Y Lan Orllewinol yw'r enw ar un o Diriogaethau Palesteinaidd yn y Dwyrain Canol ar lan orllewinol Afon Iorddonen, rhwng Israel yn y gorllewin a Gwlad Iorddonen yn y dwyrain.
Un o'r symbolau yn erbyn Israel yw merch ifanc o'r enw Ahed Tamimi, a garcharwyd heb dreial yn 2017 am herio plismyn arfog.
Math | tiriogaeth dan feddiant, tiriogaeth ddadleuol, rhan o Balesteina |
---|---|
Enwyd ar ôl | gorllewin |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Mahmoud Abbas |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwladwriaeth Palesteina, Tiriogaethau Palesteinaidd, Israeli-occupied territories |
Gwlad | Gwladwriaeth Palesteina, Israeli-occupied territories |
Arwynebedd | 5,860 km² |
Gerllaw | Môr Marw, Afon Iorddonen |
Yn ffinio gyda | Israel, Gwlad Iorddonen |
Cyfesurynnau | 32°N 35.35°E |
Pennaeth y Llywodraeth | Mahmoud Abbas |
Mae'n cynnwys bryniau Judaea a Samaria a rhan o ddinas Jeriwsalem. Mae prif ddinasoedd a threfi'r Lan Orllewinol yn cynnwys Jenin, Nablus, dwyrain Jeriwsalem, Bethlehem, Ramallah, Hebron a Jericho. Ceir hefyd ddinas newydd Rawabi.
Yn rhan o Balesteina yn sgîl yr Ail Ryfel Byd, daeth i feddiant Gwlad Iorddonen ar ôl cadoediad 1949 a sefydlu gwladwriaeth Israel. Cafodd ei meddiannu eto gan Israel yn y Rhyfel Chwe Diwrnod Israel-Arabiaidd (1967).
Newidiodd polisïau gweinyddiad y Lan Orllewinol yn sgil arwyddo cytundeb Oslo II ym 1995 gan Yasir Arafat a Yitzak Rabin. Rhannwyd y tir yn dri chategori gweinyddol ardaloedd A, B ac C (nid yw'r ardaloedd yn ddi-dor), ac 11 dalgylch. Ar hyn o bryd, mae ardaloedd A, B ac C yn cynrychioli 17%, 24% a 59% o'r arwynebedd yn ôl eu trefn. Mae awdurdod sifil llawn gan yr Awdurdod Cenedlaethol Palesteina yn ardal A, gweinyddir ardal B ar y cyd rhwng yr Awdurdod ac Israel, tra bod ardal C dan reolaeth Israelaidd llawn. Mae'n debyg fod 98% o boblogaeth Palesteina yn byw yn ardaloedd A a B. Erys nifer o drefedigaethau Israelaidd ar y tir mwyaf ffrwythlon yn y gorllewin. Mae Israel yn dal ei gafael ar y rhan fwyaf o'r trefedigaethau, nifer o'r ardaloedd gwledig, y ffyrdd, y cyflenwad dŵr, yr awyr uwch y Lan gyfan, a'r ardaloedd ar y ffiniau.
Mae Israel wedi codi mur rhyngddi a'r Lan Orllewinol.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Y Lan Orllewinol, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.