Cernyw: Gwlad a sir draddodiadol

Un o'r gwledydd Celtaidd yw Cernyw (Cernyweg: Kernow; Saesneg: Cornwall), yn ne-orllewin Prydain.

Mae hefyd yn sir hanesyddol Lloegr ac yn sir seremonïol y rhanbarth De-orllewin Lloegr, gyda'i dref gweinyddol yn Truro. Mae'n ffinio â Dyfnaint ar y tir ac yn gorwedd rhwng Môr Iwerddon a'r Môr Udd. Ystyrir Ynysoedd Syllan neu Scilly hefyd yn rhan o Gernyw. Ar 24 Ebrill 2014 cydnabyddwyd y Cernywiaid yn lleiafrif cenedlaethol.

Cernyw
Cernyw: Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
Mathsiroedd hanesyddol Lloegr, gwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasTruru Edit this on Wikidata
Poblogaeth575,525 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCoventry Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLloegr, cenhedloedd Celtaidd Edit this on Wikidata
SirDe-orllewin Lloegr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cernyw Cernyw
Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd3,563 km², 3,562.3326 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaDyfnaint Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.3°N 4.9°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaethArdal o Harddwch Naturiol Eithriadol Edit this on Wikidata
Manylion
Cernyw: Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
Lleoliad Cernyw mewn perthynas â Lloegr
Cernyw: Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
Baner Cernyw

Truro yw'r unig ddinas, a hefyd y brifddinas. Mae prif drefi'r wlad yn cynnwys Newquay, Bodmin, St Austell, Camborne, Redruth a Padstow. Mae Cernyw yn enwog am fod yn lle dda i fynd am wyliau am ei fod yn dwymach ar gyfartaledd nac unrhyw le arall yng ngwledydd Prydain, ac am ei fod yn lle arbennig am syrffio.

Mae Cernyw hefyd yn enwog am ei phasteiod cig a'i mwynfeydd alcam, ac am Senedd y Stanorion neu Fwynwyr sy'n dal i fynnu mai ganddi hi mae'r hawl i reoli'r wlad. Piran yw nawddsant Cernyw, a'i faner yn groes wen ar gefndir du. Mae mudiad cenedlaethol gwleidyddol yng Nghernyw, ond nid yw'r pleidiau megis Mebyon Kernow a Phlaid Genedlaethol Cernyw wedi gwneud fawr o farc hyd yma, er iddynt gipio ambell sedd ar gynghorau lleol.

Cynhelir Gorsedh Kernow (Gorsedd Cernyw) yn flynyddol i hyrwyddo'r iaith Gernyweg a diwylliant Cernyw.

Mae'r Tywysog Siarl hefyd yn dal y teitl Dug Cernyw.

Daearyddiaeth

Cernyw: Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth 
Land's End (Penn an Wlas / Pedn an Wlas)

Pentir sylweddol ym mhen de-orllewinol eithaf Prydain Fawr sy'n ymestyn allan i'r Cefnfor Iwerydd rhwng y Môr Celtaidd i'r gogledd a'r Môr Udd i'r de yw Cernyw. Penrhyn Pedn an Wlas neu Land's End yw pwynt mwyaf deheuol Cernyw a Phrydain (John o Groats yn yr Alban yw pwynt mwyaf gogleddol yr ynys). Nodweddir yr arfordir gan nifer o faeau creigiog a thraethau braf. Mae arfordir y gogledd yn llawer mwy ysgythrog a chreigiog nag arfordir y de, lle ceir baeau mawr agored.

Cernyw: Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth 
Map dwyieithog Cernyweg-Saesneg o Gernyw

Mae'r poblogaeth oddeutu 534,300, ac mae ei arwynebedd yn 3,563 km2 (1,376 mi sg).

Creigiau Hen Dywodfaen Coch a Defonaidd sy'n nodweddi daeareg solid yr ardal; mae'r creigiau hyn yn torri trwodd yn fryniau isel yma ac acw, yn enwedig ger yr arfordir ac ar Waun Bodmin, lle ceir Bron Wennyly (Brown Willy, 419m), pwynt uchaf Cernyw.

Hanes

Mae hanes Cernyw fel gwlad fasnach yn dechrau gyda'i chysylltiadau â marsiandïwyr Môr y Canoldir a oedd yn cael eu denu yma gan y mwynfeydd tun. Roedd tun yn cael ei gynhyrchu yng Nghernyw ers Oes yr Efydd; roedd y metel yn arbennig o bwysig gan ei fod yn cael ei gymysgu â chopr i gynhyrchu efydd.

Gelwid Cernyw yn Cornubia gan y Rhufeiniaid, ond nid oes llawer o olion Rhufeinig wedi eu darganfod yma. Erbyn y cyfnod yma roedd tun i'w gael yn haws o Benrhyn Iberia, felly roedd pwysigrwydd economaidd yr ardal yn llai. Wedi i'r Rhufeiniaid adael ymddengys fod Cernyw yn rhan o deyrnas Frythonig Dumnonia neu Dyfnaint.

