Ethiopia

Gwlad tirgaeedig yng ngogledd-ddwyrain Affrica yw Gweriniaeth Ddemocrataidd Ffederal Ethiopia neu Ethiopia; yr hen enw Cymraeg iddi oedd Abyssinia.

Mae'n ffinio ag Eritrea i'r gogledd, Swdan a De Swdan i'r gorllewin, Cenia i'r de a Somalia a Jibwti i'r dwyrain. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd y boblogaeth yn 104,957,438 (2017); Addis Ababa yw'r brifddinas, ac mae ganddi hithau boblogaeth o 3,041,002 (2012).

Ethiopia
Ethiopia
Ethiopia
ArwyddairLand of origins Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, gwlad dirgaeedig Edit this on Wikidata
PrifddinasAddis Ababa Edit this on Wikidata
Poblogaeth104,957,438 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 21 Awst 1995 (1995 Constitution of Ethiopia) Edit this on Wikidata
AnthemMarch Forward, Dear Mother Ethiopia Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethAbiy Ahmed Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+03:00, Amser Dwyrain Affrica, Africa/Asmara Edit this on Wikidata
NawddsantSiôr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Amhareg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Affrica Edit this on Wikidata
GwladBaner Ethiopia Ethiopia
Arwynebedd1,104,300 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwdan, De Swdan, Cenia, Somalia, Jibwti, Eritrea, Y Cynghrair Arabaidd, Somaliland Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9°N 40°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Ethiopia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Seneddol Ffederal Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Ethiopia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSahle-Work Zewde Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Ethiopia Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethAbiy Ahmed Edit this on Wikidata
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$111,262 million, $126,783 million Edit this on Wikidata
Arianbir Edit this on Wikidata
Canran y diwaith5 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant4.395 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.498 Edit this on Wikidata

Mae gan Ethiopia arwynebedd o 1,100,000 km sgwar (420,000 milltir sgwar). Mae'n gartref i 117 miliwn o drigolion (dwywaith maint gwledydd Prydain yn y 2020au; hi felly yw'r 12fed wlad fwyaf poblog yn y byd a'r ail fwyaf poblog yn Affrica ar ôl Nigeria. Gorwedd y brifddinas genedlaethol (a'r ddinas fwyaf), Addis Ababa, sawl cilomedr i'r gorllewin o Rift Dwyrain Affrica sy'n hollti'r wlad yn blatiau tectonig gwahanol: platiau tectonig Affrica a Somalia.

Ei hanes yn grynno

Diorseddwyd yr ymerawdwr Iyasu yn 1916, daeth ei fodryb Zewditu yn ymerodres, ac enwyd Tafari Makonnen yn aer i'r goron ac yn llywodraethwr y deyrnas.

Pan ddaeth Tafari Makonnen yn ymerawdwr yn 1930 ar farwolaeth Zewditu, cymerodd yr enw Haile Selassie, sy'n golygu "Grym y Drindod". Yn ystod ei deyrnasiad o 45 mlynedd, gwnaeth Haile Selassie lawer i geisio moderneiddio Ethiopia, ac enillodd boblogrwydd mawr yn Affrica a thu hwnt. Daeth i amlygrwydd byd-eang yn 1936 trwy ei araith i Gynghrair y Cenhedloedd yn condemnio defnydd yr Eidal o arfau cemegol yn eu hymdrech i oresgyn Ethiopia.

Aeth Haile Selassie yn fwy ceidwadol wrth iddo heneddio, a theimlai carfan yn Ethiopia nad oedd y wlad yn cael ei moderneiddio'n ddigon cyflym. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a diorseddwyd ef ar 12 Medi 1974.

