Term daearyddol yw rhanbarth a ddefnyddir mewn sawl ffordd yng ngwahanol ganghennau daearyddiaeth.
Yn gyffredinol, mae rhanbarth yn ardal o faint canolig o dir neu ddyfroedd sy'n llai na'r brif ardal o ddiddordeb (e.e. y Ddaear, gwlad, basn afon sylweddol, cadwyn mynydd, a.y.y.b.) ond yn fwy ei maint na lleoliad neilltuol (e.e. dinas neu sir). Gellid ystyried rhanbarth fel casgliad o unedau llai (e.e. "siroedd Gogledd Cymru") neu fel un rhan o uned fwy (e.e. "Gogledd Cymru fel un o rhanbarthau Cymru").
Defnyddir rhanbarthau fel un o unedau sylfaenol daearyddiaeth. Gellir diffinio rhanbarth yn ôl ei nodweddion tirlunol (e.e. ardal o anialdir), dynol (yn cynnwys ethnigrwydd, iaith, diwylliant a hanes, e.e. Y Fro Gymraeg) neu weithredol (e.e. Coridor yr M4, ardal twristiaeth, a.y.y.b.).
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Rhanbarth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.