Bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn, wedi'i lleoli ger Penbryn, Ceredigion, Cymru, yw Castell Nadolig.
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.1257°N 4.4868°W |
Cod OS | SN29855040, SN2985050400 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CD053 |
Saif y fryngaer hon ar fryn isel 212m uwch lefel y môr ar ymyl lôn yr A487 naw milltir i'r dwyrain o Aberteifi a thua 3 milltir i'r de-orllewin o Langrannog. Mae ar diriogaeth y Demetae, llwyth Celtaidd Dyfed.
Nid yw'n safle cryf ynddo'i hun, ond cafodd ei amddiffyn â dau glawdd sylweddol. Mae'r ddau glawdd consentrig yn sefyll tua 60m oddi wrth ei gilydd, a chredir fod y tir agored rhyngddyn nhw yn cael ei ddefnyddio gan breswylwyr y gaer i gadw eu gwartheg ac anifeiliaid eraill. Mae'r gaer yn enghraifft dda o'r math o gaerau bychain ar gyfer teuluoedd estynedig sydd mor nodweddiadol o dde-orllewin Cymru. Gellid eu cymharu â'r caerau cyffelyb yn Iwerddon a elwir yn rhathau.
Mae Castell Nadolig yn adnabyddus i archaeolegwyr am fod dwy lwy efydd o wneuthuriad cain, wedi'u haddurno â phlethwaith Celtaidd, wedi eu darganfod ar y safle. Mae'n bosibl eu bod yn waith gofydd metel o dde-orllewin Lloegr, gan fod llwyau cyffelyb wedi'u darganfod yno, yn arbennig yng Nghernyw. Mae'r llwyau i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD053. Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha. Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Castell Nadolig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.