Athroniaeth

Astudiaeth o sut y dylem fyw (moeseg), sut mae pethau'n bodoli (metaffiseg), natur gwybod (epistemoleg), a rhesymeg yw athroniaeth.

Athroniaeth
Athroniaeth
Enghraifft o'r canlynoldisgyblaeth academaidd, pwnc gradd, cangen o wyddoniaeth, maes gwaith Edit this on Wikidata
Mathsystem gwybodaeth, gradd academaidd Edit this on Wikidata
Rhan odyniaethau Edit this on Wikidata
Yn cynnwysOntoleg, metaffiseg, epistemoleg, athroniaeth gwyddoniaeth, athroniaeth foesol, athroniaeth rhesymeg, estheteg, athroniaeth wleidyddol, moeseg, rhesymeg, philosophy of language, Athroniaeth y meddwl, athroniaeth crefydd, philosophy of mathematics, philosophy of history Edit this on Wikidata
Enw brodorolφιλοσοφία Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Athroniaeth
Edward Herbert neu'r 'Barwn Herbert o Cherbury. "Tad athroniaeth yng Nghymru."

Mae athroniaeth yn astudiaeth o broblemau cyffredinol a gwaelodol sy'n ymwneud â bodolaeth, gwybodaeth, gwerthoedd, rheswm ac iaith.

Gellir gwahaniaethu rhwng athroniaeth a dulliau eraill sy'n ceisio ateb y cwestiynau hyn (e.e. cyfriniaeth, mytholeg neu'r celfyddydau) drwy ei dull systematig, gwyddonol a'i dibyniaeth ar ddadleuon rhesymegol.

Mae llawer o Gymry wedi ymhel â chwestiynau mawr crefydd yn hytrach nag athroniaeth fel y cyfryw, a bu perthynas agos rhwng diwinyddiaeth ac athroniaeth yng Nghymru ers sawl canrif. Yr athronydd cyntaf y gwyddom amdano yng Nghymru oedd Edward Herbert (1583-1648), a gellid dadlau mai ystyriaethau crefyddol a chyfrinol oedd y tu ôl i'r hyn a ysgrifennai Morgan Llwyd (1619-1659) am yr hunan.

Y gair gwreiddiol am athroniaeth yn y Gorllewin oedd y gair Groeg φιλοσοφία (philosophia), sy'n golygu "cariad at wybodaeth".

Gwybodaeth a gwirionedd

Yn ei ystyr athronyddol, y corff o ffeithiau, dealltwriaeth a medrau sydd gan berson neu grŵp yw gwybodaeth. Epistemoleg yw astudiaeth gwybodaeth.

Realiti

Y cyflwr o fod yn real, hynny yw pethau fel y maent yn wirioneddol fod yn hytrach nag fel y dymunir iddynt fod, yw realiti.

Yr hunan

Athroniaeth    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Metaffiseg

Cangen o athroniaeth sy'n ymwneud ag egwyddorion sylfaenol yw metaffiseg. Ei nod yw cael gwybod am wir ystyr pethau a'u hanfod, ac felly mae'n astudio yn bennaf cysyniadau haniaethol, hynny yw pethau nad oes modd eu profi'n ddiriaethol.

Athroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaethol

Athroniaeth wleidyddol

Athroniaeth sy'n ymwneud â chysyniadau a dadleuon gwleidyddol yw athroniaeth wleidyddol. Mae'n astudio a thrafod pynciau megis rhyddid, cyfiawnder, hawliau a dyletswyddau, rhwymedigaethau, y gyfraith, eiddo, grym, awdurdod, systemau gwleidyddol, a natur llywodraeth, yn enwedig ei phwrpas, ei swyddogaethau a'i chyfreithlondeb.

Athroniaeth crefydd a diwinyddiaeth

Athroniaeth    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Athroniaeth y gwyddorau a rhesymeg

    Prif: Athroniaeth y gwyddorau a Rhesymeg

Athroniaeth    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Estheteg

Cangen o athroniaeth yw estheteg sy'n ymwneud â natur prydferthwch, celfyddyd, a chwaeth. Nod estheteg yw i ddarparu meini prawf o ddelfrydau ar gyfer astudiaeth feirniadol o'r celfyddydau.