Yn anatomegol, ymddangosodd bodau dynol modern (Homo sapiens) yn gyntaf yn Ethiopia gan ymledu i'r Dwyrain Agos ac mewn mannau eraill yn y cyfnod Paleolithig Canol. Mae Ethiopia neu ogledd-ddwyrain Affrica wedi'i chynnig fel urheimat tebygol ar gyfer y teulu Affroasiatic o ieithoedd, a oedd, yn ôl y ddamcaniaeth hon, wedi'i wasgaru i'r cilgant Ffrwythlon cyn y cyfnod Neolithig gan boblogaeth a oedd wedi datblygu patrymau cynhaliaeth o gasglu planhigion dwys ac amaethu. Byddai'r patrymau cynhaliaeth hyn hefyd yn datblygu i fod yn batrymau cynhaliaeth mwy disgybledig (ffermio) a arferir yn yr Ethiopia fodern. Yn 980 CC, ymestynnodd Teyrnas D'mt ei deyrnas dros Eritrea a rhanbarth gogleddol Ethiopia, tra bod Teyrnas Aksum wedi cynnal gwareiddiad unedig yn y rhanbarth am gyfnod o 900 mlynedd. Cyrhaeddodd Cristnogaeth yn y 4g a chyflwynwyd Islam yn y 7g. Ar ôl cwymp Aksum yn 960, roedd amrywiaeth o deyrnasoedd, cydffederasiynau llwythol yn bennaf yn bodoli yn Ethiopia gyda'r llinach Zagwe yn rheoli'r rhannau gogledd-canolog nes cael ei dymchwel gan Yekuno Amlak yn 1270 gan uno Ymerodraeth Ethiopia a'i linach Solomonaidd a hawliai eu bod yn tarddu o linach Beiblaidd y brenin Solomon a brenhines Sheba o dan eu mab Menelik I. Erbyn y 14g, tyfodd yr ymerodraeth mewn bri trwy ehangu ei thiriogaeth, drwy ymladd yn erbyn pobloedd cyfagos, yn fwyaf nodedig yn Rhyfel Ethiopia-Adal (1529-1543) a gyfrannodd at ddarnio'r ymerodraeth a syrthio o dan math o ddatganoli o'r enw Zemene Mesafint yng nghanol y 18g. Daeth yr Ymerawdwr Tewodros II a'r Zemene Mesafint i ben ar ddechrau ei deyrnasiad yn 1855, gan ailuno a moderneiddio Ethiopia.

O 1878 ymlaen, lansiodd yr Ymerawdwr Menelik II gyfres o ymosodiadau o'r enw Ymestyniadau Menelik, a arweiniodd at ffin bresennol Ethiopia. Yn allanol, daeth Cytundeb dadleuol Wuchale yn 1889 i ben gyda chyfres o ryfeloedd pan drechodd Ethiopia yr Eidal yn 1896 yn ystod 'Yr Ymgiprys am Affrica'; gan adael Ethiopia a Liberia fel cenhedloedd Affricanaidd annibynnol. Ym 1935, meddiannwyd Ethiopia gan yr Eidal Ffasgaidd a'i hatodi ag Eritrea a Somaliland a ddaliwyd gan yr Eidal, gan ffurfio Dwyrain Affrica Eidalaidd yn ddiweddarach. Ym 1941, rhyddhaowyd Ethiopia gan uned filwrol Arbegnoch Ethiopia a rhan o fyddin Lloegr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth y Derg, jwnta milwrol gyda chefnogaeth Sofietaidd, i rym ym 1974 ar ôl diorseddu'r Ymerawdwr Haile Selassie a llinach Solomon, gan reoli'r wlad am bron i 17 mlynedd; dyma fan cychwyn Rhyfel Cartref Ethiopia. Yn dilyn trechu'r Derg yn 1991, dominyddwyd y wlad gan Ffrynt Democrataidd Chwyldroadol Pobl Ethiopia (EPRDF) a chrewyd cyfansoddiad newydd a ffederaliaeth ar sail ethnigrwydd. Ers hynny, dioddefodd Ethiopia o wrthdaro rhyng-ethnig hir a oedd heb ei datrys yn 2022 ac ansefydlogrwydd gwleidyddol.

