Llydaweg: Iaith

Iaith Geltaidd y Llydaw yn nheulu'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd yw'r Llydaweg (brezhoneg).

Mae'r Llydaweg yn tarddu o'r Frythoneg, fel y gwnaeth y Gymraeg a'r Gernyweg hefyd. Tarddodd y Frythoneg ei hun o'r Gelteg. Siaredir Llydaweg yn Llydaw, yng ngogledd-orllewinol gwladwriaeth Ffrainc, sef Llydaw Isel, sy'n cynnwys Finistère, gorllewin Côtes d'Armor a Morbihan. Mae cysylltiad agos rhwng yr iaith â'r hunaniaeth Lydawaidd.

Llydaweg
brezhoneg
Ynganiad IPA [bɾe.ˈzõː.nɛk]
Siaredir yn Baner Ffrainc Ffrainc
Rhanbarth Baner Llydaw Llydaw
Cyfanswm siaradwyr tua 200,000
Teulu ieithyddol Indo-Ewropeaidd
Codau ieithoedd
ISO 639-1 br
ISO 639-2 bre
ISO 639-3 bre
Wylfa Ieithoedd 50-ABB-b (amrywiadau:

50-ABB-ba hyd at -be)

Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw
Kemper yn Penn-ar-Bed /Finistère
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw
Poster ar arwydd uniaith Ffrangeg yn mynnu'r defnydd o'r Lydaweg. Montroulez 2013.
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw
Protest Iaith yn An Oriant
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw
Y Lydaweg yn gyntaf ar arwydd siop, a'r Ffrangeg yn ail.

Hanes

Cafodd y Llydaweg ei chyflwyno i Lydaw gan ymfudwyr o dde-ddwyrain Prydain o'r 4edd hyd at y 6g. Ychydig sy'n hysbys am gyflwr ieithyddol y rhan honno o wlad Gâl yr adeg honno ond mae'n bur sicr fod tafodiaith Aleg yn cael ei siarad yno. Nid yw'r Llydaweg ei hun yn perthyn i gangen Celteg y Cyfandir ond yn hytrach i'r Frythoneg sydd, gyda'r Oideleg, yn ffurfio'r gangen Geltaidd a elwir yn Gelteg Ynysig. Glosau ar eiriau Lladin mewn llawysgrifau yw'r cofnodau hynaf o'r iaith Lydaweg sydd ar gael heddiw, ynghyd ag enwau personol a lleol yn yr un ffynonellau. Maent yn dyddio o'r 9fed hyd at y 12g. Mae'r testunau cyfan cynharaf yn dyddio o ddiwedd yr Oesoedd Canol. Gelwir iaith y cyfnod hwnnw'n Llydaweg Canol. Testunau crefyddol fel bucheddau seintiau yw'r testunau Llydaweg Canol bron i gyd. Y llyfr cyntaf i'w gyhoeddi yn y Llydaweg yw'r Catholicon, geiriadur teirieithog a gyhoeddwyd yn Landreger (sef Tréguier yn ffrangeg) yn 1464. Mae Llydaweg Canol yn dangos dylanwad cryf Ffrangeg ar ei ffonoleg, ei gramadeg a'i geirfa.

Orgraff

Mae datblygiad system orgraffol safonol i'r Llydaweg wedi bod yn anodd. Cam pwysig oedd cyhoeddiad geiriadur Le Gonidec yn 1821.

Am amser roedd nifer o systemau orgraffol yn cyd-fyw. Ond yr un a ddefnyddir fwyaf heddiw, a ddysgir yn yr holl ysgolion, yw'r orgaff Peurunvan (unedig). Yn y ganrif ddiwethaf roedd ei ylynion yn ei alw Zedacheg (yn ôl y llythyrennau "zh") achos mae'n sgrifennu Breizh, ers 1941, yn lle Breiz neu Breih.

Llydaweg heddiw

Yn 1999, roedd tua 304 000 o bobl yn medru Llydaweg yn ôl yr INSEE (Sefydliad gwybodaeth ystadegol ac economaidd Ffrainc), sef un rhan o bump o boblogaeth Llydaw Isel. Roedd cefn gwlad Breizh Izel yn uniaith Lydaweg tan yr Ail Ryfel Byd. Oddi ar y rhyfel ychydig o bobl ifanc a fagwyd yn Llydaweg. Er gwaetha'r ffaith nad oedd mewnlifiad yn digwydd yr adeg honno ymddengys i'r rhan fwyaf o deuluoedd Llywdaweg benderfynu fagu eu plant yn uniaith Ffrangeg o tua 1946-1950 ymlaen. Mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf ar fin cwympo i lefel isel gyda cholli'r genhedlaeth 70-80 oed dros y degawdau nesaf yma, sef cnewyllyn y siaradwyr iaith gyntaf. Ar hyn o bryd prin bod 2% o blant Llydaw Isel yn medru'r Llydaweg a'r rhan fwyaf ohonynt oherwydd ymdrech ysgolion Llydaweg Diwan.

Blwyddyn Nifer o siaradwyr Llydaweg % o'r boblogaeth yn siarad Llydaweg
1886 1,982,300 60
1928 1,158,000 38
1952 700,000 23
1983 604,000 16
1991 250,000 6
1997 240,000 6
1999 304,000 8
2007 206,000

Statws

Does dim statws swyddogol gan yr iaith Lydaweg. Yn ôl cyfansoddiad Ffrainc, Ffrangeg yw unig iaith y Wladwriaeth. Fe feriniadwyd Ffrainc yn hallt yn ddiweddar yn dilyn eu methiant i gadarnhau Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop. Er hyn, fe sefydlwyd Ofis ar Brezhoneg (Bwrdd yr Iaith Lydaweg) gan Gyngor Rhanbarth Llydaw yn 1999 er mwyn hyrwyddo a datblygu'r defnydd o'r iaith.

