Dinas fwyaf Brasil a phrifddinas talaith São Paulo yw São Paulo ynganiad .
Fe'i lleolir ar lwyfandir tua 70 km o'r môr yn ne-ddwyrain y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 11,451,245 (2022) gyda mwy na 20,850,000 (2016) o bobl yn yr ardal fetropolitaidd (São Paulo Fwayaf). Yn ogystal, São Paulo yw'r ddinas fwyaf yn yr Americas a gwledydd y byd sy'n siarad Portiwgaleg ac yn y 2020au hi oedd 12fed dinas fwyaf ei phoblogaeth ar y Ddaear. Creodd y broses o ymuno ag ardaloedd metropolitan sydd wedi'u lleoli o amgylch São Paulo Fwyaf (Campinas, Santos, Sorocaba a São José dos Campos) y São Paulo Macrometropolis, sef 'megalopolis' gyda mwy na 30 miliwn o drigolion, un o'r crynodrefi trefol mwyaf poblog yn y byd.
Math | Bwrdeistref ym Mrasil, y ddinas fwyaf, dinas fawr, mega-ddinas, dinas |
---|---|
Enwyd ar ôl | yr Apostol Paul |
Poblogaeth | 11,451,245 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem of the Municipality of São Paulo |
Pennaeth llywodraeth | Ricardo Nunes |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Gefeilldref/i | Leipzig, La Paz, Abidjan, Funchal, Macau, Mendoza, Torreón, Alta Floresta, Amman, Asunción, Bamako, Barcelona, Budapest, Buenos Aires, Chicago, Cluj-Napoca, Coimbra, Córdoba, Damascus, Yerevan, Góis, La Habana, La Plata, Lima, Leiria, Lisbon, Luanda, Milan, Miami-Dade County, Montevideo, Naha, Osaka, Beijing, Presidente Franco District, San Cristóbal de La Laguna, Seoul, Shanghai, Tel Aviv, Toronto, Arequipa, Santiago de Compostela, Dinas Mecsico, Santiago de Chile, Hamburg, Ningbo, Tokyo, Miami, Monterrey, Bwcarést, Huaibei, Póvoa de Varzim, İzmir, Belmonte |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | São Paulo Fwyaf, São Paulo, São Paulo metropolitan area |
Sir | São Paulo |
Gwlad | Brasil |
Arwynebedd | 1,523 km² |
Uwch y môr | 760 metr |
Gerllaw | Afon Pinheiros, Afon Tietê |
Cyfesurynnau | 23.550394°S 46.633947°W |
Cod post | 01000-000 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Siambr Fwrdeistrefol São Paulo |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer São Paulo |
Pennaeth y Llywodraeth | Ricardo Nunes |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.805 |
São Paulo, yw'r dalaith fwyaf poblog a chyfoethocaf ym Mrasil. Mae'n uned ryngwladol gref mewn masnach, cyllid, y celfyddydau ac adloniant. Mae'r enw'n cyfeirio at yr Apostol Paul, un o'r disgyblion mewn Cristnogaeth.
Dyma'r economi fwyaf, yn ôl Cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) yn America Ladin a Hemisffer y De, ac mae'r ddinas yn gartref i Gyfnewidfa Stoc São Paulo. Rhodfa Paulista yw craidd economi São Paulo. Yn 2018 roedd gan y ddinas yr 11eg GDP mwyaf yn y byd, sy'n cynrychioli 10.7% o holl GDP Brasil a 36% o gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau yn nhalaith São Paulo. Mae'n gartref i 63% o gwmnïau rhyngwladol, enfawr Brasil, a chynhyrchodd 28% o 'r cynhyrchiad gwyddonol cenedlaethol yn 2005, o'i mesur ggyda nifer y papurau gwyddoniaeth a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion.
Mae'r metropolis yn gartref i nifer o'r skyscrapers talaf ym Mrasil, gan gynnwys y Mirante do Vale, Edifício Itália, Banespa, Twr y Gogledd a llawer o rai eraill. Mae gan y ddinas ddylanwad diwylliannol, economaidd a gwleidyddol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'n gartref i henebion, parciau ac amgueddfeydd fel Cofeb America Ladin, Parc Ibirapuera, Amgueddfa Ipiranga, Amgueddfa Gelf São Paulo, ac Amgueddfa'r Iaith Portiwgaleg. Mae'r ddinas yn cynnal digwyddiadau fel Gŵyl Jazz São Paulo, Gwyl Gelf Senno Paulo, Grand Prix Brasil, Wythnos Ffasiwn São Paulo, ATP ATP Open, Sioe Gêm Brasil a Phrofiad Comic Con. Mae gorymdaith Hoywon LGBTQ São Paulo yn cystadlu â gorymdaith Hoywon Dinas Efrog Newydd fel yr orymdaith LGBTQ fwyaf yn y byd.
Mae São Paulo yn grochan o ddinas cosmopolitaidd, lle mae pobloedd y byd yn toddi'n un, gan gynnwys, diasporas o Arabia, yr Eidal, Japan a Phortiwgal, gan mwyaf, gydag enghreifftiau yn cynnwys cymdogaethau ethnig Mercado, Bixiga, a Liberdade yn y drefn honno. Mae São Paulo hefyd yn gartref i'r boblogaeth Iddewig fwyaf ym Mrasil, gyda thua 75,000 o Iddewon. Yn 2016, roedd trigolion y ddinas i dros 200 o wahanol wledydd. Gelwir pobl o'r ddinas yn "paulistanos", tra bod paulistas yn dynodi unrhyw un o'r wladwriaeth, gan gynnwys y paulistanos. Arwyddair Lladin y ddinas, y mae wedi'i rannu â'r llong ryfel a'r cludwr awyrennau, yw Non ducor, duco, sy'n cyfieithu fel "Nid wyf yn cael fy arwain, rwy'n arwain."
Caiff y ddina ei hadnabod ar lafar gwlad fel "Sampa" neu "Terra da Garoa", ac mae'n adnabyddus am ei dywydd annibynadwy, ei phensaernïaeth, gastronomeg, tagfeydd traffig difrifol a skyscrapers. Roedd São Paulo yn un o ddinasoedd cynnal Cwpan y Byd FIFA 2014. Yn ogystal, cynhaliodd y ddinas Gemau Pan-Americanaidd IV a'r São Paulo Indy 300.
Roedd pobl Tupi'n byw yn yr ardal lle saif ardal São Paulo heddiw, a elwid ar y pryd hynny'n "wastadeddau Piratininga" o amgylch Afon Tietê, a llwythi brodorol y Tupiniquim, Guaianas, a'r Guarani. Roedd llwythau eraill hefyd yn byw mewn ardaloedd sydd heddiw'n ffurfio'r rhanbarth fetropolitan. Rhannwyd y rhanbarth yn Caciquedoms (teyrnasoedd bychan) cyn dyfodiad yr Ewropeaid. Y pennaeth (Cacique) mwyaf nodedig oedd Tibiriça, sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth i'r Portiwgaliaid a gwladychwyr Ewropeaidd eraill. Ymhlith y nifer o enwau brodorol sydd wedi goroesi heddiw mae Tietê, Ipiranga, Tamanduateí, Anhangabaú, Piratininga, Itaquaquecetuba, Cotia, Itapevi, Barueri, Embu-Guaçu ac ati.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article São Paulo, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.