Lansiwyd Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 (Hebraeg: מִבְצָע צוּק אֵיתָן, Mivtza' Tzuk Eitan, yn llythrennol: Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn; Saesneg: Operation Protective Edge) ar 8 Gorffennaf 2014 gan Lu Amddiffyn Israel (IVF) yn swyddogol yn erbyn aelodau o Hamas ond erbyn 28ain o Awst roedd 2,145 o Balisteinaidd wedi eu lladd (80% sifiliaid) a 10,895 o Balesteiniaid wedi'u hanafu.
Yn y cyfamser, lladdwyd 6 o sifiliaid Israelaidd. Cafwyd ymateb rhyngwladol chwyrn - gan mwyaf yn cytuno bod ymateb milwrol Israel yn rhy lawdrwm ("disproportional").
Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014 | |||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o: Wrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd | |||||||
Ymosodiad gan fyddin Israel ar gartrefi yn ninas Gasa | |||||||
| |||||||
Rhyfelwyr | |||||||
Israel Arfau: Unol Daleithiau America | Mudiadau Palesteinaidd
| ||||||
Arweinwyr | |||||||
Benjamin Netanyahu Prif Weinidog Israel Moshe Ya'alon Gweinyddiaeth Amddiffyn Israel) | Ismail Haniyeh Mohammed Deif (Arweinydd brigâd Izz ad-Din al-Qassam) Ramadan Shalah (Arweinydd y PIJ) | ||||||
Unedau a oedd yn weithredol | |||||||
Llu Amddiffyn Israel Awyrlu Israel Llynges Israel Shin Bet | Asgell arfog Hamas | ||||||
Cryfder | |||||||
176,500 milwr 445,000 wrth gefn | Tua 10,000 o Balesteiniaid arfog | ||||||
Clwyfwyd neu laddwyd | |||||||
64 milwr; 6 sifiliad (oedolion) 400 milwr 23 sifiliad wedi'u hanafu | 2,145 wedi eu lladd (1,462 yn sifiliaid) (ffynhonnell: Canolfan Iawnderau Palesteina) |
Roedd yr ymosodiad hwn gan Israel yn dilyn sawl ffactor gan gynnwys lladd tri bachgen; ac roedd awdurdodau Israel yn beio Hamas. Gwadodd Hamas unrhyw gysylltiad â llofruddiaeth y tri bachgen. Ffactorau cefndirol eraill oedd bod cyflwr bywyd yn y Llain Gaza wedi gwaethygu'n arw ers ei droi'n warchae yn 2005 a methiant cynlluniau Unol Daleithiau America i greu cynllun heddwch derbyniol. Yn y gwrthdaro dilynol lladdodd byddin Israel 8 o Balesteiniaid ac arestiwyd cannoedd o bobl ganddynt. Ymatebodd Hamas drwy ddweud na fyddai'n ymatal hyd nes bod Israel yn rhyddhau'r bobl hyn.
Erbyn y 12fed taniwyd 525 roced o Lain Gaza i gyfeiriad Israel ac ataliwyd 118 ohonynt gan system arfau Iron Dome Israel. Credir bod 22 o sifiliaid Israelaidd wedi derbyn mân-anafiadau.
Yr ymosodiad hwn oedd y mwyaf gwaedlyd yn Gaza ers 1957. Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai y Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor Ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.
Cyhoeddodd Amnest Rhyngwladol nad oedd unrhyw dystiolaeth bod sifiliaid wedi cael eu defnyddio fel tariannau i amddiffyn arfau neu bersonél. Cyhoeddodd Human Rights Watch fod ymateb llawdrwm Israel yn "disproportionate" and "indiscriminate".
Mae'r ymateb o du gwledydd eraill yn amrywio o'r naill begwn i'r llall. Er enghraifft ar 9 Gorffennaf 2014, ffoniodd Canghellor yr Almaen Angela Merkel Benjamin Netanyahu i gollfarnu "without reservation rocket fire on Israel". Ymateb Gweinidog Materion Tramor Iwerddon drwy ddweud, "(We are) gravely concerned at the escalating violence and civilian casualties" a'i fod yn collfarnu'r ddwy ochr yn gyfartal ac apeliodd am gadoediad." Condemniodd Llywodraeth Pacistan (ar 9 Gorffennaf) y trais a'r lladd yn Gasa a achoswyd gan ffyrnigrwydd Israel.
Ymddiswyddodd Baronness Warsi fel Gweinidog gan ddweud na fedrai gytuno â Pholisi Llywodraeth Prydain ac, “It appals me that the British government continues to allow the sale of weapons to a country, Israel, that has killed almost 2,000 people, including hundreds of kids, in the past four weeks alone. The arms exports to Israel must stop.” Ymatebodd y Prif Weinidog David Cameron drwy ddweud, “I understand your strength of feeling on the current crisis in the Middle East – the situation in Gaza is intolerable.”.
Mae sawl mudiad dyngarol e.e. Amnesty Rhyngwladol, B'Tselem a Human Rights Watch wedi datgan bod Israel yn gyfrifol am dorri deddfau rhyfel o dan cyfreithiau rhyngwladol dry ladd sifiliaid a dinistrio cartrefi sifiliaid. Mynegodd Uwch Gomisiynydd Hawliau Iawnderau Dynol y Cenhedloedd Unedig hefyd fod yna "bosibilrwydd cryf" bod Israel wedi torri deddfau rhyngwladol "in a manner that could amount to war crimes". Mae'r C.U. hefyd wedi condemnio Hamas o anelu ei rocedi at sifiliaid Israelaidd a chydnabyddodd Navi Pillay, Llysgennad Palesteina yng Nghyngor Hawliau Dynol y C.U. fod Hamas wedi torri deddfau rhyngwladol drwy wneud hyn.
Ymosodwyd ar rai o'r prostestwyr heddychlon fu'n mynychu'r protest yn erbyn y rhyfel yn Tel Aviv gan eithafwyr Israelaidd adain-dde. Ar 21 Gorffennaf caewyd stryd fawr Nazareth yn llwyr wrth i fusnesau a thrigolion y dref uno gyda phrotest cyffredinol yn erbyn ymosodiad pythefnos oed gan Israel ar y Palesteiniaid yn Gaza. Arestiwyd dros 700 o gan heddlu Israel. Cafwyd protestiaidau tebyg drwy Israel.
Cynhaliwyd hefyd sawl protest o blaid Israel yn yr UDA ond roedd mwyafrif helaeth y protestiadau, mewn llawer o wledydd ledled y byd, yn erbyn gweithredoedd Israel gan gynnwys:
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.