Mae Ethiopia'n wladwriaeth aml-ethnig gyda dros 80 o wahanol grwpiau ethnig, gyda'r mwyafrif yn Gristnogionh ac yn Islamiaid. Yn wahanol i Gymru, mae'r wladwriaeth sofran hon yn aelod sefydlol o'r Cenhedloedd Unedig, y Grŵp o 24 (G-24), y Mudiad Amhleidiol, y G77 a Sefydliad Undod Affrica. Addis Ababa yw pencadlys yr Undeb Affricanaidd, y Siambr Fasnach a Diwydiant Pan-Affricanaidd, Comisiwn Economaidd y Cenhedloedd Unedig dros Affrica, Llu Wrth Gefn Affrica a llawer o'r cyrff anllywodraethol byd-eang sy'n canolbwyntio ar Affrica. Ystyrir Ethiopia'n bŵer sy'n dod i'r amlwg ac yn wlad sy'n datblygu, gyda'r twf economaidd cyflymaf yng ngwledydd Affrica Is-Sahara oherwydd buddsoddiad uniongyrchol tramor ar ehangu amaethyddiaeth a gweithgynhyrchu. Fodd bynnag, o ran incwm y pen a’r Mynegai Datblygiad Dynol, mae'n wlad dlawd, gyda chyfraddau uchel o dlodi, lle torrir llawer o hawliau dynol, a lle ceir cyfradd llythrennedd o 49% yn unig. Amaethyddiaeth yw'r sector mwyaf yn Ethiopia; roedd yn cyfrif am 36 y cant o CMC y wlad yn 2020.

Hanes

Cynhanes

Ethiopia 
Penglog hominid yr Homo sapiens idaltu
Ethiopia 
Kibish yw'r safle y ffosil hynaf o esgyrn dynol yn fydeang; credir ei fod yn 195,000 o flynyddoedd oed. Mae gweddillion y benglog yn 40,000 o flynyddoedd yn hŷn nag yn safle archaeolegol Herto, Ethiopia.

Mae nifer o ddarganfyddiadau pwysig wedi gyrru Ethiopia a'r ardal gyfagos i'r blaen o ran paleontoleg. Hyd yn hyn, yr hominid hynaf a ddarganfuwyd yn Ethiopia yw'r Ardipithicus ramidus sy'n 4.2 miliwn oed a ddarganfuwyd yn 1994. Y darganfyddiad hominid mwyaf adnabyddus yw'r Australopithecus afarensis (neu Lucy). Caiff ei adnabod yn lleol fel Dinkinesh, a daethpwyd o hyd i'w hesgyrn yn Nyffryn Awash yn Rhanbarth Afar ym 1974 gan Donald Johanson; mae'n un o’r ffosilau Australopithecaidd mwyaf cyflawn a ddarganfuwyd erioed. Cyfeiria enw tacsonomig Lucy (afar-ensis) at y rhanbarth hwn lle gwnaed y darganfyddiad. Amcangyfrifir iddi fyw 3.2 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Mae Ethiopia hefyd yn cael ei hystyried yn un o safleoedd cynharaf ymddangosiad bodau dynol fodern, sef yr Homo sapiens. Cloddiwyd yr hynaf o'r darganfyddiadau ffosil lleol hyn, gweddillion Omo, yn ardal de-orllewinol Omo Kibish ac maent wedi'u dyddio i'r Paleolithig Canol, tua 200,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ogystal, darganfuwyd sgerbydau o Homo sapiens idaltu ar safle yn nyffryn Canol Awash. Wedi'u dyddio i tua 160,000 o flynyddoedd yn ôl (CP), gallant gynrychioli isrywogaeth ddiflanedig o Homo sapiens, neu hynafiaid uniongyrchol bodau dynol (anatomegol) fodern. Ers hynny mae ffosilau Homo sapiens hynafol a gloddiwyd ar safle Jebel Irhoud ym Moroco wedi'u dyddio i gyfnod cynharach, sef tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl, ond Omo-Kibish I (Omo I) o dde Ethiopia yw'r sgerbwd Homo sapiens modern hynaf yn 2022 (196 ± 5 ka).

Yn ôl rhai ieithyddion, cyrhaeddodd y poblogaethau Affro-asiaidd cyntaf y rhanbarth yn ystod y cyfnod Oes Newydd y Cerrig (sef Neolithig) o'u mamwlad yn Nyffryn y Nîl, neu'r Dwyrain Agos. Cynigia'r mwyafrif o ysgolheigion heddiwbod y teulu Affro-asiaidd o ieithoedd wedi datblygu yng Ngogledd-ddwyrain Affrica oherwydd yr amrywiaeth o linachau pwysig yn y rhanbarth hwnnw: dyma arwydd eitha sicr o darddiad ieithyddol.

