0°0′0″E / 90.00000°S 0.00000°E / -90.00000; 0.00000
Hanner y Ddaear sydd i'r de o'r cyhydedd yw Hemisffer y De. Mae'n cynnwys rhannau o'r pum cyfandir (Yr Antarctig, Awstralia, tua 90% o Dde America, traean deheuol o Affrica, sawl ynys deheuol cyfandir Asia ac Ynysoedd y Cefnfor Tawel. Mae Hemisffer y De hefyd yn cynnwys pedwar cefnfor: Cefnfor India, rhan deheuol Cefnfor yr Iwerydd, Cefnfor y De, y Cefnfor Tawel.
Mae 80.9% ohono'n ddŵr - o'i gymharu â 60.7% yn Hemisffer y Gogledd, ac mae'n cynnwys 32.7% o holl dir y blaned.
Oherwydd fod echel y Ddaear yn gogwyddo, o'i gymharu gyda'r Haul, a'r plan ecliptig, mae'r haf i'w gael rhwng Rhagfyr a Mawrth a'r gaeaf rhwng Mehefin a Medi. Ceir Cyhydnos y Gwanwyn ar 22 neu 23 o Fedi a Chyhydnos yr Hydref rhwng 20 a 21 o Fawrth. Mae Pegwn y De wedi'i leoli yn union yng nghanol Hemisffer y De.
Erbyn y 2010au roedd 800,000,000 o bobl yn byw o fewn Hemisffer y De; h.y. dim ond 10-12% o gyfanswm y boblogaeth y byd (7.3 biliwn), a hynny oherwydd fod llawer llai o dir yn y De o'i gymharu gyda Hemisffer y Gogledd.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Hemisffer y De, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.