Super Furry Animals: Grŵp roc Cymraeg

Band roc arbrofol o Gymru yn canu yn y Gymraeg a'r Saesneg yw Super Furry Animals, a adnabyddir hefyd dan y byrenwau Super Furries neu SFA.

Mae'r band wedi ei ffurfio o weddillion Ffa Coffi Pawb a oedd yn cynnwys Gruff Rhys a Dafydd Ieuan fel aelodau gwreiddiol. Maent yn enwog yng Nghymru am yr albwm Mwng [1] Archifwyd 2007-12-04 yn y Peiriant Wayback. sef y cryno ddisg mwyaf llwyddiannus o ran gwerthiant erioed yn yr iaith Gymraeg.

Super Furry Animals
Super Furry Animals: Gyrfa, Disgograffi, Dolenni Allanol
Enghraifft o'r canlynolband roc Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioEpic Records, Creation Records Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1993 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1993 Edit this on Wikidata
Genreroc amgen, seicadelia newydd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHuw Bunford, Gruff Rhys, Cian Ciarán, Dafydd Ieuan, Guto Pryce Edit this on Wikidata
Enw brodorolSuper Furry Animals Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.superfurry.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gyrfa

Yng nghanol twf y grwpiau 'Cŵl Cymru' yng nghanol y 1990au, aeth Dafydd Ieuan (drymiwr gyda Catatonia) ati i berswadio Gruff Rhys i ddychwelyd o fod yn artist yn Sbaen er mwyn ffurfio band newydd. Y nod oedd manteisio ar y sylw roedd y diwydiant recordiau yn Llundain yn dangos tuag at gerddoriaeth o Gymru.

Yn syth, sicrhaodd record cynta'r grwp, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (In Space) ar label Ankst yn 1995, gytundeb recordio efo label pwysica'r cyfnod - Creation Records.

Yn wahanol i stori Ffa Coffi Pawb (grŵp Dafydd a Gruff yn yr 80au) llwyddodd y Super Furry Animals i droi'r freuddwyd pop yn realiti. Wnaethon nhw osod eu hunain ar unwaith yng nghanol y byd 'Britpop' a mynnu sylw a chlod am greu cerddoriaeth llawn dychymyg oedd ben ac ysgwydd uwchlaw gweddill grwpiau ystrydebol y cyfnod.

Ar ddechrau ei gyrfa, recordiodd y grŵp cyfres o albymau gwych - Fuzzy Logic (1996), Radiator (1998), a Guerilla (1999) - yn arddangos gallu arallfydol Gruff Rhys i sgrifennu clasuron pop.

Ers y cychwyn mae'r SFA wedi gweithio'n ddi-ddiwedd i sicrhau bod eu cerddoriaeth yn cyrraedd y gynulleifa fwya posib - gan deithio bob man ar draws y byd ac ymddangos ar bob rhaglen deledu o Top of the Pops i Richard and Judy. Yn ôl Gruff, "does gan y grŵp ddim problem efo chwarae'r gêm yma".

Mae'r gêm yn cynnwys cludo tanc ffyri i wyliau roc, uniaethu efo Howard Marks - gwerthwr cyffuriau mwya'r byd, creu cymeriadau awyr anferth, chwarae gigs roc sy'n troi'n naturiol mewn i rêfs ecstatig, saethu fideos pop yng Ngholombia, noddi clwb pêl-droed, chwarae trwy systemau sain quadraphonic, recordio sengl sy'n cynnwys mwy o regfeydd nag unrhyw record erioed o'r blaen, a rhyddhau albym yn y Gymraeg sy'n cyrraedd y siartiau Prydeinig.

Fel grŵp maen nhw wedi swyno'r wasg a'r gynulleidfa efo'u Cymreictod naturiol a'u gallu i wyrdroi'r hen drefn ddiflas o fod mewn band, gyda deallusrwydd ac arddulliau o'r byd celf.

Rhyddhawyd yr albwm diweddaraf, Dark Days, Light Years yn 2009 (Rough Trade Records) ac ers hynny mae'r band wedi canolbwyntio ar waith unigol gyda Gruff Rhys yn arbennig o weithgar yn rhyddhau nifer o albymau fel CandyLion a Hotel Shampoo a'i brosiect llwyddiannus Neon Neon. Bu sibrydion fod y band wedi chwalu ond mae yna obaith y bydd SFA yn dychwelyd unwaith eto gydag albwm newydd yn y dyfodol agos.

Does na ddim byd sy'n arferol am y Super Furry Animals er bod eu credo yn un syml, yn ôl Gruff: "da ni'n obsessed efo miwsic a jest isio creu albyms ffantastic".