Yn 2019, darganfu archaeolegwyr loches mewn graig sy'n 30,000 oed: o Oes Ganol y Cerrig ar safle Fincha Habera ym Mynyddoedd Bale ar uchder o 3,469 metr uwchben lefel y môr. Ar yr uchder hwn mae pobl yn agored i hypocsia ac i dywydd eithafol. Yn ôl astudiaeth a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Science, honir mai dyma'r aneddiad dynol barhaol gynharaf mor uchel a ddarganfuwyd hyd yma. Darganfuwyd miloedd o esgyrn anifeiliaid, cannoedd o offer carreg, a lleoedd tân hynafol, a thaflwyd golau newydd ar ddiet y brodorion a oedd yn cynnwys llygod-twrch-daear enfawr.

Geirdarddiad

Gair cyfansawdd, Groegaidd yw Αἰθιοπία (o Αἰθίοψ, Aithiops, "Ethiopad") sy'n deillio o'r ddau air Groeg, o αἴθω + ὤψ (aithō "rwy'n llosgi" + ōps "wyneb"). Yn ôl Geiriadur Groeg-Saesneg Liddell-Scott Jones (cydolygydd: Liddell-Scott Jones), mae'r dynodiad yn trosi'n gywir fel Burnt-face fel enw a choch-frown fel ansoddair. Defnyddiodd yr hanesydd Herodotus y gair i ddynodi'r rhannau hynny o Affrica i'r De o'r Sahara a oedd yn cael eu hadnabod bryd hynny o fewn yr Ecwmen (y byd anghyfannedd). Gan fod y Groegiaid yn deall y term fel "wyneb tywyll", rhannwyd yr Ethiopiaid yn ddau, y rhai yn Affrica a'r rhai i'r dwyrain o ddwyrain Twrci i India..

Mewn epigraffau Greco-Rufeinig, roedd Aethiopia yn doponym penodol ar gyfer Nubia hynafol. Mor gynnar â c. 850, mae'r enw Aethiopia i'w gael mewn llawer o gyfieithiadau o'r Hen Destament mewn cyfeiriad at Nubia. Yn y testunau Hebraeg hynafol defnyddir yr enw Kush yn hytrach na Nubia. Fodd bynnag, yn y Testament Newydd, mae'r term Groeg Aithiops i'w weld, gan gyfeirio at un o weision Kandake, brenhines Kush.

Yn Gymraeg (fel y Saesneg), ac yn gyffredinol, y tu allan i Ethiopia, roedd y wlad hon unwaith yn cael ei hadnabod fel Abyssinia. Deilliodd y toponym hwn o ffurf Ladinaidd yr hen Habash.

Crefydd

Mae tua hanner y boblogaeth yn aelodau o Eglwys Uniongred Ethiopia, a'r hanner arall yn ddilynwyr Islam.

Llywodraeth a gwleidyddiaeth

Ethiopia 
Tŷ Cynrychiolwyr y Bobl yw tŷ isaf Cynulliad Seneddol Ffederal Ethiopia

Gweriniaeth seneddol ffederal yw Ethiopia, lle mae'r Prif Weinidog yn bennaeth ar y llywodraeth, a'r Arlywydd yn bennaeth ar y wladwriaeth, ond gyda phwerau seremonïol yn bennaf. Mae pŵer gweithredol yn cael ei arfer gan y llywodraeth a phŵer deddfwriaethol ffederal a freiniwyd yn y llywodraeth a dwy siambr y senedd. Tŷ'r Ffederasiwn yw siambr uchaf y ddeddfwrfa bicameral gyda 108 o seddi, a'r siambr isaf yw Tŷ Cynrychiolwyr y Bobl (HoPR) gyda 547 o seddi. Dewisir Tŷ’r Ffederasiwn gan y cynghorau rhanbarthol tra bod Aelodau Seneddol yr HoPR yn cael eu hethol yn uniongyrchol; yn eu tro, maent yn ethol yr arlywydd am dymor o chwe blynedd a’r prif weinidog am dymor o 5 mlynedd.

