Ganwyd Mahmoud Abbas (محمود عباس) ar 26 Mawrth, 1935); caiff ei adnabod, hefyd, dan ei enw Arabeg Kunya Abū Māzin (ابو مازن) sef Tad Mazen; Mazen yw enw mab cyntaf-anedig Abbas).
Fe'i etholwyd yn gadeirydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteina (PNA) ar 11 Tachwedd 2005 ac yn Arlywydd Palesteina ers 15 Ionawr 2005.
Mahmoud Abbas محمود عباس | |
| |
Llywydd Awdurdod Cenedlaethol Palesteinia | |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 15 Ionawr 2005 | |
Prif Weinidog | Ahmad Qurei Nabil Shaath Ahmad Qurei Ismail Haniyeh Salam Fayyad |
---|---|
Rhagflaenydd | Rauhi Fattouh |
Prif Weinidog Awdurdod Cenedlaethol Palesteina | |
Cyfnod yn y swydd 19 Mawrth 2003 – 06 Medi 2003 | |
Arlywydd | Yasser Arafat |
Rhagflaenydd | Neb |
Olynydd | Ahmad Qurei |
Geni | 26 Mawrth 1935 Safed |
Plaid wleidyddol | Fatah |
Priod | Amina Abbas |
Mae'n un o brif wleidyddion Fatah prif blaid Mudiad Rhyddid Palesteina neu'r PLO. Cafodd Fatah ei sefydlu yn 1959 gan aelodau o'r dispora gan gynnwys Yasser Arafat.
Fe'i etholwyd hyd at 9 Ionawr 2009, ond oherwydd yr amgylchiadau, penderfynodd barhau'n Arlywydd, ac yn Hydref 2015 roedd yn dal yn y swydd. Oherwydd hyn, cyhoeddodd Hamas na fyddent yn ei gydnabod yn Arlywydd, gan nad oedd wedi cael ei ethol yn ddemocrataidd ers cyhyd. Bu'n Brifweinidog Awdurdod Cenedlaethol Palesteina o Fawrth i Hydref 2003 pan ymddeolodd oherwydd diffyg ymdrech gan Israel ac UDA ac oherwydd cynnen tuag at ei lywodraeth gan lawer o wledydd y byd. Parhaodd ef yn Arlywydd Cyngor Deddfwriaethol Palesteina gan ei ethol ar 8 Mai 2005; ailetholwyd ef ar 23 Tachwedd 2008 ac bod sôn a disgwyl cyfansoddiadol ers hynny, gan gynnwys ym Mai 2021, ni gynhaliwyd un.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Mahmoud Abbas, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.