Yn fiolegol, mae'r cyfnod o fod yn blentyn yn para rhwng yr enedigaeth a glasoed; lluosog plentyn ydyw plant.
Mae'r gair, hefyd, yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio'r berthynas rhwng mam a'i phlentyn (neu tad a'i blentyn). Caiff hefyd ei ddefnyddio i gynrychioli yr enw torfol "plant" e.e. "plentyn y Chwedegau" neu "blentyn siawns".
Yn gyffredinol, mae'r Cenhedloedd Unedig yn diffinio'r gair "plentyn" fel unrhyw berson sydd o dan 18 oed. Mae ganddynt lai o hawliau na'r oedolyn ac yn gyfreithiol rhaid iddynt fod yng ngofal oedolyn cyfrifol drwy'r amser. Gall y plentyn fod yn ferch neu'n fachgen.
Datblygodd y syniad nad oedolyn bychan yw plentyn tua'r 16g. Gellir gweld hyn mewn lluniau. Yn yr Oesoedd Canol, gwisgid y plentyn mewn dillad oedolyn, maint llai, heb unrhyw nodweddion plentynnaidd. Erbyn yr 16g gwelir teganau ganddo, a dillad ychydig yn wahanol am y plentyn.
Mewn cywydd coffa i'w fab, fodd bynnag, canodd y bardd Lewis Glyn Cothi yn y 15g gerdd hyfryd iawn sy'n disgrifio rhai o deganau a gemau ei blentyn bach:
Bwa o flaen y ddraenen,
Cleddau digon brau o bren.
Ofni'r bib, ofni'r bwbach,
Ymbil â'i fam am bêl fach...
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Plentyn, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.