Ar sail Erthygl 78 o Gyfansoddiad Ethiopia 1994, mae'r Farnwriaeth yn gwbl annibynnol o'r weithrediaeth (yr ecseciwtif) a'r ddeddfwrfa. Er mwyn sicrhau hyn, penodir yr is-lywydd a Llywydd y Goruchaf Lys gan y Senedd ar enwebiad gan y Prif Weinidog. Unwaith y caiff ei ethol, nid oes gan y weithrediaeth unrhyw awdurdod i'w ddiswyddo. Mae barnwyr eraill yn cael eu henwebu gan y Cyngor Gweinyddol Barnwrol Ffederal (Federal Judicial Administrative Counci; FJAC) ar sail meini prawf tryloyw ac argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer penodi i'r HoPR. Ym mhob achos, ni all barnwyr gael eu tynnu oddi ar eu dyletswydd oni bai eu bod wedi ymddeol, yn torri rheolau disgyblaeth, yn anghydnaws difrifol, neu'n aneffeithlon-anabl oherwydd afiechyd. I'r gwrthwyneb, mae gan bleidlais fwyafrifol HoPR yr hawl i ddileu sancsiwn ar lefel y farnwriaeth ffederal neu gyngor y wladwriaeth mewn achosion o farnwyr y wladwriaeth. Yn 2015, cwestiynwyd dilysrwydd y ddarpariaeth hon mewn adroddiad a baratowyd gan Freedom House.

Yn ôl y Mynegai Democratiaeth a gyhoeddwyd gan yr Economist Intelligence Unit yn y Deyrnas Unedig ddiwedd 2010, roedd Ethiopia yn “gyfundrefn awdurdodaidd” ("authoritarian regime"), yn safle 118 o blith 167 o wledydd y byd. Roedd Ethiopia wedi gostwng 12 lle ar y rhestr ers 2006, ac roedd adroddiad o 2010 yn priodoli’r gostyngiad hwn i frwydr y llywodraeth ar weithgareddau’r gwrthbleidiau, y cyfryngau, a chymdeithasau sifil cyn etholiad seneddol 2010, y dadleuodd yr adroddiad ei fod wedi gwneud Ethiopia yn wladwriaeth un blaid de facto. Fodd bynnag, ers penodi Abiy Ahmed yn brif weinidog yn 2018, mae'r sefyllfa wedi newid er gwell.[angen ffynhonnell]

Milwrol

Llu Amddiffyn Cenedlaethol Ethiopia yw'r fyddin fwyaf yn Affrica ac fe'i cyfarwyddir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae canghennau milwrol eraill yn cynnwys gwŷr traed, llu awyr a llu llynges. Ers 1996, nid oes gan Ethiopia dirgaeedig unrhyw lynges ond yn 2018 dywedodd y Prif Weinidog Abiy Ahmed ar deledu’r wladwriaeth: “Fe wnaethon ni adeiladu un o’r lluoedd daear (gwŷr traed) ac awyr (awyrlu) cryfaf yn Affrica ... dylem adeiladu llynges yn y dyfodol."

Gorfodi'r gyfraith

Mae'r cyfansoddiad yn gwarantu gorfodi'r gyfraith i Heddlu Ffederal Ethiopia (EFP). Mae'r EFP yn gyfrifol am ddiogelu a lles y cyhoedd ar lefel ffederal. Wedi'i sefydlu ym 1995, arolygwyd yr heddlu ffederal gan Gomisiynydd yr Heddlu Ffederal ers Hydref 2000; yna mae'r Comisiynydd Heddlu Ffederal yn adrodd i'r Weinyddiaeth AmddiffynMae gan yr heddlu ffederal y gallu i benodi comisiynau heddlu rhanbarthol, i'w cynorthwyo. Yn annibynnol, mae'r milisia lleol yn cynnal diogelwch yr ardal leol. 

