac mae'r mynediad i'r gaer i'r dwyrain, gyda bwlch modern yn y gorllewin. Ceir tystiolaeth o ragfur carreg ar yr ochr De-Orllewin.
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol pwrpas caerau o'r Oes Haearn, ac fe'u codwyd cyn y goresgyniad Rhufeinig; cafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yn y Gogledd. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Twyn-y-Gaer, Llandyfalle, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.