Teithio er difyrrwch, hamdden neu fusnes yw twristiaeth.
Mae Sefydliad Twristiaeth y Byd yn diffinio "twrist" fel person "sy'n teithio i ac yn aros mewn lleoedd y tu allan i'w amgylchedd arferol am un flwyddyn neu lai er hamdden, busnes neu resymau eraill". Mae twristiaeth yn weithred boblogaidd ar draws y byd. Yn 2011, roedd mwy na 983 miliwn o dwristiaid rhyngwladol, twf o 4.6% ar 2010 (940 miliwn).
Mae twristiaeth yn bwysig, weithiau'n hanfodol i nifer o wledydd. Yn ôl Datganiad Manila ar Dwristiaeth Byd-eang (1980), mae twristiaeth yn "weithred sy'n hanfodol i fywyd cenhedloedd o ganlyniad i'w heffeithiau uniongyrchol ar sectorau cymdeithasol, diwylliannol, addysgol, ac economaidd cymdeithasau cenedlaethol ac ar eu cysylltiadau rhyngwladol". Cynhyrcha twristiaeth incwm wrth i unigolion dalu am nwyddau a gwasanaethau, sy'n cyfrif am fwy na 30% o allforion gwasanaethau'r byd, a 6% o holl allforion nwyddau a gwasanaethau. Mae'r diwydiant twristiaeth hefyd yn creu swyddi yn y sector wasanaethau, mewn cludiant, llety, ac adloniant.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Twristiaeth, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.