Bardd Cymraeg nodedig a ffermwr o Geredigion oedd Richard Lewis Jones (30 Mawrth 1934 – 18 Awst 2009).
Roedd nid yn unig yn fardd dwys, athronyddol ("Ei dawn i wylo yw gwerth dynoliaeth") ond roedd ganddo hefyd hiwmor arbennig ac iach, ac roedd ei englynion digri ymhlith goreuon ein llenyddiaeth. Oherwydd y ddwy ochr hyn, gallwn ddweud fod y Prifardd Dic Jones yn fardd crwn, cyflawn a'i draed yn soled yn y pridd. Roedd hefyd yn agos at ei filltir sgwâr ond yn fardd cenedlaethol hefyd. Cyfrannodd golofn i'r cylchgrawn Golwg am dros ddeunaw mlynedd, gyda cherdd wythnosol am faterion y dydd.
Dic Jones | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1934 Tre'r-ddôl |
Bu farw | 18 Awst 2009 Blaenannerch |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffermwr, bardd |
Plant | Brychan Llŷr |
Ganwyd Dic Jones yn Nhre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion, a threuliodd ran helaeth o'i oes yng ngodre Ceredigion, yn ffermio'r Hendre, Blaenannerch, 5 milltir i'r gogledd o Aberteifi. Dysgodd ei grefft fel bardd gwlad gan Alun Cilie.
Daeth Dic Jones yn adnabyddus y tro cyntaf pan enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd bum gwaith yn olynol yn ystod yr 1950au. Yn wahanol i nifer sy'n ennill cadair Eisteddfod yr Urdd, ni ddiflannodd Jones o'r golwg; yn hytrach cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf, "Agor Grwn" ym 1960.
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1966 yn Aberafan gyda'i awdl Cynhaeaf.
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976, ym mlwyddyn wythcanmlwyddiant yr Eisteddfod, dyfarnodd y beirniaid mai awdl Dic Jones, a oedd wedi ei hysgrifennu dan ffugenw fel sy'n arferol, ar y testun "Gwanwyn" oedd yr orau. Ond gan fod Jones yn aelod o'r Panel Llenyddiaeth, ac felly yn gwybod beth fyddai'r pynciau ymlaen llaw, cafodd ei ddiarddel ar y funud olaf ac nis cadeiriwyd. Cadeiriwyd yr ail orau yn y gystadleuaeth, sef y Prifardd Alan Llwyd a oedd yn anfodlon. Cyhoeddwyd awdlau'r ddau fardd yn y Cyfansoddiau.
Cyhoeddodd hanes ei fywyd hyd 1973 yn ei gyfrol Os Hoffech Wybod ym 1989.
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, cyhoeddwyd y byddai Dic Jones (Dic yr Hendre) yn olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru y flwyddyn ddilynol.
Bu farw ei ferch Esyllt, plentyn Syndrom Down, yn ddim ond tri mis oed. Roedd yn dad i'r cerddor a chyflwynydd Brychan Llŷr, yr actores a'r gantores Delyth Wyn. Bu farw Dic Jones ar 18 Awst 2009 ym Mlaenannerch, Ceredigion. Goroeswyd ef gan ei dri mab, dwy ferch a'i wraig Siân.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Dic Jones, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.