Ar 13 Hydref 2023, chwe diwrnod wedi dechrau Rhyfel Gaza, gorchmynnodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) wacâd y rhan o Lain Gaza i ogledd Wadi Gaza, gan gynnwys Dinas Gaza, gan gyfarwyddo sifiliaid i symud i dde'r llain ymhen 24 awr.
Cychwynnodd allfudiad ar raddfa enfawr o drigolion Palesteinaidd, ac erbyn 14 Hydref symudodd cannoedd o filoedd ohonynt tua'r de. Mae disgwyl i Israel oresgyn y diriogaeth fel rhan o'r rhyfel yn erbyn Hamas, sy'n rheoli Llain Gaza.
Map o Lain Gaza gyda'r llinell wacâd ar hyd Wadi Gaza yn ddu. | |
Enghraifft o'r canlynol | trosglwyddo poblogaeth, evacuation |
---|---|
Dyddiad | Hydref 2023 |
Rhan o | Rhyfel Gaza |
Dechreuwyd | 13 Hydref 2023 |
Lleoliad | Llain Gaza |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Mae gan Lain Gaza ddwysedd poblogaeth uchel, a thrigiannodd mwy nag un filiwn o bobl yn y gogledd—rhyw hanner o gyfanswm poblogaeth y llain—ar ddechrau'r rhyfel. Yn y dyddiau cyn y gorchymyn, bu farw 1,800 o bobl yn Llain Gaza o ganlyniad i ymgyrch fomio Israel, ac yn ôl y Cenhedloedd Unedig cafodd mwy na 423,000 o drigolion Gaza eu dadleoli'n fewnol yn barod. Gollyngodd yr IDF daflenni o'r awyr ar Ddinas Gaza yn cyfarwyddo sifiliaid i "ymadael i'r de er diogelwch eich hunain a diogelwch eich teuluoedd" ac i "ymddieithrio'ch hunain oddi wrth derfysgwyr Hamas sy'n defnyddio chi fel tarianau dynol". Ffoes yr ymadawyr mewn ceir, bysiau bychain a chertiau mulod, ac ar gerdded, er gwaetha'r prinder tanwydd o ganlyniad i warchae Israel ar Lain Gaza, a ffyrdd a ddinistriwyd gan fomiau'r IDF.
Câi'r gorchymyn ei gondemnio gan nifer fel "dadleoli gorfodol" a'r ddiboblogaeth ei galw'n "ail Nakba" gan Mahmoud Abbas, Arlywydd Gwladwriaeth Palesteina. Mynegai Stéphane Dujarric, llefarydd o'r Cenhedloedd Unedig, bryder bod y fath ymadawiad yn "amhosib heb ganlyniadau dyngarol dinistriol". Er gwaetha'r bygythiad, erfynai gweinyddiaeth gartref Llain Gaza ar bobl i aros yn y fan. Cyhuddwyd Hamas gan John Kirby, llefarydd ar ran Cyngor Diogelwch Cenedlaethol yr Unol Daleithiau, o "godi rhwystrau ar y ffyrdd i atal pobl rhag dianc".
Er i Israel annog i bobl ymadael er diogelwch eu hunain, cafodd cerbydau a oedd yn cludo sifiliaid ar hyd ffordd Salah-a-Din, un o'r ddau lwybr tua'r de, eu bomio gan yr IDF yn hwyr y prynhawn ar 13 Hydref. Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Palesteina, lladdwyd 70 o bobl yn y cyrch awyr.
This article uses material from the Wikipedia Cymraeg article Gwacâd gogledd Llain Gaza, which is released under the Creative Commons Attribution-ShareAlike 3.0 license ("CC BY-SA 3.0"); additional terms may apply (view authors). Rhoddir testun y dudalen ar gael ar delerau'r drwydded CC BY-SA 4.0, heblaw ei fod wedi nodi'n wahanol. Images, videos and audio are available under their respective licenses.
®Wikipedia is a registered trademark of the Wiki Foundation, Inc. Wiki Cymraeg (DUHOCTRUNGQUOC.VN) is an independent company and has no affiliation with Wiki Foundation.