Llwythau Celtaidd Cymru

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth sydd gennym ynghylch Llwythau Celtaidd Cymru yn deillio o’r cyfnod wedi i’r Rhufeiniaid gyrraedd i’r diriogaeth sy’n ffurfio Cymru fodern tua 48 O.C.

Ni wyddom pa mor hir roedd y llwythau hyn wedi bodoli cyn y cyfnod Rhufeinig.

Llwythau Celtaidd Cymru
Llwythau Cymru tua 48 OC. Nid oes sicrwydd am yr union ffiniau.

Ymddengys i’r Rhufeiniaid goncro rhai o’r llwythau, megis y Demetae a’r Deceangli heb lawer o drafferth, ond bu’r Silwriaid a’r Ordoficiaid yn brwydro’n hir i amddiffyn eu hanibyniaeth, gan ennill nifer o fuddugoliaethau dros filwyr Rhufeinig. Cymerodd 30 mlynedd cyn i’r llywodraethwr Agricola orchfygu’r Ordoficiaid yn derfynol yn 78 a dwyn y diriogaeth gyfan dan lywodraeth Rhufain.

Y llwythau mae cofnod amdanynt oedd:

Mae’n bosibl fod ychydig o diriogaeth y Cornovii , oedd yn bennaf yng nghanolbarth Lloegr, yn ymestyn dros y ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr. Credir fod enw’r llwyth yma wedi goroesi yn yr enw Llanfair-yng-nghornwy, er bod y pentref yma yng ngogledd Ynys Môn ymhell o diriogaeth y llwyth.

Cyfeiria Iŵl Cesar wrth roi hanes ei ymgyrch i dde-ddwyrain Prydain at lwyth o'r enw Segontiaci yn gyrru cenhadon ato i ildio iddo wedi ei fuddugoliaeth dros y Trinovantes. Mae rhai ysgolheigion wedi ceisio cysylltu enw'r llwyth yma a Segontium, y gaer Rufeinig ddiweddarach ger Caernarfon, ond nid ymddengys bod unrhyw dystiolaeth bellach i gefnogi hyn.


Sbiral triphlyg Llwythau Celtaidd Cymru Llwythau Celtaidd

Deceangli | Demetae | Gangani | Ordoficiaid | Silwriaid |

Gwelwch hefyd: Y Celtiaid

Tags:

Cymru

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Richard ElfynArbrawfAmerican Dad XxxTony ac AlomaFietnamegEilianVin DieselLeondre DevriesYmlusgiadYsgol y MoelwynGwibdaith Hen FrânSiriIlluminati2018TeotihuacánWhatsAppWsbecistanGweinlyfuLliwParamount PicturesYr wyddor GymraegAgronomegAnialwchPapy Fait De La RésistancePeniarthPsychomaniaStuart SchellerZulfiqar Ali BhuttoYr AlbanYokohama MaryCymdeithas yr IaithPenelope LivelyRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrRecordiau CambrianGwyn ElfynAnnibyniaethDagestanConnecticutAdolf HitlerBacteriaMici PlwmTatenWicipediaIron Man XXXHannibal The ConquerorCrai KrasnoyarskDeux-SèvresFfraincGary SpeedLos Angeles200923 MehefinLeigh Richmond RooseAfon MoscfaWikipediaAriannegEglwys Sant Baglan, LlanfaglanIddew-SbaenegCyfalafiaethThelemaPwtiniaethPiano LessonTre'r CeiriJohannes VermeerSlefren fôrConwy (etholaeth seneddol)CaernarfonSystème universitaire de documentationCawcaswsTsunami🡆 More