Y dyddiau hyn, mae llwgrwobrwyo yn bryder sylfaenol, yn enwedig gan yr heddlu traffig. Roedd creulondeb yr heddlu yn ymddangos yr un mor ddifrifol yn ystod y 2000-20au. Ar 26 Awst 2019, aeth fideo o ddyn â gefynnau yn cael ei guro gan ddau heddwas yn Addis Ababa yn feiral. Dywedir bod camymddwyn diweddar gan yr heddlu yn fethiant gan Gomisiynydd yr Heddlu Ffederal i gadw at Erthygl 52 o'r cyfansoddiad, sy'n nodi ymchwiliad i ddefnydd anghyfreithlon o rym, a diswyddo'r swyddog sy'n camymddwyn.

Hawliau Dynol

Mae troseddu yn erbyn hawliau dynol yn aml yn cyd-fynd a dioddef trais ethnig a chymunedol yn y wlad. Mewn gwrthdystiad yn 2016, cafodd 100 o brotestwyr heddychlon eu lladd gan y llywodraeth yn rhanbarthau Oromia ac Amhara. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi galw ar ei harsylwyr ar lawr gwlad yn Ethiopia i ymchwilio i'r digwyddiad hwn, fodd bynnag mae llywodraeth Ethiopia a arweinir gan EPRDF wedi gwrthod yr alwad hon. Mae’r protestwyr yn protestio yn erbyn tir-gipio a diffyg hawliau dynol sylfaenol fel y rhyddid i ethol eu cynrychiolwyr mewn etholiad. Enillodd yr EPRDF a ddominyddir gan TPLF 100% mewn etholiad llawn twyll; mae hyn wedi arwain at brotestiadau ar raddfa nas gwelwyd mewn cyn hynny.

Yn ôl arolygon yn 2003 gan y Pwyllgor Cenedlaethol ar Arferion Traddodiadol yn Ethiopia, mae priodas trwy gipio merched yn cyfrif am 69% o briodasau'r wlad, gyda thua 80% yn Oromia, a 92% yng Nghenhedloedd y De a Rhanbarth y Bobl. Mae newyddiadurwyr ac actifyddion wedi cael eu bygwth neu eu harestio am eu darllediadau o bandemig COVID-19 yn Ethiopia.

Hawliau LHDT

Mae gweithredoedd cyfunrywiol yn anghyfreithlon yn Ethiopia. Yn ôl cod cosbi Erthygl 629, mae gweithgaredd rhwng pobl o'r un rhyw yn cael eu cosbi am rhwng 15 mlynedd i fywyd yn y carchar. Mae Ethiopia wedi bod yn wlad geidwadol, yngymdeithasol ac mae mwyafrif y bobl casau pobl LHDT ac mae erledigaeth yn gyffredin ar sail normau crefyddol a chymdeithasol. Daeth cyfunrywioldeb i’r amlwg yn y wlad ers methiant apêl 2008 i Gyngor y Gweinidogion, a dechreuodd LGBT ffynnu rhyw ychydig mewn dinasoedd metropolitan mawr, fel Addis Ababa.

Adrannau gweinyddol

Ethiopia 
Map o ranbarthau a pharthau Ethiopia

Cyn 1996, rhannwyd Ethiopia yn un-de-tri talaith, llawer ohonynt yn deillio o ranbarthau hanesyddol. Bellach mae gan y genedl system lywodraethol haenog sy'n cynnwys llywodraeth ffederal sy'n goruchwylio taleithiau rhanbarthol, parthau, ardaloedd (woreda), a chebelau ("cymdogaethau"). 

Rhennir Ethiopia yn un-deg-un talaith rhanbarthol ethnig ymreolaethol (Kililoch; unigol cilil) a dwy ddinas siartredig: Addis Ababa a Dire Dawa. Rhennir y cilloch yn chwe deg wyth parth, ac yna ymhellach yn 550 woredas a sawl woreda arbennig. 

