Dinas ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngogledd-ddwyrain Brasil a phrifddinas talaith Bahia yw Salvador (enw hanesyddol, São Salvador da Baía de Todos os Santos neu Salvador de Bahia; weithiau Bahia yn unig ar hen fapiau ac mewn llyfrau a gyhoeddwyd cyn canol yr 20g).
Mae'n enwog ym Mrasil am ei charnifal a'i diwylliant poblogaidd, ei cherddoriaeth a'i phensaerniaeth. Salvador oedd prifddinas gyntaf gwladfa Bortiwgalaidd Brasil, ac mae'n un o'r hynaf yn y wlad honno ac un o'r dinasoedd Ewropeaidd hynaf yn y Byd Newydd. Gyda phoblogaeth o 2,892,605 (2007), dyma'r ddinas drydedd fwyaf poblog ym Mrasil, ar ôl São Paulo a Rio de Janeiro, a'r wythfed felly yn America Ladin, ar ôl Dinas Mexico, São Paulo, Buenos Aires, Lima, Bogotá, Rio de Janeiro a Santiago de Chile.
Arwyddair | Sic illa ad arcam reversa est |
---|---|
Math | Bwrdeistref ym Mrasil, metropolitan region |
Enwyd ar ôl | Iesu |
Poblogaeth | 2,418,005 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Hino de Salvador |
Pennaeth llywodraeth | Bruno Reis |
Cylchfa amser | UTC−03:00 |
Gefeilldref/i | Fflorens, Angra wneud Heroismo, Cayenne, Cascais, Lisbon, Los Angeles, Philadelphia, Valparaíso, Natal, Maracay, Chongqing |
Nawddsant | Francis Xavier |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Greater Salvador, Immediate Geographic Region of Salvador, Mercosur Cities Network |
Sir | Bahia |
Gwlad | Brasil |
Arwynebedd | 693 km² |
Uwch y môr | 8 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd, Bay of All Saints, Enseada dos Tainheiros, Enseada do Cabrito, Baía de Aratu |
Yn ffinio gyda | Lauro de Freitas, Simões Filho, Saubara, Candeias, Itaparica, Madre de Deus, Salinas da Margarida, São Francisco do Conde, Vera Cruz |
Cyfesurynnau | 12.9831°S 38.4928°W |
Cod post | 40000-000 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Municipal Prefecture of Salvador |
Corff deddfwriaethol | Municipal Chamber of Salvador |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Salvador |
Pennaeth y Llywodraeth | Bruno Reis |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.759 |
Mae dros 80% o boblogaeth Salvador o dras etnig Affricanaidd, ac mae'n brif ganolfan y diwylliant Affro-Frasilaidd. Mae canol Salvador, y 'Pelourinho', yn nodweddol am ei adeiladau hanesyddol, yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Salvador, ac mae wedi cael ei dynodi gan UNESCO yn Safle Treftadaeth y Byd ers 1985.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Salvador, Brasil, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.