Addysg

Mwy na 18,337 o blant sydd yn cael eu dysgu mewn ysgolion Diwan, Div Yezh, Dihun ac mae'r ffigwr yn codi gan bymtheg y cant pob blwyddyn. Mae yna gyfundrefn addysg dwyieithog, sef Divyezh (dwyieithog cyhoeddus) a Dihun (dwyieithog preifat).

Darlledu

Mae radio a theledu cyhoeddus yn darlledu rhai rhaglenni Llydaweg bob dydd. Mae sianel deledu preifat TV Breizh yn darlledu rhaglenni Llydaweg a Ffrangeg.

Brawddegau Cyffredin

  • Sut mae – Salud
  • Hwyl fawr – Kenavo, kenô
  • Diolch – Bennozh Doue (sef yn lythrennol "Bendith Duw"; nid oes gwir gair am diolch yn Llydaweg), Trugarez, mersi.
  • Os gwelwch yn dda – Mar plij.
  • Iechyd da! – Yec'hed mat !
  • Nos da! – Noz vat !
  • Sut ydych chi? – Mat an traoù ganeoc'h ?
  • Sut wyt ti? – Mat an traoù ganit ?
  • Pwy dych chi? – Piv oc'h ?
  • ...ydw i – ...on
  • Beth ydy dy enw? – Pe anv out ?/Petra eo da anv ?
  • Fy enw ydy... – ...eo ma anv
  • Dwi ddim – N'on ket
  • Yn – E/en

Mae cyfieithiadau i'r Gymraeg o'r Llydaweg wedi dangos yn rheolaidd o brif awduron Llydaw fel Roparz Hemon, Anjela Duval, Ronan Huon a Per Denez yn ogystal a'r ffordd arall ee Treid Daouhualet gan Kate Roberts

Priod-ddulliau neu idiomau

  • Siminalioù ar bed all (simneiau y byd arall) – cerrig mawrion mewn cae.
  • Dent Genver (Ysgithredd Ionawr) – Pibonwy.
  • Ne lip ket chadenn ar puñs (dydy e ddim yn llyfu cadwyn y ffynnon) – dydy e ddim yn hoffi dŵr, sef meddwyn yw ef.
  • N'eo ket bet roet un teod dezhi/dezhañ evit lipat ar mogerioù (nid oes ganddo/ganddi dafod i lyfu muriau) – mae e/hi'n siarad yn ddi-baid, pymtheg y dwsin.

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth

Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Wiki
Argraffiad Llydaweg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd
  • F. Gourvil, Langue et littérature bretonnes (Paris, 1952)
  • Kenneth H. Jackson, A Historical Phonology of Breton (Dulyn, 1967)
  • Henry Lewis, Llawlyfr Llydaweg Canol (Caerdydd)

Dolenni allanol

v · t · e Ieithoedd Celtaidd/Celteg
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Brythoneg - (Celteg P)Goedeleg - (Celteg Q)
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Cernyweg ·Cymraeg ·Llydaweg |Gaeleg ·Gwyddeleg ·Manaweg
Llydaweg: Hanes, Orgraff, Llydaweg heddiw 
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd
Chwiliwch am Llydaweg
yn Wiciadur.

Tags:

Llydaweg HanesLlydaweg OrgraffLlydaweg heddiwLlydaweg Brawddegau CyffredinLlydaweg Priod-ddulliau neu idiomauLlydaweg CyfeiriadauLlydaweg LlyfryddiaethLlydaweg Dolenni allanolLlydawegAodoù-an-ArvorBrythonegCeltegCernywegCymraegFfraincFinistèreIeithoedd CeltaiddIeithoedd Indo-EwropeaiddLlydawLlydaw IselMorbihan

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

29 IonawrUndeb llafurAlergeddSisters of AnarchyChicagoY Lôn WenY Gymdeithas Ddaearyddol FrenhinolWashington, D.C.Eva StrautmannEwropContactTudur Dylan JonesGoogle ChromeY PhilipinauWinnebago County, WisconsinAmy CharlesHaslemereCocoa Beach, FloridaHoudiniMemyn rhyngrwydTîm Pêl-droed Cenedlaethol CroatiaDeinosorTarzan and The AmazonsHunan leddfuWilliam ShatnerData cysylltiedigMorfydd E. OwenCeri Rhys MatthewsY CremlinEdward VII, brenin y Deyrnas UnedigIndiaAmmanCymedrNovialGwladwriaeth Islamaidd20 EbrillGorsedd y BeirddGweriniaeth Ddemocrataidd CongoMathilde BonaparteNobuyuki KatoComisiwn EwropeaiddPisoIncwm sylfaenol cyffredinolEv Dirəyi-El DirəyiStygianRhyw rhefrolBrenhinllin TangCnofilLouis XIV, brenin Ffrainc9 IonawrCaerdyddJapanGwladY rhyngrwydYr Undeb EwropeaiddBéla BartókRhestr gwledydd yn nhrefn eu harwynebeddParamount PicturesKabsaDydd Iau CablydFutanariFietnam10 Giorni Senza MammaOsteoarthritisBarddoniaethSpace ManFaytonçu🡆 More