Pegwn y De yw pwynt mwyaf deheuol y Ddaear; y De absoliwt, cymar deheuol Pegwn y Gogledd.
Does dim un safle penodol i Begwn y De, ond mae ei lleoliad yn cael ei ddiffinio mewn pedair ffordd wahanol. Mae Pegwn y De ar gyfandir yr Antarctig.
Math | Pegwn daearyddol, rhanbarth, Q107539439 |
---|---|
Enwyd ar ôl | de |
Cylchfa amser | Antarctica/South_Pole |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Earth's poles |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig |
Cyfesurynnau | 90°S 0.000000°E |
Pegwn y De daearyddol yw'r echel o gwmpas yr hwn y mae'r ddaear yn troi.
Y Norwywr Roald Amundsen oedd y dyn cyntaf i gyrraedd Pegwn y De. Cyrhaeddod ar 14 Rhagfyr, 1911. Cyrhaeddodd Capten Scott un mis ar ôl hynny, ond yn ystod ei daith yn ôl bu farw Scott a'i griw o newyn a'r oerni.
Ar ôl hynny aeth nifer o bobl eraill i'r pegwn, yn cynnwys Fuchs, Havola, Crary, a Fiennes.
Richard Byrd oedd y dyn cyntaf i hedfan uwchben Pegwn y De, ar (29 Tachwedd, 1929).
Pegwn y de magnetaidd yw'r cyfeiriad y mae cwmpawd neu ben magned yn pwyntio iddo.
Ernest Shackleton oedd y dyn cyntaf i gyrraedd Pegwn magnetaidd y De ar (16 Ionawr, 1909)
Mae Pegwn daear-fagnetaidd y De (pegwn magnetaidd amgen) ger Pegwn daearyddol y De.
Mae'r pegwn hwn yn gorwedd ar hydred 85°50' (de) a lledred 65°47' (dwyrain). Dyma'r lle pellach o'r môr ar y cyfandir. Ym 1957 cyrhaeddodd tîm o'r Undeb Sofietaidd y lle i godi'r orsaf Sovetskaya. Roedd pobl yn byw yn yr orsaf yn ystod haf antarctigaidd 1957 - 1958.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Pegwn y De, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.