Moeseg

Astudiaeth athronyddol maes moesoldeb, sef y cwestiwn mawr o "sut y dylem fyw", yw moeseg. Gellir rhannu hanes moeseg yn y Gorllewin yn sawl rhan, gan gychwyn gyda Groegiaid yr Henfyd a gwaith y Soffyddion fel Protagoras ac wedyn athronwyr mawr fel Socrates, Platon ac Aristotlys. Ar seiliau gwaith y Groegiaid ond dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth amlwg y Testament Newydd, datblygodd moeseg Gristnogol. Un o foesegwyr mawr yr Oesoedd Canol oedd Thomas Aquinas a ddilynodd Aristotlys mewn sawl maes ond a roddodd y pwyslais ar y dyletswydd i ufuddhau i ddeddfau Duw. Yn y Cyfnod Modern newidiodd cyfeiriad moeseg a datblygodd Naturiolaeth Foesegol, a welir yng ngwaith Thomas Hobbes, er enghraifft. Ond daeth syniadau eraill i'r amlwg, rhai ohonynt yn wrthwynebus i syniadaeth Hobbes, a chafwyd sawl athroniaeth moes yn cynnwys Iwtilitariaeth, athroniaeth Immanuel Kant a moeseg ôl-Kantaidd, sy'n ymrannu'n sawl ffrwd.

Ethos bywyd yr unigolyn yw moeseg; moesoldeb yw'r agweddau sy'n ymwneud â phobl eraill a chymdeithas oll, megis dyletswyddau ac iawnderau. Delfrydau'r ddamcaniaeth foesol nodweddiadol yw cyffredinoliaeth ac amhleidioldeb, ac yn aml bydd y damcaniaethwr normadol yn llunio egwyddorion a safonau ymddygiad er mwyn byw'n moesegol. Mae rhai'n gweld y reddf ddynol a synnwyr cyffredin yn sylfeini moeseg. Hyd yn oedd mewn damcaniaethau sy'n honni eu bod yn hollgyffredinol, maent yn "feysydd ffrwydron" moesegol sy'n llawn cyfyng-gyngor a dilemâu sy'n ddadleuon cymhleth o egwyddorion, cafeatau, amodau arbennig, ac anghysondebau.

Hanes

Athroniaeth y Gorllewin

Athroniaeth    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Athroniaeth India

Athroniaeth    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Athroniaeth Dwyrain Asia

Athroniaeth 
Conffiwsiws; darlun gan E. T. C. Werner.

Athroniaeth    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Athroniaeth Affrica

Athroniaeth    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Llinell amser

ProclusIamblichus o SyriaPorphyryPlotinusSextus EmpiricusMarcus AureliusPtolemiEpictetusSeneca'r IeuafPhiloLucretiusCiceroCarneadesEratosthenesChrysippusArchimedesAristarchus o SamosTimon (athronydd)EuclidZeno o CitiumEpicurusStrato o LampsacusPyrrhoTheophrastusAristotelesDiogenes o SinopePlatonXenophonAristippusAntisthenesSocratesDemocritusMelissus o SamosLeucippusPhilolausGorgiasProtagorasZeno o EleaEmpedoclesAnaxagorasParmenidesHeraclitusXenophanesPythagorasAnaximenes o MiletusAnaximandrosThalesAthroniaeth

Rhai athronwyr enwog

Rhai athronwyr o Gymru

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Tags:

Athroniaeth Gwybodaeth a gwirioneddAthroniaeth RealitiAthroniaeth Yr hunanAthroniaeth MetaffisegAthroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaetholAthroniaeth HanesAthroniaeth Rhai athronwyr enwogAthroniaeth Gweler hefydAthroniaeth CyfeiriadauAthroniaethEpistemolegMetaffisegMoesegRhesymeg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

The WayDinas LlundainTeyrnas GwyneddY PhilipinauEmoções Sexuais De Um CavaloData cysylltiedigHedfanConsol gemauCrimeaNeft KəşfiyyatçılarıAmgylcheddaethDavid Lloyd GeorgePidynAnna MarekCyfathrach rywiolEirlysAsthma1955Sefydliad WicifryngauAnna SewardPencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2008Incwm sylfaenol cyffredinolYnysoedd Gogledd MarianaAngkor WatCymunSaint-John Perse30 MehefinTulia, TexasLyn EbenezerCysawd yr HaulFietnam19 TachweddGwainDadfeilio ymbelydrolCatrin ferch Owain Glyn DŵrPlaid wleidyddol69 (soixant-neuf)Comin WicimediaAlun Wyn JonesCroatiaOrganau rhywMis Hanes Pobl DduonHwngariSendaiRhestr enwau Cymraeg ar lefydd yn LloegrParamount PicturesCascading Style SheetsDemolition ManKemi BadenochPwyllgor TrosglwyddoChawtonBridge of Spies (ffilm)AnilingusGareth MilesBelarwsRosetta (cerbyd gofod)Ofrenda a La TormentaSystem atgenhedluRhyw rhefrolGeronima Cruz MontoyaBanc LloegrMow Cop🡆 More