Rwmaneg (Rwmaneg: română) yw iaith genedlaethol Rwmania a Moldofa.
Mae'n perthyn i'r ieithoedd Romáwns yn y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd. Mae tua 24 miliwn o bobl yn siarad yr iaith, yn bennaf yn Rwmania. Mae Rwmaneg yn nodweddiadol am fod yn yr unig iaith Romáwns i gadw olion o ogwyddiad Lladin. Mae hi'n iaith sydd wedi'i dylanwadu'n fawr gan yr ieithoedd Slafeg.
Enghraifft o'r canlynol | iaith, iaith fyw |
---|---|
Math | Romáwns y Dwyrain |
Enw brodorol | limba română |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ro |
cod ISO 639-2 | rum, ron |
cod ISO 639-3 | ron |
Gwladwriaeth | Rwmania, Moldofa, Serbia, Wcráin |
System ysgrifennu | yr wyddor Ladin |
Corff rheoleiddio | Academi Rwmania |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rwmaneg (română) | |
---|---|
Siaredir yn: | Rwmania. |
Parth: | Ewrop |
Cyfanswm o siaradwyr: | 24 miliwn |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | 36 |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Rwmania |
Rheolir gan: | Academia Română |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | ro |
ISO 639-2 | rum (B) /ron (T) |
ISO 639-3 | ron |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Yn ystod y cyfnod Sofietaidd ym Moldofa, cyfeiriwyd at yr iaith frodorol fel Moldofeg (лимба молдовеняскэ) yn hytrach na Rwmaneg, ac fe'i hysgrifennwyd gyda'r wyddor Gyrilig yn hytrach na'r wyddor Ladin. O 1989, yr wyddor Ladin sy'n cael ei defnyddio yn Moldofa fel yn Rwmania, ac fe ddefnyddir y ddau enw, Rwmaneg a Moldofeg, i gyfeirio at yr un iaith. Yn Transnistria er hynny, ble mae'n un o'r ieithoedd swyddogol, enw'r iaith yw Moldofeg, a defnyddir yr wyddor Gyrilig o hyd.
Siaradir Rwmaneg gan leiafrif yn Serbia, er enghraifft yn ardal Vojvodina.
Oherwydd mudo, fe'i siaradir hefyd yn Israel, yn ogystal ac yn yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, a Portiwgal.
Yng nghyfnod Ceaușescu yn Rwmania, daeth llawer o bobl o'r Dwyrain Canol i astudio yn y wlad - mae'n debyg felly fod nifer sydd wedi symud yn ôl i Libanus, Syria, Palesteina, Irac, Yr Aifft, Swdan a Gwlad Iorddonen yn medru'r iaith o hyd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rwmaneg, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.