Erbyn yr 8g roedd Dyfnaint wedi ei goresgyn gan yr Eingl-Sacsoniaid. Enillodd y Brythoniaid frwydr yn "Hehil" yn 721, ond yn 838 gorchfygwyd cynghrarir o Frythoniaid a Daniaid gan Egbert, brenin Wessex. Yn 936, nodir i Athelstan osod Afon Tamar fel ffin orllewinol Wessex.

Erbyn 1066 ystyrid Cernyw yn rhan o Deyrnas Lloegr, ond roedd ganddi rywfaint o annibyniaeth yn parhau fel is-deyrnas. Diorseddwyd brenin olaf Cernyw, Cadog, gan y Normaniaid. Bu gwrthryfel yn 1497, gan ddechrau ymhlith y mwynwyr tun, oedd yn gwrthwynebu cynnydd yn y trethi. Dywedir i ugain y cant o boblogaeth Cernyw gael ei lladd yn y gwrthryfel yma. Yn 1755 tarawyd arfordir Cernyw gan tsunami a achoswyd gan ddaeargryn mawr Lisbon. Ffurfiwyd plaid genedlaethol Mebyon Kernow yn 1951 i geisio ennill hunanlywodraeth. Nid yw'r blaid wedi llwyddo i ennill sedd yn Nhy'r Cyffredin hyd yma.

Ar 24 Ebrill 2014 cydnabyddwyd y Cernywiaid yn lleiafrif cenedlaethol. Roedd hyn o dan y Confensiwn Fframwaith Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Lleiafrifoedd Cenedlaethol (FCPNM). Mae'r penderfyniad i gydnabod hunaniaeth unigryw'r pobl Cernyw, felly'n rhoi'r un statws iddynt a'r Albanwyr y Cymry a'r Gwyddelod. Golyga hyn, hefyd, bod gan y Cernywiaid "yr hawl i fynegi, cadw, rhannu a datblygu eu diwylliant a’u hunaniaeth unigryw.”

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

Ardaloedd awdurdod lleol

Nid yw'r sir wedi'i rhannu'n ardaloedd awdurdod lleol; gweinyddir y sir gyfan fel awdurdod unedol, sef Cernyw (awdurdod unedol).

Etholaethau seneddol

Rhennir Cernyw yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan:

Yr iaith Gernyweg heddiw

Mae tua mil o bobl yn siarad fersiynau cyfoes o'r iaith Gernyweg. Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio Kernewek Kemmyn, sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Gernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig. Hefyd mae defnyddwyr Kernewek Unyes (Cernyweg Unedig) a Kernewek Unyes Amendys (CU adolygedig) gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni. Gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr 17eg a'r 18goedd.

Cernyw: Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth 
Cernyweg, 'Croeso i Penzance' yn yr Gorsaf reilffordd Penzance.

Bu farw Dolly Pentreath, siaradwr olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn 1777, ond mae tystiolaeth i siaradwyr dwyieithog eraill fyw tan ddechrau'r 19g. Gwnaeth yr iaith oroesi ar dafodau pysgotwyr i ryw raddau hyd ddiwedd y 19g (ni wnaed yr ymchwil angenrheidiol ar y pryd). Mae peth adferiad yn digwydd nawr. O'r chwe iaith Geltaidd, Cernyweg ydyw'r debycaf i'r Llydaweg.

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Tags:

Cernyw DaearyddiaethCernyw HanesCernyw Gwleidyddiaeth a gweinyddiaethCernyw Yr iaith Gernyweg heddiwCernyw Gweler hefydCernyw Dolenni allanolCernyw CyfeiriadauCernywCeltiaidCernywegDe-orllewin LloegrDyfnaintMôr IwerddonMôr UddPrydainSaesnegSiroedd hanesyddol LloegrSiroedd seremonïol LloegrTruroYnysoedd Syllan

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

DanegPortiwgalCarles PuigdemontRwmanegCalsugnoSwedegBethan Rhys RobertsMycenaeMalavita – The Family19121839 yng NghymruPeredur ap GwyneddProtonFfilmRyan DaviesTaylor SwiftBenjamin NetanyahuOlewyddenRhestr afonydd Cymru1949Rhestr AlbanwyrYr AifftGwyddoniadurSupport Your Local Sheriff!Ardal 51Helen KellerEva StrautmannAderyn ysglyfaethusMET-ArtL'ultima Neve Di PrimaveraYr Ail Ryfel BydDaearegCanadaElectronPafiliwn PontrhydfendigaidSefydliad WicifryngauFfwlbartY FaticanAwdurNiels BohrRhif Llyfr Safonol RhyngwladolEmma NovelloRhestr o bobl gyda chofnod ar y Bywgraffiadur Cymreig ArleinJanet YellenHob y Deri Dando (rhaglen)EwropRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrDinasChicagoParamount PicturesAderynGwlad PwylDelweddMaliSaunders LewisEtholiadau lleol Cymru 2022Wicipedia CymraegPengwinMelyn yr onnenInternet Movie DatabaseDosbarthiad gwyddonolRwsiaidPatrick FairbairnYr AlbanOwain Glyn DŵrMathemategRhyw rhefrol🡆 More