Prifddinas Portiwgal yw Lisbon (hefyd Lisboa yn Portiwgaleg, hen enw Cymraeg Lisbwm).
Fe'i lleolir ar yr arfordir gorllewinol yng nghanolbarth Portiwgal. Hon yw canolfan fasnachol, gwleidyddol a diwylliannol y wlad. Mae'n gartref i lywodraeth Portiwgal ynghyd â saith prifysgol. Porthladd pwysica'r wlad yw Lisbon hefyd. Mae gan y ddinas ei hun boblogaeth o 564,477, gyda tua 2.8 miliwn yn yr ardal fetropolitaidd.
Math | dinas fawr, bwrdeistref Portiwgal, dinas Portiwgal |
---|---|
Poblogaeth | 545,923 |
Pennaeth llywodraeth | Carlos Moedas |
Cylchfa amser | UTC±00:00, UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Anthony of Padua |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ardal Fetropolitan Lisbon |
Sir | Lisbon |
Gwlad | Portiwgal |
Arwynebedd | 100.05 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 100 ±100 metr |
Gerllaw | Afon Tagus |
Yn ffinio gyda | Oeiras, Amadora, Bwrdeistref Odivelas, Loures |
Cyfesurynnau | 38.708042°N 9.139016°W |
Cod post | 1000–1900 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Lisbon |
Pennaeth y Llywodraeth | Carlos Moedas |
Mae Pont Vasco da Gama, pont hwyaf Ewrop, yn croesi Afon Tagus (Afon Tejo) yn Lisbon, yn cysulltu'r ddinas â de Portiwgal. Ei hyd yw 17.2 km (10.7 milltir).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Lisbon, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.