System ysgrifennu yw'r wyddor Gyrilig, a ddefnyddir heddiw ar gyfer rhai ieithoedd Slafonaidd (Belarwseg, Bwlgareg, Macedoneg, Rwseg, Serbeg ac Wcreineg).
Fe'i defnyddir hefyd i ysgrifennu nifer o ieithoedd an-Slafonaidd yn Rwsia a Chanolbarth Asia. Ysgrifennid rhai ieithoedd eraill, megis Aserbaijaneg, yn yr wyddor hon ar adegau yn y gorffennol.
Datblygwyd yr wyddor Gyrilig yn y nawfed ganrif gan ddisgyblion i'r ddau sant, Cyril a Methodius, yn sgil eu hymdrechion i gyflwyno Cristnogaeth i'r pobloedd Slafaidd. Dyma'r rheswm am yr enw.
Mae sawl ffurf wahanol i'r wyddor, ond isod mae tabl o'r llythrennau mwyaf cyffredin. Rhoddir y synau y maent yn eu cynrychioli mewn symbolau IPA.
Teipysgrif | Llawysgrifen | Sain |
---|---|---|
А а | А а | /a/ |
Б б | Б б | /b/ |
В в | В в | /v/ |
Г г | Г г | /g/ |
Д д | Д д | /d/ |
Е е | Е е | /je/ |
Ж ж | Ж ж | /ʒ/ |
З з | З з | /z/ |
И и | И и | /i/ |
Й й | Й й | /j/ |
К к | К к | /k/ |
Л л | Л л | /l/ |
М м | М м | /m/ |
Н н | Н н | /n/ |
О о | О о | /o/ |
П п | П п | /p/ |
Р р | Р р | /r/ |
С с | С с | /s/ |
Т т | Т т | /t/ |
У у | У у | /u/ |
Ф ф | Ф ф | /f/ |
Х х | Х х | /x/ |
Ц ц | Ц ц | /ʦ/ |
Ч ч | Ч ч | /ʧ/ |
Ш ш | Ш ш | /ʃ/ |
Щ щ | Щ щ | /ʃʧ/ |
Ь ь | Ь ь | /ʲ/ |
Ю ю | Ю ю | /ju/ |
Я я | Я я | /ja/ |
Ni chynrichiola'r llythyren ь unrhyw sain penodol. Yn hytrach, mae'n newid sain y llythyren blaenorol, gan ei 'feddalu'. Mewn rhai ieithoedd, mae'r llythyren ъ neu gollnod ’ yn 'caledu' sain y llytheren blaenorol.
Rwsieg | Cymraeg | Saesneg |
---|---|---|
а | a | a |
б | b | b |
в | f | v |
г | g | g |
д | j | d |
е | e | e |
ё | io | yo |
ж | ch | kh |
з | s | z |
и | i | i |
й | i | y |
к | c | k |
л | l | l |
м | m | m |
н | n | n |
о | o | o |
п | p | p |
р | r | r |
с | s | s |
т | t | t |
у | w | u |
оу | u | u |
ф | f | f |
х | cs | x |
ц | c | c |
ш | sh | š |
щ | sch | sch |
ы | i | y |
э | é | é |
ю | iu | yu |
я | ia | ya |
Felly, byddai "русский" (russkiy sy'n golygu "Rwsieg") yn cael ei drawslythrennu yn Gymraeg fel "rwsci".
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Yr wyddor Gyrilig, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.