Disgograffi

Albymau

  • Fuzzy Logic - 20 Mai 1996
  • Radiator - 25 Awst 1997
  • Out Spaced - 23 Tachwedd 1998
  • Guerrilla - 7 Mehefin 1999
  • Mwng - 15 Mai 2000
  • Rings Around The World - 23 Gorffennaf 2001
  • Phantom Power - 21 Gorffennaf 2003
  • Phantom Phorce - 12 Ebrill 2004
  • Songbook: The Singles Volume One - 4 Hydref 2004
  • Under The Influence - 5 Ebrill 2005
  • Love Kraft - 22 Awst 2005
  • Furry Selection - 4 Mehefin 2007
  • Hey Venus! - 27 Awst 2007
  • Dark Days/Light Years - 13 Ebrill 2009 (rhyddhawyd yn ddigidol ar 16 Mawrth)

Senglau

  • Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyndrobwllantysiliogogogochynygofod (In Space) EP - Awst 1995
  • Moog Droog EP - Medi 1995
  • Mortal Wombat (Fierce Panda EP ft Don't Be A Fool, Billy) - Hydref 1995
  • Hometown Unicorn - 9 Mawrth 1996
  • God! Show Me Magic - 11 Mai 1996
  • Something 4 The Weekend - 13 Gorffennaf 1996
  • (Nid) Hon Yw'r Gan Sy'n Mynd I Achub Yr Iaith (given away at the Gwernllwyn Club in Cross Hands, Dyfed) - 7 Awst 1996
  • If You Don't Want Me To Destroy You - 12 Hydref 1996
  • The Man Don't Give A Fuck - 14 Rhagfyr 1996
  • Hermann Loves Pauline - 24 Mai 1997
  • The International Language Of Screaming - 14 Gorffennaf 1997
  • Play It Cool - 22 Medi 1997
  • Demons - 24 Tachwedd 1997
  • Ice Hockey Hair EP - 25 Mai 1998
  • Northern Lites - 10 Mai 1999
  • Fire In My Heart - 9 Awst 1999
  • Do Or Die - 17 Ionawr 2000
  • Ysbeidiau Heulog - 1 Mai 2000
  • Juxtapozed With U - 9 Gorffennaf 2001
  • (Drawing) Rings Around The World - 8 Hydref 2001
  • It's Not The End Of The World? - 14 Ionawr 2002
  • Golden Retriever - 14 Gorffennaf 2003
  • Hello Sunshine - 13 Hydref 2003
  • The Man Don't Give A Fuck (live) - 20 Medi 2004
  • Lazer Beam - 15 Awst 2005
  • Show Your Hand - 13 Awst 2007
  • Run-Away - 29 Hydref 2007
  • The Gift That Keeps Giving - 25 Rhagfyr 2007
  • Bing Bong - 13 Mai 2016

DVD

  • Rings Around The World - 23 Gorffennaf 2001
  • Phantom Power - 21 Gorffennaf 2003
  • Songbook: The Singles Volume One - 4 Hydref 2004

Dolenni Allanol

Super Furry Animals: Gyrfa, Disgograffi, Dolenni Allanol  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Tags:

Super Furry Animals GyrfaSuper Furry Animals DisgograffiSuper Furry Animals Dolenni AllanolSuper Furry AnimalsCymraegCymruDafydd IeuanFfa Coffi PawbGruff RhysMwng (albwm)Peiriant WaybackSaesneg

🔥 Trending searches on Wiki Cymraeg:

Gwlad GroegPeiriant WaybackWiciCynghrair y Cenhedloedd 2020–21 UEFACeidwadaethPia BramBlack Hawk County, IowaBrandon, De DakotaMartin AmisGwledydd y bydHydref (tymor)Allen County, IndianaDigital object identifierCardinal (Yr Eglwys Gatholig)Wilmington, DelawareDemolition ManFlavoparmelia caperataMachu PicchuCharmion Von WiegandLady Anne BarnardMeigs County, OhioBaltimore County, MarylandMineral County, MontanaScioto County, OhioPentecostiaethRobert GravesBukkakeY MedelwrCalsugnoMaes awyrMynyddoedd yr AtlasDes Arc, ArkansasY Rhyfel OerOhio City, OhioIda County, IowaCarYmennyddSaesnegCherry Hill, New JerseyLlwybr i'r LleuadBananaJackson County, ArkansasSaunders County, NebraskaOes y DarganfodCOVID-19Nad Tatrou sa blýskaNevadaOlivier MessiaenSosialaethLlyngyren gronDiddymiad yr Undeb SofietaiddCefnfor yr IweryddTrumbull County, OhioMyriel Irfona DaviesMahoning County, OhioGrayson County, TexasRhufainMontevallo, AlabamaWayne County, NebraskaWest Fairlee, VermontCynnwys rhyddMulfranColumbiana County, OhioYmosodiad Israel ar Lain Gaza 2014MadeiraPalais-RoyalRandolph, New JerseyAfon PripyatCarroll County, OhioMelon dŵrWarsawWood County, OhioDawes County, NebraskaPwyllgor Trosglwyddo🡆 More