Mae'r cyfansoddiad yn neilltuo pŵer helaeth i wladwriaethau rhanbarthol, a all sefydlu eu llywodraeth a'u democratiaeth eu hunain cyn belled â'i fod yn unol â chyfansoddiad y llywodraeth ffederal. Mae gan bob rhanbarth ar ei frig gyngor rhanbarthol lle caiff aelodau eu hethol yn uniongyrchol i gynrychioli'r rhanbarthau ac mae gan y cyngor bŵer deddfwriaethol a gweithredol i gyfarwyddo materion mewnol y rhanbarthau. 

Ar ben hynny, mae Erthygl 39 o Gyfansoddiad Ethiopia yn rhoi'r hawl i bob gwladwriaeth ranbarthol ymwahanu o Ethiopia. Ceir dadl, fodd bynnag, ynghylch faint o’r pŵer a warantir yn y cyfansoddiad sy’n cael ei roi i’r gwladwriaethau mewn gwirionedd. Mae'r cynghorau yn rhoi eu mandad ar waith drwy bwyllgor gwaith a chanolfannau sectoraidd rhanbarthol. Ceir strwythur cywrain o sefydliadau cyhoeddus, cynghorau, ecseciwtif a'r sector gyhoeddus sy'n cael ei ailadrodd ar y lefel nesaf (y woreda). 

Daearyddiaeth

Yn 426,372.61 milltir sgwar (1,104,300 km2), Ethiopia oedd 28ain wlad fwyaf yn y byd yn 2022, sy'n debyg o ran maint i Bolifia.

Gorwedd rhan fawr o Ethiopia yng Nghorn Affrica, sef y rhan fwyaf dwyreiniol o dir Affrica. Y tiriogaethau sydd â ffiniau ag Ethiopia yw Eritrea i'r gogledd ac yna, gan symud i gyfeiriad clocwedd, Djibouti, Somaliland, Somalia, Kenya, De Swdan a Swdan. O fewn Ethiopia ceir ucheldir eang o fynyddoedd a llwyfandiroedd dyranedig wedi'u rhannu gan Ddyffryn yr Hollt Enfawr (Great Rift Valley), sy'n gorwedd o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain ac wedi'i amgylchynu gan iseldiroedd, paith, neu led-anialwch. Mae yna amrywiaeth eang o dir gydag amrywiadau eang o wahanol hinsawdd, priddoedd, llystyfiant naturio a phatrymau anheddu.

Mae Ethiopia yn wlad ecolegol amrywiol, sy'n amrywio o'r anialwch ar hyd y ffin ddwyreiniol i'r coedwigoedd trofannol yn y de i'r Afromontane helaeth yn y rhannau gogleddol a de-orllewinol. Llyn Tana yn y gogledd yw tarddiad y Nîl Las. Mae ganddi hefyd lawer o rywogaethau endemig, yn enwedig y gelada, y creigafr (ibecs) a blaidd Ethiopia (Canis simensis). Mae'r amrywiaeth uchder wedi rhoi amrywiaeth o ardaloedd ecolegol unigryw i'r wlad, ac mae hyn wedi helpu i annog esblygiad rhywogaethau endemig mewn unigeddau ecolegol.

Hinsawdd

Ethiopia 
Dosbarthiad hinsawdd Köppen o Ethiopia

Y math pennaf o hinsawdd yw'r monsŵn trofannol, gyda nifer o amrywiadau a achosir gan y tirffurfiau. Mae Ucheldir Ethiopia yn gorchuddio'r rhan fwyaf o'r wlad ac mae gan y mynyddoedd hyn hinsawdd sydd ar y cyfan yn llawer oerach na rhanbarthau eraill sy'n debyg iawn i'r Cyhydedd. Mae'r rhan fwyaf o ddinasoedd mawr y wlad wedi'u lleoli ar uchder o tua 2,000-2,500 metr uwch lefel y môr, gan gynnwys prifddinasoedd hanesyddol fel Gondar ac Axum.

Mae'r brifddinas fodern, Addis Ababa, wedi'i lleoli ar odre Mynydd Entoto ar uchder o tua 2,400 metr ac mae'n profi hinsawdd fwyn trwy gydol y flwyddyn. Gyda thymheredd gweddol unffurf trwy gydol y flwyddyn, mae'r tymhorau yn Addis Ababa yn cael eu diffinio'n bennaf gan lawiad: tymor sych o Hydref i Chwefror, tymor glawog ysgafn o Fawrth i Fai, a thymor glawog trwm o Fehefin i Fedi. Y glawiad blynyddol cyfartalog yw tua 1,200 mm. Er mwyn cymharu, y man gwlypaf yng Nghymru yw'r Crib Goch yn Eryri, Gwynedd lle ceir 4,473 mm o law ar gyfartaledd, y flwyddyn.

Ar gyfartaledd ceir saith awr o heulwen y dydd. Y tymor sych yw'r amser mwyaf heulog o'r flwyddyn, er hyd yn oed ar anterth y tymor glawog yma yng Ngorffennaf ac Awst ceir sawl awr o heulwen braf pob dydd. Y tymheredd blynyddol cyfartalog yn Addis Ababa yw 16 °C (60.8 °F), gyda thymheredd uchaf dyddiol ar gyfartaledd o rhwng 20–25 °C (68.0–77.0 °F) trwy gydol y flwyddyn, ac isafbwyntiau dros nos o 5–10 °C (41.0–50.0 °F) ar gyfartaledd.

Mae Ethiopia yn agored i lawer o effeithiau newid hinsawdd ee cynnydd mewn tymheredd a newidiadau mewn dyodiad. Mae newid yn yr hinsawdd yn bygwth diogelwch bwyd a'r economi, sy'n seiliedig ar amaethyddiaeth. Gorfodwyd llawer o Ethiopiaid i adael eu cartrefi a theithio cyn belled â'r Gwlff, De Affrica ac Ewrop.

Ers Ebrill 2019, mae Prif Weinidog Ethiopia, Abiy Ahmed, wedi hyrwyddo prosiect a elwir yn Beautifying Sheger, sy'n ceisio lleihau effeithiau negyddol newid hinsawdd - ymhlith pethau eraill - yn y brifddinas Addis Ababa. Y Mai canlynol, cynhaliodd y llywodraeth "Dine for Sheger", digwyddiad codi arian er mwyn talu rhywfaint o'r $1. biliwn sydd ei angen drwy'r cyhoedd. Codwyd $25 miliwn drwy'r gost o fynychu'r digwyddiad a rhoddion.

Darllen pellach

Cyfeiriadau

Tags:

Ethiopia Ei hanes yn grynnoEthiopia HanesEthiopia GeirdarddiadEthiopia CrefyddEthiopia Llywodraeth a gwleidyddiaethEthiopia DaearyddiaethEthiopia Darllen pellachEthiopia CyfeiriadauEthiopiaAddis AbabaAffricaCeniaDe SwdanEritreaJibwtiSomaliaSwdanTirgaeedig

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

PerlysieuynAmaethyddiaethAbaty Dinas BasingLlyn AlawRobert II, brenin yr AlbanPla DuHello! Hum Lallan Bol Rahe HainDelhiCyfrifiadMari, brenhines yr AlbanCaernarfonDulyn365 DyddSir Gawain and the Green KnightCrabtree, PlymouthLlwyau caru (safle rhyw)PensiwnAaron RamseyNapoleon I, ymerawdwr FfraincLinczDillagiBugail Geifr LorraineHTTPCurveMoscfaDerbynnydd ar y topCyfieithiadau i'r GymraegKyivYnys MônCyfrifiadur personolTŷ unnosHywel DdaCasnewyddIkurrinaGêm fideoJuan Antonio VillacañasXXXY (ffilm)Huw ChiswellSant PadrigDiwrnod Rhyngwladol y MerchedBattles of Chief PontiacRhagddodiadCombpyneDafydd Dafis (actor)Y GwyllTwitterLlys Tre-tŵrGwlad PwylGwalchmai ap GwyarYasser ArafatHellraiserGwasanaeth cyhoeddus (cwmni)Nikita KhrushchevAramaegElizabeth TaylorOlwen ReesY Chwyldro FfrengigPornoramaYnys GifftanHeledd CynwalCymraegCerdd DantAlldafliad benywArwrByseddu (rhyw)Walking Tall Part 2Wicipedia Cymraeg🡆 More